Mali Elwy yn ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022

  • Cyhoeddwyd
Mali ElwyFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Mali Elwy gyfres o fonologau er mwyn cipio'r wobr

Mali Elwy yw enillydd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022.

Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ers 2019 o ganlyniad i'r pandemig.

Perfformiodd Mali, aelod o Adran Bro Aled, gyfres o fonologau yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sul.

Mae'n ennill yr ysgoloriaeth gwerth £4,000.

Roedd chwech yn cystadlu ar ôl cael eu dewis fel y rhai mwyaf addawol yn y categori hŷn (o dan 25 oed) ar ôl cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

Disgrifiad,

Mali Elwy yn ymateb i'w llwyddiant yn y gystadleuaeth ar raglen Dros Frecwast

Er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth bu'r ymgeiswyr, sef Fflur Davies, Gwenno Morgan, Ioan Williams, Mali Elwy, Owain Rowlands a Rhydian Tiddy, yn cael dosbarthiadau meistr unigol.

Cafodd Mali gymorth gan yr actores Ffion Dafis.

Fe gafodd y chwech hefyd sesiynau gyda Stifyn Parri a'r gyfarwyddwraig Angharad Lee er mwyn paratoi.

Roedd y panel beirniadu ar gyfer y gystadleuaeth eleni yn cynnwys Bari Gwilliam, Sioned Terry, Bethan Williams-Jones a Gwenan Gibbard.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y chwech cystadleuydd gyngor gan arbenigwyr yn eu maes

Mae nifer o enwau adnabyddus wedi ennill y wobr yn y gorffennol gan gynnwys Steffan Rhys Hughes yn 2016 a aeth ymlaen i gydlynu'r grŵp Welsh of the West End a gwnaeth cystadlu yn Britain's Got Talent yn 2022.

'Dyfodol disglair'

Dywedodd Gwenno Davies, cadeirydd Bwrdd Eisteddfod yr Urdd: "Roedd y beirniaid i gyd yn cytuno fod hon yn gystadleuaeth agos iawn wrth i bob un serennu yn eu maes ar y llwyfan heno.

"Yn ddi-os, mae dyfodol disglair o flaen pob un yn eu maes ac edrychwn ymlaen i ddilyn eu llwyddiannau i gyd, bob un.

"Ond heno, roedd un perfformiad wnaeth wirioneddol gydio a chyffwrdd ym mhob un o'r beirniaid.

"Ar ran yr Urdd a'r panel beirniadu, hoffwn longyfarch Mali Elwy ar ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2022."

Pynciau cysylltiedig