Pont y Borth: Cau yn rhannol ar gyfer gwaith trwsio

  • Cyhoeddwyd
Pont MenaiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Pont y Borth yn 1826

Bydd Pont y Borth yn cau yn rhannol yr wythnos nesaf, er mwyn gwneud gwaith pellach fydd yn golygu gallu ailagor y strwythur yn llawn.

Yn gynharach yn y mis cafodd y bont ei hailagor i gerbydau yn pwyso llai na 7.5 tunnell yn dilyn gwaith dros dro, ond mae angen gwaith pellach cyn gallu ei hailagor i holl draffig.

Oherwydd yr angen am "waith cynnal a chadw hanfodol" fe gaewyd y bont yn ddi-rybudd fis Hydref y llynedd, gan achosi trafferthion i fusnesau a theithwyr yr ardal.

Dim ond Pont Britannia oedd yr unig ffordd i gerbydau groesi rhwng yr ynys a'r tir mawr.

Cau'n rhannol yn ystod y dydd

Cyn ailagor y bont yn llawn bydd angen gwaith i newid yr holl hangeri, gan olygu mai dim ond un lôn fydd i draffig am gyfnodau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd cyfnod treialu yn dechrau ar 6 Mawrth, gyda'r bwriad o'i gwblhau o fewn pedwar diwrnod os bydd y tywydd yn ffafriol.

Er mwyn "tarfu cyn lleied â phosibl yn yr ardal leol", bydd y goleuadau traffig ond yn cael eu defnyddio rhwng 09:00 a 15:00.

Mewn datganiad dywedon nhw: "Bydd angen i ni gau lôn dros dro ar y bont er mwyn caniatáu i beirianwyr weithio'n ddiogel a phrofi'r system newid hangeri arfaethedig.

"Pan fydd lôn ar gau, bydd goleuadau traffig yn gweithredu'n rhan amser ar bob pen i'r bont - gan ganiatáu i gerbydau groesi i'r naill gyfeiriad neu'r llall pan fydd hynny'n cael ei ganiatáu.

"Bydd y treialu yn dechrau ar y 6 Mawrth a'r bwriad yw ei gwblhau o fewn pedwar diwrnod, er y gallai hyn gymryd mwy o amser os oes tywydd garw neu broblem annisgwyl arall."

Pynciau cysylltiedig