Ateb y Galw: Sara Harris-Davies

  • Cyhoeddwyd
Sara Harris-DaviesFfynhonnell y llun, Sara Harris-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara Harris-Davies

Yr actores Sara Harris-Davies sy'n Ateb y Galw yr wythos yma.

Cafodd Sara ei magu yng Nghaernarfon a Llandeilo ac mae hi bellach yn byw ym Mhontcanna yng Nghaerdydd. Aeth i Goleg Cerdd a Drama Cymru ac mae wedi wedi gweithio ledled Cymru a Lloegr gyda cwmniau fel Bara Caws, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd yn ogystal ag ar Pobol y Cwm.

Ym mis Mai eleni mi fydd hi'n gweithio ar gynhyrchiad o'r enw Truth or Dare gyda Theatr Clwyd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

D'oes gen i ddim syniad o fy atgof cyntaf ond mae'r ddau lun yma yn dynodi dyddiau hapus hefo fy nhad Dewi oedd wrth ei fodd hefo ceffylau. Mae'r llun ohonai ar gefn Pedinc yn sioe Caernarfon yn rhyw frith atgof. Mi gefais rhosyn Highly Commended, sef diolch am ddod yn olaf a diolch am gymeryd rhan.

Ffynhonnell y llun, Sara Harris-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara a'i thad

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le yng Nghymru yw tŷ fy mam (Gwen Tomos) ym Mhorthmadog. Dyw hi ddim hefo ni bellach. Mae'r perchnogion newydd yn gallu mwynhau yr olygfa fendigedig o'r Cnicht, Moelwyn Fawr a Moelwyn Fach. Y Cob a'r Glasfryn yn ogystal a'r llwybr golau mae'r lleuad yn ei adael ar draws y Traeth ar noson ola leuad.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Heb os ac onibai fy noson orau a mwya ofnus oedd noson agoriadol Shirley Valentine yn Nhalybont yn Eisteddfod Aberystwyth 1992. Cafodd Theatr Gorllewin Morgannwg ganiatad Willy Russell i gyfieithu'r ddrama i'r Gymraeg. Joban penigamp wedi'i wneud gan Manon Eames. Fues i bron a pheidio mynd ar y llwyfan o'n i mor nerfus. Ond ar ôl i'r gynulleidfa chwerthin ar y linell gyntaf anodd iawn oedd peidio dod oddi arno. D'oes dim yn well i ego actor na chynulleidfa ar ei thraed noson ar ôl noson. Yn yr un flwyddyn mi gymerais rhan mewn ffilm gan Paul Turner, Cwm Hyfryd.

Ffynhonnell y llun, Sara Harris-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Noson agoriadol Shirley Valentine yn Nhalybont, Eisteddfod Aberystwyth 1992

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Diamynedd, didrafferth, delightful!!!!!!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Gwyliau gyda Sue Roderick yn Kos rhai blynyddoedd yn ôl. Wedi penderfynu mynd am drip o gwmpas yr ynysoedd am ddiwrnod. Sue a finnau wedi eistedd yn daclus wrth ymyl y bar lle oedd brecwast o cheese a ham toasties i'w cael. Roedd y cwch yn llawn ac erbyn bwydo pawb roedd y perchennog druan yn chwys doman ac yn falch o gael seibiant. NES i athro gyrraedd hefo trip o blant a gofyn am ddauddeg pedwar o vegetariantoasties!!!

Mi oedd y perchennog yn gandryll ac mi agorodd pedwar ar hugain o cheeseand ham toasties gan daflu'r ham allan o bob un. Doedd o ddim yn bles o weld Sue a finnau yn chwerthin gymaint.

Ffynhonnell y llun, Sara Harris-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara a Sue Roderick yn Kos

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Sefyll ar ben bwrdd yn Fontana de Trevi Caerdydd yn canu Green Green Grass of Home yn Gymraeg gyda melin bupur fel microphone. Cyfieithwyd gan Noel John pan o'n i'n ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Llandeilo nôl yn y chwedegau.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Mi gries i ddwywaith mewn un blwyddyn. Donald Trump yn Arlywydd a Brexit.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Hwyrfydigrwydd.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr yw Food of the Western World. A dweud y gwir geiriadur ydio o bob rysait yn y gorllewin bosib. Y fath o lyfr fyddai'n hoff lyfr ar Desert Island Discs.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Oliver Reed. Diolch i'r drefn fod o wedi marw neu mi faswn i yn rhy feddw i ysgrifennu hwn. Personoliaeth arbennig, actor arbennig a cythrel drwg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Oliver Reed, sy'n enwog am ei rol mewn ffilmiau fel The Trap, Oliver!, The Three Musketeers a Gladiator

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi es i'r Coleg yn swydd Caint. Gan fy mod yn canlyn capten y tîm rygbi cyntaf mi deithiais bob Sadwrn i bob dre yn y gornel bach yna o Loegr. Mi oedd yn annatod felly fy mod yn gwybod nid yn unig y bennill gyntaf o Swing low Sweet Chariot ond hefyd yr ail bennill a'r stumiau i gyd.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Rhoi Dave a fy wyres Efa yn y car a dreifio i Gaernarfon i fod hefo fy mrawd Dafydd, Clare a Twm.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun ohonaf i a fy ffrind pennaf Velvor Raw-Rees (gynt yn Lewis a'i thad a mam Gwilym a Bet yn rhedeg tafarn y Rheilffordd yn Llanpumsaint). Bu farw Velvor o gancr ar 5 Tachwedd, 2018. Mae'r llun yn fy atgoffa o ddyddiau melys cyfeillgarwch a thristwch na welai mohoni eto.

Ffynhonnell y llun, Sara Harris-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sara a'i ffrind Velvor Raw-Rees

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Helen Mirren. Mi ddarllenais Conference of the Birds gan Peter Brooks yn yr wythdegau. Fe aeth a grwp o actorion mewn bws i deithio pentrefi bach yn Africa yn perfformio dramau ar y pryd gyda'r brodorion. Mi oedd yn ormod o dasg i rhai o'r actorion ond fel wedodd Peter Brooks fe wnaeth Helen Mirren serennu. Dwi'n gweld y personoliaeth cry' yna a'r penderfyniad yn bob un o'i pherfformiadau ac ni allaf llai na dim ond edmygu hynny.

Hefyd o ddiddordeb: