Lansio pecyn adnoddau dysgu Cymraeg i bum iaith dramor
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi lansio pecyn adnoddau er mwyn ceisio cyflwyno Cymru a'r Gymraeg i bobl sydd ddim yn siarad llawer o Saesneg.
Mae'r pecyn, o'r enw Croeso i Bawb, ar gael yn Wcreineg, Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi a Pashto.
Mae'n adnodd am ddim, gyda'r modiwl hunan-astudio digidol yn cyflwyno dysgwyr i bobl a llefydd Cymru, hanes yr iaith, y celfyddydau, chwedlau a chwaraeon.
Dewiswyd yr ieithoedd ar gyfer yr adnoddau er mwyn adlewyrchu'r prif grwpiau o fewnfudwyr sy'n ffoaduriaid ac ymgeiswyr lloches i Gymru, sef Hong Kong, Wcráin, Syria, Afghanistan ac Iran.
Mae un o bartneriaid y ganolfan, SaySomethinginWelsh, eisoes yn cynnig cyrsiau dysgu Cymraeg ar-lein trwy gyfrwng Arabeg Syria, Pashto, a Dari.
Dywedodd prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis, mai'r gobaith yw y bydd yr adnoddau yn "hwyluso'r dysgu i bobl nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg".
Ychwanegodd fod y ganolfan yn amcangyfrif fod tua 5% o'u dysgwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol - tua'r un ganran â'r boblogaeth yng Nghymru yn gyffredinol.
Cafodd yr adnoddau eu treialu gyda ffoaduriaid o Syria yn Aberystwyth cyn y pandemig, a dywedodd Ms Lewis fod y "diddordeb mawr" ynddynt wedi ysgogi'r ganolfan i greu rhagor mewn mwy o ieithoedd.
Adnodd 'ffantastig'
Daeth Gosia Rutecka i Gymru o Wlad Pwyl rhyw 16 o flynyddoedd yn ôl oherwydd gwaith ei gŵr a'r angen am antur, cyn penderfynu aros yma.
Bu'n byw yng Nghaerdydd am ddwy flynedd cyn symud i'r Rhondda, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg rhyw saith mlynedd yn ôl.
Tan yn ddiweddar roedd hi'n athrawes Saesneg mewn ysgol Gymraeg, ond mae hi bellach wedi ennill ysgoloriaeth i wneud gradd doethur ym Mhrifysgol Abertawe ar y pwnc Gramadeg Cymraeg.
Roedd Gosia yn gallu siarad Saesneg yn rhugl cyn cyrraedd Cymru, ond mae'n dweud fod yr adnoddau newydd yn "ffantastig" ac yn rhoi "croeso cynnes" i gyflwyno pobl i'r Gymraeg.
Dywedodd ar Dros Frecwast nad oedd hi'n ymwybodol o'r Gymraeg am sawl blwyddyn wedi iddi gyrraedd Cymru, nes iddi glywed rhywun yn dweud "bore da" wrth fynd â'i merch i gylch meithrin.
"Roedd hi'n anodd dechrau dysgu Cymraeg, ond mae llawer o gyfleoedd i ddysgu - digon o gyrsiau ac mae 'na gefnogaeth yno," meddai, gan ychwanegu fod adnoddau hefyd yn gwella'n gyson.
"Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn allwedd i fyd hollol wahanol. Ac i ddweud y gwir mae wedi newid fy mywyd," meddai.
'Yr iaith yn perthyn i bawb'
Ychwanegodd ei bod yn credu fod pobl o dramor efallai yn fwy agored i ddysgu ieithoedd newydd, ac yn fwy cyfarwydd o ddod ar draws gwahanol ieithoedd.
"'Da ni'n gallu deall pam bod pobl Cymru eisiau cadw'r iaith. Dwi'n meddwl bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn fwy agored i'r iaith Gymraeg," meddai.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Mae Cymru'n falch o groesawu pobl o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd a dw i'n falch iawn bod pob un yr ydym yn ei groesawu i Gymru yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg - ein hiaith ni.
"Hoffwn ddymuno pob hwyl i bawb sy'n defnyddio'r adnoddau hyn i ddysgu'r Gymraeg.
"Mae'r iaith, wedi'r cyfan, yn perthyn i bawb yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022