Siân Doyle: 'Angen i fwy o ferched Cymru elwa o weithio dramor'

  • Cyhoeddwyd
Siân Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Siân Doyle iddi "elwa'n enfawr" o weithio dramor cyn dychwelyd i Gymru

Mae angen i fwy o ferched Cymru fanteisio ar y cyfle i weithio dramor yn ôl Prif Weithredwr S4C.

Dyna brif neges Siân Doyle fel golygydd gwadd Dros Frecwast ar Radio Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Fe weithiodd Ms Doyle i gwmnïau mawr yn Llundain, yr UDA a Chanada cyn dychwelyd i Gymru, a dywed ei bod wedi "elwa yn enfawr" o'r profiad yna.

"Mi fydden i'n argymell i unrhyw un ei wneud e - mae e just mor gyffrous," meddai.

"Mae hyd yn oed gwneud dwy, tair blynedd mas mewn gwlad arall just yn rhoi persbectif mor wahanol ar y byd a dod â hwnna'n ôl i Gymru, a hefyd mynd â chenhadaeth Cymru mas yn rhyngwladol hefyd.

"'Dach chi byth yn anghofio eich bod yn Gymraes."

Mae Ms Doyle hefyd yn awyddus i weld mwy o ferched o Gymru ar fyrddau cwmnïau, er mwyn dod â "phersbectif hollol wahanol i fusnesau".

Mae hi'n cydnabod nad yw wastad yn hawdd, ond mae hi'n credu'n gryf bod angen bachu ar gyfleoedd pan maen nhw'n dod.

Tra'n gweithio i Asda fe aeth o swydd yn rheoli 40 o bobl, i un yn rheoli 4,000.

"Roedd e mor frawychus," meddai. "Ond roedd 'na rywun yno yn dweud wrtha'i: 'C'mon, cymra'r cyfle'.

"Mae e'n anghyfforddus ond nes i elwa gymaint o wneud hynny mor ifanc yn fy ngyrfa."

Profiadau unigryw

Mae Mared Gwyn yn gweithio fel ymgynghorydd cyfathrebu gyda chwmni BCW ym Mrwsel.

Mae hi'n teimlo bod yna "lot i'w ennill o adael Cymru yn ifanc ac o bosib wedyn i fynd yn ôl a dychwelyd yn hwyrach mewn bywyd".

Ffynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bryder i Mared Gwyn bod dim digon o fentergarwch yng Nghymru

Dywed Mared ei bod wedi cael profiadau unigryw ym Mrwsel.

"Mae o'n wir bod 'na gyfleodd i'w cael allan 'na sydd ddim i'w cael yng Nghymru a sgiliau i'w datblygu allan yna, fedrai fod o fudd i Gymru petai'r bobl yna yn mynd allan a dod yn ôl."

Ond mae hi'n yn poeni bod diffyg hyder yn aml yn dal merched yn ôl.

"Dwi ddim yn teimlo bod yna ddigon o fentergarwch efallai ar hyn o bryd yng Nghymru.

"Mae gennym ni bobl ifanc ardderchog, pobl ifanc uchelgeisiol ond o bosib efallai ein bod ni fel cenedl ychydig bach yn bryderus, ddim yn fodlon cymryd risg, yn gyfforddus yn aros yn ein cornel bach o'n byd."

'Lle da i fyw'

Ond mae 'na gyfleoedd yng Nghymru yn ôl Sian Lloyd Roberts, sy'n Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer Bwrdd Uchelgais y Gogledd.

Mae angen eu hyrwyddo a "gwneud mwy i alluogi pobl i lwyddo mwy yng Nghymru".

Disgrifiad o’r llun,

Mae ceisio denu a chadw pobl yn y gogledd yn her, medd Sian Lloyd Roberts

Mae hi'n gweithio ar ymgyrch Dewch yn Ôl, sy'n hybu'r cyfleoedd i ferched sydd wedi symud o ogledd Cymru, ond mae hi'n derbyn ei fod yn anodd cystadlu yn erbyn y dinasoedd mawr.

"Mae'n her fawr i drio cadw pobl, a merched yma. Ond dwi'n meddwl dyna ydy un o'r pethau 'dan ni wirioneddol isio pwshio ac isio creu rhyw fath o buzz o gwmpas gogledd Cymru.

Mae yna gyfleodd yma, meddai, "dim just y cyfleodd o ran cael swydd da yma, ond sbïwch lle da ydy gogledd Cymru i fyw ynddo. Edrychwch beth sydd gennym ni yma i'w gynnig i chi.

"Mae 'na gymaint gennym ni yma i'w gynnig yn y gogledd ond does dim os bod 'na her yna i gael y negeseuon yma allan i ferched yn sicr."

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un o bosteri'r ymgyrch Dewch Yn Ôl

Mae merched yn dal i gael eu tangynrychioli mewn rolau uwch yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad cyflwr y genedl gan yr elusen Chwarae Teg, 39% o reolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch swyddogion sy'n fenywod, a dim ond 14% o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael eu harwain gan fenywod.

Mae Siân Doyle am weld mwy o ferched Cymru yn anelu am y brig, ac yn ymuno â byrddau rheoli.

"Pan 'da ni'n eistedd ar fyrddau 'da ni'n dod â phersbectif hollol wahanol i fusnesau a'r ffordd 'dan ni'n edrych ar bethau, mae'n beth da i gael merched a cael y balans yna ac adlewyrchu fel mae cymdeithas.

"Ond fydden i byth eisiau clywed rhywun yn dweud fy mod i wedi cael y job achos mai merch o'n i."

'Amrywiaeth yn bwysig'

Yn ôl ystadegau diweddaraf yr ONS, mae bron i ddwywaith gymaint o ddynion yn gweithio fel rheolwyr corfforaethol a chyfarwyddwr.

Yn 2021 yng Nghymru roedd 31,500 o fenywod yn gweithio fel rheolwyr corfforaethol a chyfarwyddwr i'w gymharu â 60,100 o ddynion.

Mae Leena Farhat yn astudio ar gyfer gradd meistr mewn technoleg ieithyddol ym Mhrifysgol Bangor ac yn ymddiriedolwr ar fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig (IWA).

Mae hi'n credu'n ei bod hi'n bwysig cael cydraddoldeb o ran rhyw ond mae angen sicrhau amrywiaeth ar fyrddau hefyd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i fenywod stopio meddwl nad ydyn nhw'n ddigon da i fod yn aelod o fwrdd corff neu gwmni, medd Leena Farhat

"Dwi'n meddwl bod diversity ar boards yn bwysig iawn, achos mae angen gwahaniaeth mewn profiadau ar bob lefel yn ogystal â experiences o gymdeithas," meddai.

Mae hi'n teimlo bod yr holl broses o geisio am le ar fwrdd yn gallu bod yn anodd i rai.

"Dwi'n teimlo mae'r iaith ychydig yn dechnegol ac yn off-putting i lot o fenywod.

"Dwi'n nabod lot o fenywod sy'n meddwl dwi ddim yn educated enough neu well-spoken enough, neu whatever excuse, just o weld yr applications. Mae hyder yn bwysig i get over that first step."

Pynciau cysylltiedig