'Problemau dwfn' yn arweinyddiaeth bwrdd iechyd y gogledd

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images

Dydy arweinyddiaeth bwrdd iechyd mwyaf Cymru ddim bellach yn gweithio'n iawn, yn ôl adroddiad damniol.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â "phroblemau dwfn" o fewn bwrdd arweinyddiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ychwanegodd adroddiad Adrian Compton fod "chwalfa mewn cysylltiadau gwaith" ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru "yn amharu yn sylfaenol ar ei allu i fynd i'r afael â nifer o heriau y mae'r sefydliad yn eu hwynebu".

Galwodd Mr Crompton ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar frys.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn "codi pryderon difrifol", ac y byddan nhw'n cyfarfod â'r bwrdd "i drafod y pryderon hynny".

Dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin, eu bod yn croesawu'r adroddiad a bod y feirniadaeth o'r bwrdd "ddim yn adlewyrchiad o'n staff sy'n gweithio'n hynod o galed".

'Ysgytwol'

Galwodd cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru, Mark Isherwood, am "ymyrraeth frys" gan Lywodraeth Cymru wedi'r adroddiad "ysgytwol".

Yn ôl Mr Isherwood: "Yr hyn sydd fwyaf brawychus yw'r effaith y mae hyn yn ei gael ar gleifion, gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau iechyd sydd wir eu hangen arnynt."

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cadeirydd y bwrdd iechyd i benodi tîm arweinyddol "newydd a galluog cyn gynted ag y bo modd".

Fe wnaeth yr adroddiad "ganfod cysylltiadau gwaith sydd wedi torri" o fewn y bwrdd iechyd, "gyda'r tîm gweithredol sy'n ei atal rhag gweithio'n effeithiol".

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n amheus a all y bwrdd Iechyd wneud y gwelliannau angenrheidiol heb ymyriad allanol" meddai'r Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton

Dywedodd hefyd fod aelodau annibynnol o'r bwrdd yn colli hyder yn y tîm gweithredol, a bod yr aelodau hynny wedi cael eu cyhuddo o ymddygiad "gelyniaethus" wrth eu herio.

"Mae'r canfyddiadau o'm hadolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn peri pryder eithriadol," meddai Mr Compton.

"Mae'n eglur bod rhai problemau dwfn gyda chysylltiadau gwaith o fewn y bwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

"Nid yw trosiant yn yr uwch dîm arweinyddiaeth wedi helpu'r sefyllfa" meddai'r archwilydd.

"Mae angen datrys y problemau hyn fel mater o frys i roi hyder i'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach bod gan y Bwrdd Iechyd yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arno i fynd i'r afael yn effeithiol â'r heriau sylweddol y mae'n eu hwynebu, ac i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i bobl gogledd Cymru."

Mae Mr Crompton hefyd o'r farn, "mae'n amheus a all y bwrdd Iechyd wneud y gwelliannau angenrheidiol heb ymyriad allanol a bydd angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrryd presennol i gefnogi'r gwelliannau brys sy'n angenrheidiol."

'Trallod emosiynol'

Dywedodd yr adroddiad:

  • "Mae'r holltau o fewn y Tîm Gweithredol yn gwbl eglur i Aelodau Annibynnol ar y bwrdd, sy'n codi pryder am allu'r Tîm Gweithredol i gymryd gafael cyfunol o'r heriau dan sylw. Ar y llaw arall, nodwyd cydlyniant mwy amlwg gennym o fewn y corff o Aelodau Annibynnol ar y bwrdd."

  • "Mae'r pryderon a'r rhwystredigaethau a gafwyd gan Aelodau Annibynnol wedi arwain at rywfaint o graffu cyhoeddus heriol iawn ar Gyfarwyddwyr Gweithredol gan Aelodau Annibynnol. Er bod rhai yn ystyried her o'r fath yn angenrheidiol, i eraill mae'n cynrychioli cam anghynorthwyol tuag at ddiwylliant bwrdd gelyniaethus a holgar â 'chodi cywilydd cyhoeddus' ar unigolion mewn cyfarfodydd bwrdd a phwyllgor."

