Gwerthu gwartheg er budd elusen wedi marwolaeth gwraig

  • Cyhoeddwyd
Emyr ac EvelynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emyr ac Evelyn wedi gobeithio teithio yn eu carafán wedi ymddeol

"Pan 'da chi'n gweld rhywun chi'n ei garu yn gadael y byd 'ma, mae ganddo chi ddau ddewis - chi naill ai'n syllu mewn i dwll du ac mae'n hawdd iawn disgyn iddo neu wneud rhywbeth defnyddiol," meddai

Roedd gan Emyr Wigley, ffermwr o Ddeuddwr, Llansantffraid-ym-Mechain yng ngogledd Powys, gynlluniau mawr ar gyfer ei ymddeoliad.

Ar ôl blynyddoedd maith yn rhedeg eu fferm roedd o a'i wraig Evelyn wedi prynu carafán er mwyn mynd i deithio.

Doedd ganddyn nhw ddim plant ac roedden nhw wedi edrych 'mlaen i fywyd arafach.

Ond doedd hi ddim yn hir cyn i Evelyn deimlo'n anhwylus. Cafodd ddiagnosis o ganser ofarïaidd a bu farw'n 2015 yn 69 oed. 

"Roedd blynyddoedd wedi'u dwyn oddi arni," medd Mr Wigley.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwartheg Emyr Wigley yn cael eu gwerthu ddydd Sadwrn

"Beth sy'n brifo fwya' yw'r holl waith, yr holl aberthoedd a wnaeth hi i gyrraedd y man lle rydan ni."

Dywed Emyr bod ei wraig yn ddynes dawel oedd yn gosod safonau uchel wrth redeg busnes y fferm tra roedd o allan ar y buarth.

"Cafodd y garafan ei phrynu'n newydd yn 2009. Mae wedi bod allan chwe gwaith ond ddim yn ystod y naw mlynedd dwetha'," meddai Emyr.

"Mae wedi'i gorchuddio yn y sied yn hel llwch a phob blwyddyn dwi'n d'eud 'Wel, dwi'n mynd i'w chael hi allan' ond dydi hynny ddim wedi digwydd eto. Ac mae fy sliperi i ac Evie dal yna."

Ffynhonnell y llun, Emyr Wigley
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r gwartheg olaf werthu am ryw £100,000 gyda'r arian yn mynd at elusennau

Wrth daflu ei hun nôl i'r gwaith fe benderfynodd fagu gwartheg brid Glas Prydeinig (British Blue) er cof am Evelyn.

Mae'n cyfrannu elw'r gwerthiant at Ovarian Cancer Action a RABI - elusen sy'n darparu cefnogaeth leol i gymunedau ffermio ar draws Cymru a Lloegr. 

Hyd yma mae Mr Wigley wedi codi dros £121,000 ar gyfer yr elusennau. "Mae 'na fwy o bleser mewn helpu eraill na helpu eich hun," meddai.

Mae'r 33 buwch ola' yn cael eu gwerthu mewn arwerthiant ddydd Sadwrn. Mae disgwyl y gallai £100,000 yn rhagor ei godi ar gyfer yr elusennau. 

Y tarw yn ymosod

Roedd Emyr Wigley yn ymwybodol y byddai'n gwerthu'r cyfan un dydd ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud yn gynt na'r disgwyl ar ôl.

Cafodd ei anafu'n ddifrifol gan un o'i deirw tra'n ei baratoi ar gyfer arwerthiant yng Nghaerliwelydd fis Ionawr.

Roedd ei nith Laura Pritchard gydag o ar y pryd.

"Rydan ni'n hynod o lwcus achos roedd Em yn agos iawn at gael ei ladd," meddai.

"Dwi'n falch mai fi oedd yn y lloc pan ddychrynodd yr anifail. Fe gafodd [Emyr] ei wasgu a'i sathru.

"Roedd modd i mi ei gael o allan ac mae gen i rywfaint o hyfforddiant meddygol felly roedd modd i mi edrych ar ei ôl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Laura Pritchard bod y tarw wedi ymosod yn ffyrnig ar ei hewythr

Ag yntau'n dal i ddefnyddio ffyn baglau i'w helpu i gerdded mae Emyr yn sicr mai dyma'r cyfnod iawn i roi'r gorau iddi.

"Rŵan yw'r amser cywir," meddai. "Mi wnes i frifo fy mhigwrn. Gobeithio bydd o'n iawn.

"Mae'r fuches union fel dwi'i heisiau felly dwi'n gobeithio gorffen ar nodyn uchel."

'Llawer eto i'w wneud'

James Evans yw cyfarwyddwr cwmni Hall's Holdings sy'n rhedeg marchnadoedd da byw Amwythig a Bishop's Castle.

"Mae'n ddiwedd cyfnod chwerw felys pan fo unrhywun yn gwerthu," esboniodd.

"Fel arwerthwyr rydan ni'n dymuno cael gymaint o bobl yn y diwydiant ag y bo modd.

"Oherwydd ei oedran, mae'n debygol y byddai Emyr wedi ymddeol o fewn cwpl o flynyddoedd ond mae'r ffaith ei fod yn digwydd rwan pan fod hi'n ymddangos fod gwerthiant cig eidion ar ei ucha' ers amser maith yn wych iddo, felly gobeithio y caiff o werthiant da ac y bydd 'na ddigon o gefnogaeth ar gyfer y gwerthiant."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwartheg yn cael eu gwerthu yn Amwythig

Mae'n ymddangos bydd gan Mr Wigley fwy o amser rhydd ar ôl i'r gwartheg gael eu gwerthu.

Ond gyda chynlluniau i barhau i ysgrifennu am ei fywyd ym myd amaeth, fydd y garafán ddim yn debygol o gael ei defnyddio am beth amser.

"Dwi ddim wedi gorffen eto," meddai.

"Dwi'n rhan o gynllun elusen Gerddi Agored ac mae'r llyfr wedi denu llawer o ddiddordeb ac mae 'na gais i feirniadu gwartheg - felly mae 'na lawer o bethau i'w gwneud os gai'r iechyd."

Pynciau cysylltiedig