Y Sŵn yn dangos y 'sefyllfa beryglus' cyn sefydlu S4C
- Cyhoeddwyd
"Mae'n dangos pa mor ddifrifol oedd Gwynfor (Evans) ac 'oedd e yn benderfynol. Dwi'n amau'n fawr iawn pe bai'r llywodraeth wedi newid ei feddwl, beth gallai fod wedi digwydd yng Nghymru o ystyried pa mor ddifrifol oedd Gwynfor am y sianel."
Dyma eiriau'r actor Dewi Rhys Williams am ffilm Y Sŵn sy'n olrhain un o'r digwyddiadau mwyaf tyngedfennol yn hanes yr iaith Gymraeg.
Mae'r ffilm, sy'n cael ei rhyddhau yn y sinemâu ar 10 Mawrth, yn edrych ar y frwydr i sefydlu sianel Cymraeg S4C a bygythiad Gwynfor Evans i ymprydio os nad oedd hynny'n digwydd.
Mae'r actor Dewi Rhys Williams yn chwarae rhan archesgob Cymru G.O. Williams, rôl sy'n dangos un o'r gwahanol gyfeiriadau mae'r ffilm yn ei gymryd.
Meddai Dewi mewn sgwrs gyda Aled Hughes am y rôl: "G.O. Williams oedd un o'r tri gŵr doeth aeth i ymweld â William Whitelaw, ysgrifennydd gwladol Cymru ar y pryd, yn ogystal â Cledwyn Hughes, ysgrifennydd gwladol Cymru ac is-ganghellor Aberystwyth, Goronwy Daniels.
'Sefyllfa beryglus'
"Fel oedd penderfyniad Gwynfor yn mynd yn ei flaen oedden nhw'n gweld bod y sefyllfa yn mynd yn fwy peryglus ac o'n nhw'n teimlo fel triawd y bydden nhw'n gallu dwyn perswâd ar William Whitehall, sef ysgrifennydd gwladol Prydain ar y pryd, i neud rhyw fath o newid ym mholisi y Blaid Geidwadol ar y pryd.
"Mae'n anodd dweud faint o ddylanwad oedd gan y tri gŵr doeth yma aeth i weld William Whitelaw - dwi'n meddwl fod eu cyfraniad nhw wedi bod yn eitha' allweddol i ddwyn perswâd.
"Falle nad oedd rhywun fel William Whitehall na Margaret Thatcher yn gyfarwydd iawn â diwylliant Cymreig hyd y gwela' i.
"Falle bod y tri yma wedi dwyn perswâd arno fe a Thatcher i sylweddoli pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa. Cofiwch ar y pryd hefyd oedd 'na streic dur mawr yn digwydd - un o'r streiciau cynta' mawr i'r Blaid Geidwadol ddod ar ei draws yn 1979-80 oedd yn dangos faint o broblemau oedd yn mynd i ddod.
"O'n nhw wedi dod i dermau gyda'r sefyllfa gyda Gwynfor Evans, pa mor benderfynol oedd e i gario 'mlaen gyda'r ymprydio 'ma.
"Roedd nifer o wleidyddion Plaid Cymru, sef Dafydd Wigley a Dafydd Elis Thomas, yn teimlo'n gryf dros y sefyllfa ac mae'n siŵr bod nhw wedi cael nifer o sgyrsiau eitha' diddorol gyda Gwynfor ac mae hyn i gyd yn dod i'r amlwg yn y ffilm."
Yn Whitehall
Mae'r hyn oedd yn digwydd ar y pryd yn Whitehall yn ran bwysig o'r ffilm ac o bosib yn agwedd newydd ar yr hanes i nifer ohonom.
Mae'r actores Lily Beau yn chwarae rhan merch ifanc o'r enw Ceri Samuel sy'n was sifil yn ystod y cyfnod, sef diwedd y 1970au a dechrau yr 1980au.
Meddai Lily: "Mae'n ferch frwdfrydig ac angerddol dros addewidion gwreiddiol y Ceidwadwyr dros sefydlu sianel deledu Cymraeg ond unwaith i'r polisi newid (pan fethodd y llywodraeth Geidwadol i sefydlu sianel deledu iaith Gymraeg yn 1979) mae'n ffeindio ei hun ynghlwm yn y gwleidyddiaeth i gyd, sy'n gyffrous iawn.
"Dwi wedi cael cyfle i weld y ffilm yn barod, sy'n gyffrous a weird i weld gwyneb dy hun mor fawr.
"Y peth oedd yn synnu fi oedd faint o angerdd oedd tu ôl i'r newid, straeon gwahanol pobl - mae ochr pawb mor wahanol ac oedd e'n ddiddorol i weld sut daeth popeth at ei gilydd. Mae'n rial gyffrous i fod yn rhan o hwnna.
"Roedd wedi cael effaith ar bawb dros Gymru a'r iaith Gymraeg."
Cyfleu y cyfnod
Mae'r ffilm yn cyfleu cyfnod yr 1970au yn dda, yn ôl Lily, gyda'r gwisgoedd yn arbennig yn boblogaidd: "Dwi wedi dwyn cwpl o ddarnau, mae rhaid fi cyfaddef! Oedd e'n brilliant i fynd nôl - roedd y set yn amazing, y costumes a'r wigs a'r colur yn ffantastig.
"Mae 'na gymaint o wigs 'da pawb, o'n i bach yn jealous bod ddim wig gen i!
"Mae mor lliwgar, mae mor bwysig yn hanesyddol ac i fi, sy'n actores ddu, mae'n lyfli i fod yn ran o stori ble ti'n gweld amrywiaeth o bobl oedd yn bodoli yn y cyfnod a pa mor bwysig oedd sefydlu sianel Cymraeg i bawb yng Nghymru. Dwi'n teimlo'n lwcus iawn i fod yn ran o'r ffilm."
Mae'r ffilm Y Sŵn, dolen allanol mewn sinemâu o 10 tan 24 Mawrth.