  • "O ganlyniad i'r datgeliadau a wnaed o ran diwylliant ac ymddygiad, mae rhai Aelodau Annibynnol wedi'n hysbysu eu bod bellach yn teimlo'n wyliadwrus iawn o herio perfformiad gwael oherwydd y canlyniadau a allai ddilyn."

  • "O ystyried maint y problemau, mae'n ddealladwy bod sawl aelod o'r bwrdd a gyfwelwyd gennym yn dangos arwyddion amlwg o drallod emosiynol, gan beri pryder i ni ynghylch eu llesiant. Mae angen cymryd camau brys i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon."

Disgrifiad o’r llun,

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru

Mae'r sefydliad yn parhau heb brif weithredwr parhaol unwaith eto ar hyn o bryd, ac mae pedwar gwahanol brif weithredwr wedi bod yn y swydd ers 2019.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol nad oedd yr holl newid ymhlith yr uwch dîm arweinyddiaeth "wedi helpu'r sefyllfa".

"Mae dibyniaeth drom ar swyddi dros dro o fewn y strwythur uwch reolwyr ehangach yn dal i'w gweld, ac yn dangos anawsterau parhaus yn sicrhau'r capasiti arweinyddiaeth uwch sydd ei angen ar y bwrdd iechyd," meddai.

'Cwestiynau sylfaenol'

Wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd ei fod yn "croesawu" yr argymhellion gan Archwilio Cymru, ac y byddan nhw'n cydweithio gyda'r cyrff eraill i'w gweithredu.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn ymwybodol o fwyafrif y materion a godwyd yn adroddiad Archwilio Cymru," meddai Mark Polin.

Dywedodd fod eu bod eisoes wedi ceisio gwella effeithiolrwydd y bwrdd rheoli yn 2020, ac yn bwrw ati i geisio penodi prif weithredwr parhaol.

"Mae'n siomedig tu hwnt nad yw ymyrraeth mewnol blaenorol wedi arwain at y gwelliannau angenrheidiol o ran Bwrdd effeithiol, sef beth mae cleifion a phoblogaeth gogledd Cymru'n ei haeddu er mwyn darparu gwasanaethau saff ac effeithiol," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r adroddiad hwn yn codi pryderon difrifol am reolaeth a llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

"Rydym yn pryderu am berfformiad y bwrdd a byddwn yn cyfarfod â nhw i drafod y pryderon hynny".

Ychwanegodd y llefarydd y bydd y llywodraeth yn ymateb yn llawn i ganfyddiadau'r adroddiad "yn fuan".

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth fod yr adroddiad yn "codi cwestiynau sylfaenol pellach" am y bwrdd iechyd.

"Mae cwestiynau ynghylch arweinyddiaeth a strwythurau'r bwrdd wedi gwneud niwed i'r bwrdd iechyd yma ers cymaint o flynyddoedd, ac am y rhan fwyaf o'i bodolaeth mae wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig," meddai.

"Dwi'n pwysleisio eto nad ydw i'n credu y gall BIPBT yn ei ffurf presennol wasanaethu pobl gogledd Cymru'n effeithiol. Mae angen dechrau newydd."

Beth yw'r cefndir?

Yn 2015 cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei osod dan fesurau arbennig yn dilyn cyfres o drafferthion ariannol, methiannau o ran rheolaeth, rhestrau aros hir ac adroddiad damniol i ward iechyd meddwl Tawel Fan.

Wedi dros bum mlynedd dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, cafodd ei gymryd allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 - penderfyniad anghywir meddai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr ar y pryd.

Bryd hynny, dywedodd y llywodraeth fod "cyngor amlwg" y dylai statws y bwrdd newid i un o "ymyrraeth wedi'i dargedu", fyddai'n dal angen "gweithredu sylweddol" gan Betsi Cadwaladr.

Fis Chwefror y llynedd, yn dilyn adroddiad oedd yn feirniadol o'i wasanaethau fasgwlar, rhybuddiodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan fod angen i'r bwrdd iechyd wneud newidiadau ar frys, neu y gallai ei roi yn ôl dan fesurau arbennig.

Ac ym mis Mai y llynedd daeth adroddiad beirniadol arall am uned frys Ysbyty Glan Clwyd - oedd â'r perfformiad gwaethaf yng Nghymru.