Cofio Tryweryn 60 mlynedd ers y bomio
- Cyhoeddwyd
Mae un o dri dyn a fomiodd argae mewn protest yn erbyn y penderfyniad i foddi Capel Celyn yn dweud nad ydy o'n difaru ei weithredoedd, er yr effaith ar ei deulu ac arno yntau.
Union 60 mlynedd ers noson y ffrwydrad, mae rhai fu wrth galon y digwyddiad wedi bod yn hel atgofion.
Yn ôl un o'r bomwyr, Owain Williams, doedd troi at ddulliau anghyfreithlon "ddim yn benderfyniad hawdd".
Ond dywed Mr Williams - a fydd yn cyfrannu i bodlediad newydd gan BBC Cymru yn fuan - ei fod yn dal i gredu iddo wneud y peth cywir.
Boddwyd cymuned wledig Capel Celyn yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr Tryweryn, fyddai'n cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.
Roedd dipyn o wrthwynebiad wedi bod i'r cynllun, ac fe gafodd trosglwyddydd ar argae Tryweryn ei fomio ym mis Chwefror 1963 mewn protest.
Mewn storm eira ar gyrion Y Bala y noson honno, roedd Hugh Roberts yn teithio adref o'i waith pan ddaeth ar draws tri gŵr yn sownd mewn car.
Roedd y tri yn siarad Saesneg ac yn dweud eu bod yn ceisio mynd nôl am Lundain ar hyd yr A5.
Y diwrnod wedi'r ffrwydrad, fe ddechreuodd amau pwy oedd y tri dyn.
Wrth ddychwelyd i'r safle lle welodd y car 60 mlynedd yn ôl, dywedodd Mr Roberts iddo "helpu nhw gael y car yn rhydd".
"Pwshio ar y boot nes i... ac es i fy ngwaith fore Llun a sôn wrth y mistar be oeddwn i wedi gweld ac mi oeddan nhw'n amau.
"Aeth o i'r police station a sôn beth oeddwn i wedi gweld. Peth nesa ddoth yr heddlu a holi fi... holi fi'n dwll ac o hynny 'mlaen mi es i i'r cwrt yn Y Bala."
Wrth gofio'r cyfnod, dywedodd Mr Roberts i bedwar heddwas ei hebrwng i'r llys yn poeni am ei ddiogelwch.
Roedd wedi derbyn bygythiadau gan aelodau'r cyhoedd gan ei fod yn bwriadu rhoi tystiolaeth yn erbyn y tri gŵr a oedd yn y car y noson honno.
Eu henwau oedd Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones.
"Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd yn naturiol," meddai Owain Williams, a gafodd ei garcharu am ei ran yn y weithred.
"Roedd gen i deulu - dau o blant... tri nes 'mlaen."
Er yr effaith ar ei deulu ac iddo gael dedfryd o flwyddyn o garchar, mae Mr Williams yn parhau i ddweud nad ydy'n difaru ei weithredoedd.
Wrth drafod y perygl o ddefnyddio dulliau anghyfreithlon a ffrwydron, mae'n dweud fod y weithred yn gyfiawn.
"Roedd awdurdodau Lloegr a Lerpwl wedi defnyddio ffrwydron yn Tryweryn yn barod i chwythu tai pobl fyny, chwythu'r capel fyny, yr ysgol... oedd hynny'n dderbyniol mae'n debyg."
Pan ofynnodd BBC Cymru i Mr Williams a oedd yn difaru'r hyn a wnaeth o ystyried y gallai wedi achosi marwolaethau ac anafiadau, gwrthod hynny wnaeth.
"'Naethon ni mond defnyddio pwysi o ffrwydron, 'naethon nhw ddefnyddio tunelli i gael gwared o gymuned Cymraeg," meddai Mr Williams.
"Doedd neb arall am ei wneud o, a dyna pam wnaethon ni... roedd rhaid gwneud rhywbeth."
'Lot o wawd'
Derbyniodd Owain Williams ac Emyr Llewelyn ddedfryd o flwyddyn o garchar am eu rhan, ac fe gafodd y diweddar John Albert Jones ddedfryd wedi ei ohirio.
Wrth edrych yn ôl ar ddyddiau wedi'r ffrwydrad, dywed Mr Williams nad pawb yn lleol oedd yn cytuno.
"[G]afon ni ein condemnio gan y Cymry yn fwy na gan y Saeson a rhai pobl, y genhedlaeth yna... lot o wawd gan bobl a hen snigro."
Un sy'n cofio'r ymateb yn y dyddiau wedi'r bomio ydy Elwyn Edwards.
Roedd ei deulu yn byw yng Nghapel Celyn ag yntau wedi ei fagu mewn pentref cyfagos, Fron-goch.
"Yn y dyddiau a'r wythnosau wedyn, ymateb cymysg oedd i'r bomio," meddai.
"Mi oedd 'na rai o blaid a rhai yn erbyn wrth gwrs. Doedd Cymru ddim wedi deffro i'w hunaniaeth... mae 'di gwella. Mae 'di dod yn fwy amlwg ers boddi Capel Celyn.
"Cymysgedd oedd hi pan aeth y bom 'na ffwrdd. Mae rhywun yn cynefino efo beth sydd wedi digwydd a'r sefyllfa, ond eto yn hiraethu am be' oedd yma gynt."
'Pwynt hynod bwysig'
I rai, roedd gweithredoedd y tri dyn yn arwrol, ond i eraill roedden nhw'n anghyfreithlon, yn berygl ac yn niweidiol i'r achos.
Dywed Dr Nia Wyn Jones, hanesydd o Brifysgol Bangor, fod yr achos o osod ffrwydrad ar un o drosglwyddyddion yr argae, a boddi Capel Celyn wedi cael effaith pellgyrhaeddol, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol.
"Does dim ots sut 'da ni'n edrych ar hanes yr 20fed ganrif yng Nghymru... mae Tryweryn yn bwynt hynod o bwysig," meddai.
"Mae o mewn ffordd yn drosiad am sefyllfa wleidyddol Cymru ar y pryd, dim fel rhywbeth haniaethol ond fel rhywbeth sy'n dangos gwirionedd i bobl.
"Dyna pam mae Tryweryn... ni'n gallu gor-glodfori, roi gormod o glod oherwydd roedd e'n foment pwysig mewn meddylfryd pobl."
Mae'n disgrifio'r bomio fel "ymateb uniongyrchol, anghyfreithlon i'r ymdeimlad o ddiffyg pŵer" roedd Tryweryn wedi'i ysgogi.
Ychwanegodd hefyd, yn y cyfnod yn dilyn y penderfyniad, fod rhai yn lleol yn derbyn y byddai boddi Capel Celyn yn creu swyddi yn lleol.
Enghraifft o hynny, meddai, oedd bod Cyngor Tref y Bala ddim wedi gwrthwynebu'r cynllun.
Dywedodd hefyd fod tystiolaeth o rai trigolion lleol yn derbyn y penderfyniad a bod gwrthwynebu wedi pylu yn dilyn y penderfyniad.
Wrth edrych ar waddol y bomio a'r boddi, mae 'na gonsensws fod hyn wedi bod yn drobwynt wrth ysgogi newidiadau mawr gyda rhai haneswyr yn dadlau fod gwreiddiau datganoli wedi eu sbarduno o'r digwyddiad.
60 mlynedd ers y digwyddiad mae'r ffrwydrad yn parhau i hawlio sylw yn lleol, ac yn hollti barn.
Eto fyth mae'n adlewyrchiad o'r teimladau cryfion fu wrth wraidd y penderfyniad i foddi Capel Celyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015