Treth Trafodiadau Tir: Dim treth ar brynu cartrefi am lai na £225,000

  • Cyhoeddwyd
Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Fe gododd prisiau tai yng Ngheredigion 21% rhwng 2016 a 2021 - y cynnydd mwya' drwy Gymru

Ni fydd pobl sy'n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £225,000 yn talu unrhyw dreth, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Mae'r trothwy ar gyfer talu Treth Trafodiadau Tir yn cael ei godi o £180,000 a bydd y newid yn dod i rym o 10 Hydref.

Bydd cynnydd bychan hefyd yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer tai sy'n costio mwy na £345,000.

Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad y newid hwn yw sicrhau bod y trothwy ar gyfer talu treth yn adlewyrchu'r cynnydd ym mhrisiau tai dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Daw hyn ar ôl i newidiadau yn Lloegr weld trothwyon treth stamp yn codi o £125,000 i £250,000.

Yn wahanol i Loegr, nid oes gan Gymru drothwy arbennig ar gyfer prynwyr tro cyntaf.

Cyfartaledd

Pris tŷ ar gyfartaledd yng Nghymru ym mis Gorffennaf, yn ôl Cymdeithas Adeiladu'r Principality, oedd £240,635 - cynnydd o 11.5% yn ail chwarter 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llywodraeth Cymru mai bwriad y newid hwn yw sicrhau bod y trothwy ar gyfer talu treth yn adlewyrchu'r cynnydd ym mhrisiau tai

Bydd unrhyw un sy'n prynu tŷ sy'n costio llai na £345,000 yn gweld gostyngiad yn y dreth y maen nhw'n ei thalu, hyd at uchafswm o £1,575.

Bydd pobl sy'n prynu tai sy'n werth mwy na £345,000 yn gweld cynnydd o hyd at £550 - mae hyn yn berthnasol i tua 15% o drafodiadau eiddo yng Nghymru.

Bydd pob elfen arall o'r Dreth Trafodiadau Tir yn aros yr un fath, sy'n golygu nad oes gostyngiadau treth i bobl sy'n prynu ail gartrefi yng Nghymru, yn wahanol i dreth dir y dreth stamp yn Lloegr.

'Anghenion unigryw'

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Mae hwn yn newid sydd wedi ei deilwra i anghenion unigryw'r farchnad dai yng Nghymru ac mae'n cyfrannu at ein gweledigaeth ehangach o greu system drethi decach.

"Ni fydd 61% o brynwyr tai yn gorfod talu treth. Bydd y newidiadau hyn yn rhoi cymorth i'r bobl sydd ei angen, ac yn helpu ag effaith y cynnydd mewn cyfraddau llog.

"Rydym yn gwybod hefyd y bydd helpu pobl ar ben isaf y farchnad yn helpu'r rhai sy'n prynu am y tro cyntaf, yn enwedig.

"Rydym yn helpu pobl i brynu eu cartref cyntaf mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys perchnogaeth ar y cyd a chynlluniau cymorth i brynu, ac rwy'n falch o allu ymestyn y gefnogaeth honno drwy'r newidiadau hyn i'r Dreth Trafodiadau Tir."

'Dim digon'

Wrth ymateb, dywedodd Peter Fox AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, "yr wythnos ddiwethaf cymerodd Llywodraeth Geidwadol y DU gamau beiddgar a phendant i roi dyhead, cyfle a thwf wrth galon yr economi. Fel rhan o hynny bydd y Llywodraeth Lafur yn derbyn £70 miliwn yn dilyn newidiadau i dreth stamp yn Lloegr.

"Er bod y toriad treth hwn i brynwyr tai yng Nghymru i'w groesawu - rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano ers bron i ddegawd - nid yw'n mynd yn ddigon pell.

"Mae prisiau tai yng Nghymru bellach wedi taro £240,000, ac eto mae'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd yn cau y drws yn gadarn yn wynebau prynwyr tro cyntaf drwy wrthod rhoi cymorth penodol iddyn nhw."

Treth incwm

Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau treth incwm a chadw'r gyfradd sylfaenol ar 20%.

Dywedodd Llyr Gruffydd, llefarydd cyllid y blaid: "Byddai gwneud hyn yn cynnig £200m y flwyddyn yn ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru y gellir ei ddefnyddio'n uniongyrchol i helpu i leddfu pwysau'r argyfwng costau byw, amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a gwarchod y bregus rhag creulondeb y Torïaid."

Mae llywodraeth y DU wedi torri'r gyfradd sylfaenol o 20% i 19% - cam a gefnogwyd gan arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer.

Dywedodd Syr Keir y byddai'r penderfyniad i dorri cyfradd sylfaenol y dreth o 20% i 19% yn "lleihau'r baich treth ar bobl sy'n gweithio".