Pont y Borth yn cau'n rhannol ar gyfer rhagor o waith

  • Cyhoeddwyd
Traffig Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Bydd goleuadau traffig ar y bont rhwng 09:00 a 15:00 am bedwar diwrnod yr wythnos hon

Bydd rhagor o waith atgyweirio yn dechrau ar Bont y Borth rhwng Môn a'r tir mawr ddydd Llun, fel rhan o gynllun hirdymor i'w hailagor yn llawn.

Mae'r gwaith diweddaraf, i bara hyd at wythnos, yn golygu mai dim ond un lôn fydd ar agor yn ystod adegau llai prysur.

Cafodd y bont ei chau'n gyfan gwbl ar fyr rybudd ym mis Hydref er mwyn cyflawni gwaith cynnal a chadw brys, a chafodd ei hailagor i draffig ddechrau Chwefror.

Ond yn ôl peirianwyr mae angen gwaith pellach cyn bod modd ei hagor yn llawn. Mae hynny'n golygu nad yw cerbydau dros 7.5 tunnell wedi bod yn cael teithio arni ers y llynedd.

Serch hynny mae galwadau'n parhau ar Lywodraeth Cymru i wella'r gwytnwch o ran croesi'r Fenai.

Galw am wella gwytnwch

Gobaith Llywodraeth Cymru yw bod y cyfnod treialu, sy'n dechrau ddydd Llun, yn cael ei gwblhau o fewn pedwar diwrnod os yw'r tywydd yn ffafriol.

Bwriad y cau rhannol yw galluogi peirianwyr i weithio'n ddiogel a phrofi'r system arfaethedig ar gyfer newid yr holl rodenni.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, bydd y goleuadau traffig ond yn cael eu defnyddio rhwng 09:00 a 15:00, gan osgoi'r adegau prysuraf.

Ond gyda chyfartaledd o 42,000 o gerbydau yn defnyddio'r ddwy bont bob dydd, mae'r galwadau am wella'r gwytnwch o ran croesi'r Fenai yn parhau.

Ffynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw ers tro am gael pont arall rhwng Gwynedd a Môn er mwyn lleddfu tagfeydd

Gyda phob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd yng Nghymru wedi eu canslo gan Lywodraeth Cymru, ni fydd y cynlluniau blaenorol ar gyfer trydydd croesiad o'r Fenai yn cael eu gwireddu.

Yn dilyn y cyhoeddiad fis diwethaf, dywedodd Plaid Cymru fod Llywodraeth Cymru yn "cuddio tu ôl i bob math o resymau" i osgoi codi trydedd bont.

Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, nad oedd gan y llywodraeth yr arian i adeiladu'r bont.

"Nid oes gennym ni £400m… Ni fydd y cynllun yn digwydd yn y dyfodol agos oherwydd dyw'r arian ddim gyda ni," meddai.

Ychwanegodd bod yn "rhaid blaenoriaethu".

"Mae ein cyllideb gyfalaf wedi'i thorri 8% y flwyddyn nesaf, ac mae ein costau'n yn mynd drwy'r to.

"Mae'n ffantasi awgrymu y gellir fforddio'r cynlluniau hyn, a bod yr arian yn cael ei ddanfon i wahanol ardaloedd penodol."

Pynciau cysylltiedig