Cyn-bel-droediwr yn 'aros yn bositif' wedi diagnosis MND

  • Cyhoeddwyd
Jason Bowen a'i feibionFfynhonnell y llun, Jason Bowen
Disgrifiad o’r llun,

Jason Bowen (ail o'r chwith) gyda'i feibion, Theo, Jaye a Sam

Mae'r cyn-bêl-droediwr rhyngwladol Jason Bowen wedi bod yn sôn am yr angen i gadw'n bositif ar ôl iddo gael gwybod bod ganddo Glefyd Motor Niwron (MND).

Roedd ei deulu yn torri'u calonnau, meddai Bowen, sy'n 50 oed.

"Roedd 'na lot o ddagrau, a lot o siarad, a jest ceisio aros yn bositif."

Cafodd y cyn-ymosodwr, a enillodd ddau gap i Gymru, wybod bod ganddo'r cyflwr niwrolegol ar ôl sylwi bod rhywbeth o'i le ddwy flynedd yn ôl.

"Roeddwn i yn y tŷ gyda fy ngwraig ac roedd y cyhyrau ar fy ochr chwith yn gwingo, a fy llaw wedi mynd yn wannach," meddai.

"Dywedodd hi wrtha i 'cer at y doctor', ac o fewn pum wythnos roeddwn i wedi cael diagnosis o MND."

Ffynhonnell y llun, Jason Bowen
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n anhygoel, mae hi'n fy ngwthio'r holl ffordd," meddai Bowen am ei wraig, Hayley

Mae'n llawn canmoliaeth i'w wraig Hayley, gan ddweud ei bod hi wedi bod "yn wych o'r dechrau".

"Mae hi'n edrych ar y we am wybodaeth. Mae hi'n anhygoel, mae hi'n fy ngwthio'r holl ffordd," meddai.

Bu Bowen yn chwarae dros nifer o glybiau yn ystod ei yrfa, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.

Roedd yn gweithio fel peiriannydd rheilffordd ar ôl rhoi'r gorau i bêl-droed yn 2013, ac yntau'n 40 oed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Jason Bowen i Gaerdydd rhwng 1999 a 2004 cyn gorffen ei yrfa gyda Llanelli yn 2013

Mae clefyd MND yn gyflwr sy'n effeithio ar yr ymennydd a'r nerfau.

Mae'n achosi i rannau o'r corff wanhau, sy'n gwaethygu dros amser.

Does dim gwella, ond mae triniaethau gwahanol ar gael.

Yn bennaf, pobl yn eu 60au a 70au sy'n cael eu taro gan y clefyd, ond mae'n gallu effeithio ar oedolion o bob oed.

Ffynhonnell y llun, Jason Bowen
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi jyst eisiau byw yn y presennol," meddai Bowen

Dros y misoedd diwetha' mae Bowen wedi bod yn mynd i glinig Morrello yng Nghasnewydd, sy'n arbenigo mewn triniaethau adfer i bobl sydd â chyflyrau niwrolegol.

Dywedodd Jakko Brouwers, y cyfarwyddwr clinigol yno: "Yn y lle cyntaf, y peth oedd angen gwneud oedd darganfod sut mae e'n teimlo.

"Fe fuon ni'n mesur ei lefelau ffitrwydd, a darganfod ble mae ganddo wendidau oherwydd y cyflwr.

"Ar y cyfan, mae Jason yn ymateb yn dda iawn. Dwi'n credu bod hynny oherwydd ei gefndir proffesiynol.

"Mae'n gwybod yn iawn beth mae ei gorff yn ei wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bowen yn dal i ddysgu i fyw gyda'r cyflwr, ac mae wedi bod yn mynychu clinig sy'n arbenigo mewn triniaethau adfer

Yn ôl Bowen mae'r holl brofiad yn y clinig wedi bod yn bositif - yn feddyliol yn ogystal â chorfforol.

O ran y dyfodol, mae'n dweud nad yw'n awyddus i edrych ymlaen yn ormodol.

"Dwi jyst eisiau byw yn y presennol," meddai.

"Dros y blynyddoedd diwetha', dim ond fy llaw sydd wedi bod yn gwaethygu.

"Dwi'n cael trafferth gyda phethe bach fel botymau, gwregysau a lasys, ond dwi'n dal yn gallu gwneud tipyn o bethau.

"Dwi'n gwybod yn y pen draw mae'n bosib y bydd pethau'n mynd bach yn fwy anodd i fi, ond fe ddelia i â hynny ar y pryd, a gwneud y gorau ohoni."