Jason Bowen: Cyn-chwaraewr Cymru yn byw gyda chlefyd MND

  • Cyhoeddwyd
Jason BowenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Jason Bowen i Gaerdydd rhwng 1999 a 2004 cyn gorffen ei yrfa gyda Llanelli yn 2013

Mae cyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Jason Bowen, wedi cael diagnosis o Glefyd Motor Niwron (MND).

Mewn gyrfa a ddechreuodd yn 1990, fe chwaraeodd i glybiau Abertawe, Birmingham City, Caerdydd, Casnewydd a Llanelli.

Fe enillodd yr asgellwr ddau gap dros ei wlad rhwng 1994 a 1996.

Ond mewn neges ar GoFundMe, datgelwyd ei fod wedi derbyn diagnosis o'r afiechyd anwelladwy ym Mawrth 2021 ar ôl "teimlo gwendid yn ei fraich".

'Agwedd anhygoel'

"Pan ddarganfuom gyntaf fod gan Jason MND, cafodd dagrau eu colli, dicter ei fynegi, a theimlad o anobaith llwyr," meddai'r neges ar ei dudalen.

"Fodd bynnag, er gwaethaf emosiynau a phrofiadau negyddol o'r fath, mae'r 18 mis diwethaf ers y diagnosis hefyd wedi dangos grym positifrwydd, cyfeillgarwch, cariad a chymuned i ni wrth i ffrindiau, teulu a chydweithwyr ddod ynghyd i helpu.

"Mae agwedd teulu Jason yn anhygoel. Maen nhw'n gryf, yn gariadus ac yn gefnogol.

"Dydyn nhw ddim yn rhoi'r gorau iddi ac yn chwilio am unrhyw driniaethau a fydd yn helpu Jason nawr ac yn y dyfodol."

Y nod yw codi arian i dalu am "gostau meddygol parhaus" y cyn-chwaraewr 50 oed.

Mae ei fab, Sam, yn chwarae yng nghanol y cae i Gasnewydd ar ôl cael ei ryddhau gan Gaerdydd dros yr haf, ac hefyd wedi ymddangos i dîm o dan-21 Cymru.

Pynciau cysylltiedig