Llafur yn pleidleisio i feirniadu eu hadolygiad ffyrdd eu hunain

  • Cyhoeddwyd
M4

Mae gwleidyddion Llafur gan gynnwys y prif weinidog wedi pleidleisio dros gynnig Senedd Cymru yn beirniadu eu hadolygiad ffyrdd eu hunain.

Cafodd y cynnig - oedd "yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill" - ei basio mewn pleidlais nos Fercher.

Mae ASau o feinciau cefn Llafur wedi ymosod ar bolisi'r llywodraeth o'r blaen, ar ôl i'r rhan fwyaf o gynlluniau ffyrdd mawr gael eu dileu.

Dywedodd gweinidogion y bydd ymgynghoriad gyda'r cyhoedd wrth i gynlluniau gael eu datblygu.

Wedi'r ddadl fe wnaeth y Ceidwadwyr gyhuddo Llafur o gyfaddef bod eu hadolygiad yn "ddiffygiol".

'O dan fws'

Dywedodd un ffynhonnell Lafur fod y bleidlais yn golygu bod y llywodraeth "wedi taflu'r panel adolygu o dan y bws".

Dywedwyd wrth BBC Cymru bod Llafur wedi penderfynu cefnogi cynnig yr wrthblaid ar ôl i derfyn amser i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei gwelliant ei hun gael ei fethu, ac fe benderfynwyd gadael i'r feirniadaeth basio.

Fodd bynnag, dywedodd eraill fod y penderfyniad yn adlewyrchu safbwyntiau ehangach yn y grŵp ac ymhlith nifer ar y meinciau cefn.

Edrychodd y panel adolygu arbenigol, gafodd ei arwain gan yr ymgynghorydd trafnidiaeth Lynn Sloman, ar 59 o brosiectau ffyrdd.

Cafodd argymhellion eu gwneud ynghylch pa brosiectau i fwrw ymlaen â nhw, pa rai i roi'r gorau iddynt, a pha rai i'w hailystyried ar ffurf wahanol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd gwared ar y cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros y Fenai i Ynys Môn yn y cyhoeddiad diweddar

O'r rhain, bydd 15 yn mynd yn eu blaenau, ond mae'r gweddill i gyd wedi'u gwrthod neu'n cael eu hadolygu'n sylweddol.

Cafodd y prosiectau adeiladu eu dileu oherwydd pryderon newid hinsawdd.

Ddydd Mercher, cyflwynodd y Ceidwadwyr gynnig oedd yn dweud bod y Senedd "yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad".

Cefnogodd Llafur welliant Plaid Cymru i'r cynnig hwnnw, wnaeth adadel y feirniadaeth am ddiffyg ymgysylltu yn y testun.

Yna pasiwyd y cynnig diwygiedig - sydd ddim yn rhwymo'r llywodraeth - gyda 53 pleidlais o blaid, gyda'r Prif Weinidog Mark Drakeford ymhlith y cefnogwyr.

Fe'i gwrthwynebwyd gan Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

'Dim gwaharddiad'

Yn y ddadl, mynnodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James nad oedd yr adolygiad ffyrdd "yn waharddiad ar adeiladu ffyrdd".

"Mae hwn yn ymarfer polisi technegol," ychwanegodd, "ac nid yn rhywbeth y byddai unrhyw lywodraeth yn ymgynghori arno'n uniongyrchol.

"Heb os, y newid mewn dull yw'r peth iawn i'w wneud, ond i fod yn effeithiol mae angen i ni wneud y peth iawn i wneud y peth hawsaf i'w wneud."

Ar ôl y ddadl, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yr amser i ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid yw wrth i ni ddatblygu strategaeth a chynlluniau unigol.

"Mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol wrth ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth ar gyfer gogledd Cymru.

"Mae'n ddyletswydd ar gydbwyllgorau corfforaethol i gynhyrchu eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd, ac wrth wneud hynny byddan nhw'n dod â safbwyntiau pobl ledled Cymru ynghyd."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, Natasha Asghar, a arweiniodd y ddadl: "Trwy bleidleisio dros ein cynnig yn y Senedd heddiw, mae Llafur wedi cyfaddef bod eu hadolygiad ffyrdd yn ddiffygiol.

"Mae'r Blaid Lafur, yma yng Nghymru, wedi bod yn benderfynol o arafu Cymru gyda'u hagenda gwrth-ffyrdd, gwrth-fodurol."