Pont y Borth i Ynys Môn yn ailagor wedi gwaith atgyweirio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ar ôl tri mis o fod ar gau oherwydd risgiau diogelwch difrifol mae Pont y Borth wedi ailagor

Mae Pont y Borth wedi ailagor rhwng Ynys Môn a Gwynedd, wedi iddi fod ar gau am fisoedd oherwydd bod angen atgyweirio brys.

Cafodd y bont ei chau'n sydyn ddiwedd Hydref, gyda dim rhybudd i drigolion lleol, oherwydd bod angen gwneud "gwaith cynnal a chadw hanfodol".

Fe wnaeth hynny achosi trafferthion i fusnesau a theithwyr yr ardal, gan mai Pont Britannia oedd yr unig ffordd ar agor wedyn i gerbydau rhwng yr ynys a'r tir mawr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn falch o weld bod y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr, fel gafodd ei addo, gan gydnabod fod y gwaith wedi "effeithio" ar bobl leol.

Ychwanegodd Cyngor Môn y bydd ailagor y bont yn "rhyddhad i'r nifer fawr o fusnesau, trigolion a chymudwyr" gafodd eu heffeithio.

'Dim ond croesi pan oedd angen'

Cafodd Pont y Borth - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Pont Menai - ei dylunio gan Thomas Telford a'i hagor yn 1826.

Am dros ganrif a hanner honno oedd yr unig ffordd oedd yn cysylltu Ynys Môn a gweddill Cymru, tan i ffordd gael ei hychwanegu ar ben rheilffordd Pont Britannia yn 1980.

Mae Lyn Davies yn gweithio ym Mhorthaethwy, ac un o'r rheiny fydd yn falch o weld Pont y Borth yn ailagor wedi'r gwaith atgyweirio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lyn Davies yn teimlo bod cau'r bont wedi cael effaith ar Borthaethwy, wrth i lawer o deithwyr orfod osgoi'r dref

"'Dan ni'n gorfod meddwl pa bryd 'da ni'n mynd drosodd, mewn ffordd, efo cymaint o giws [ar Bont Britannia]," meddai.

"Mae'r dref 'ma hefyd wedi mynd yn ofnadwy o dawel… mae fatha does 'na neb o gwmpas. Mae wedi taro busnesau."

Ychwanegodd Sharon Jones, un arall o'r trigolion, fod y tagfeydd ar Bont Britannia yn sgil cau Pont Menai wedi arwain at lawer o oedi i bobl yn yr ardal dros y misoedd diwethaf.

"Mae wedi bod yn eitha' trafferth i bobl leol, yn enwedig pobl sydd isio mynd drosodd am apwyntiadau yn Ysbyty Gwynedd, neu ddeintydd neu rywbeth felly," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Jones wedi newid ei harferion siopa er mwyn osgoi croesi i ochr arall y Fenai mor aml

"Fy hun yn bersonol dwi wedi tueddu i aros ar yr ynys, a 'mond mynd drosodd os ydi o'n hollol angenrheidiol.

"Ond wrth ddeud hynny mae 'na rywbeth positif wedi dod allan i mi o'r peth, drwy bo' fi'n darganfod siopau bach lleol toeddwn i ddim yn gwybod amdanyn nhw."

'Gwaith pwysig a chymhleth'

Er i'r bont gael ei chau ym mis Hydref, wnaeth y gwaith atgyweirio ddim dechrau tan fis Ionawr, gan gymryd pedair wythnos i gwblhau.

Ar y pryd dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters, sydd hefyd yn gyfrifol am drafnidiaeth, fod y penderfyniad i gau'r bont yn seiliedig ar "gyngor clir gan beirianwyr strwythurol a sgyrsiau gyda'r heddlu".

"Mae'r peryg o ddigwyddiad trychinebus yn digwydd i'r bont yn dal yn isel ond mae'n rhy uchel i ni allu ei risgio," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

'Gyr y byd ei cherbydau drosti' - bydd ceir yn cael croesi Pont y Borth eto o ddydd Iau ymlaen

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont wedi bod ar gau i gerbydau ers diwedd hydref, ond ar agor i gerddwyr a beicwyr

Arweiniodd hynny at gyfnod rhwystredig yn arwain at y Nadolig i fusnesau Porthaethwy, gyda mesurau fel bysus gwennol a pharcio am ddim yn cael eu cyflwyno i geisio denu cwsmeriaid i'r dref.

Ddydd Iau, toc wedi hanner nos, cafodd Pont y Borth ei hailagor yn swyddogol i gerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n parhau weithio gyda'r peirianwyr ar gam nesaf y gwaith, er mwyn ailagor y bont i bob cerbyd.

Ond does dim disgwyl i hynny gael ei gwblhau tan o leia'r hydref eleni, gyda gwaith pellach i "ddechrau ar ddiwedd yr haf".

"Er gwaethaf yr amodau tywydd heriol, rwy'n falch ein bod wedi gallu cwblhau'r gwaith adfer hynod bwysig a chymhleth hwn ar amser," meddai Mr Waters.

Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r bont wedi cau mae trigolion Porthaethwy'n dweud bod y dref wedi bod yn dawelach

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol ac i bawb y mae cau'r bont wedi effeithio arnynt am eu hamynedd yn ystod y cyfnod yma."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn croesawu ailagor y bont i draffig.

"Daw'r newyddion fel rhyddhad i'r nifer fawr o fusnesau, trigolion a chymudwyr sydd wedi eu heffeithio ers i'r bont gau ym mis Hydref 2022," meddai.

"Rydym yn derbyn, fodd bynnag, y bydd angen rhagor o waith ar y bont maes o law.

"Bydd y cyngor sir yn mynd ati i ddylanwadu'n gadarnhaol ar amseriad y gwaith a rheolaeth traffig yn ystod ail gymal y gwaith, er mwyn sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib ar dref Porthaethwy a'r ynys yn ehangach."

Pynciau cysylltiedig