Bywyd lliwgar artist tatŵ benywaidd cyntaf y DU

  • Cyhoeddwyd
Tatŵ ar gefn Jessie KnightFfynhonnell y llun, Neil Hopkin-Thomas / Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Jessie Knight gyda thatŵ o arfbais y teulu ar ei chefn a chroes ar ei hysgwydd

Pan roddodd Jessie Knight gynnig ar ddefnyddio offer tatŵio dros ganrif yn ôl, ni allai fod wedi dychmygu y byddai'n mynd ymlaen i sicrhau lle unigryw i'w hun yn hanes y diwydiant.

O fewn ychydig flynyddoedd, yn 18 oed, fe sefydlodd Jessie Knight ei stiwdio ei hun ym mhorthladd Y Barri ym Mro Morgannwg, gan olygu taw hi oedd artist tatŵ benywaidd cyntaf y DU.

Cafodd ei geni yn 1904 a bu farw yn 1992, ac roedd yn gofalu am y siop deuluol, wedi i'w thad ei hyfforddi, tra roedd yntau i ffwrdd yn gweithio fel morwr.

Am y tri degawd nesaf fe deithiodd ar hyd y DU yn lliwio croen miloedd o gwsmeriaid, gan dorri tir newydd mewn diwydiant traddodiadol wrywaidd.

Mae ei chasgliad o ddyluniadau, offer ffotograffau a llythyrau bellach ym meddiant Amgueddfa Cymru.

Ffynhonnell y llun, Neil Hopkin-Thomas / Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jessie Knight ei hyfforddi i liwio'r croen gan ei thad

"Roedd Modryb Jessie yn gymeriad eithaf ecsentrig," dywedodd ei gor-nai, Neil Hopkin-Thomas.

"Roedd hi'n flaengar, ymhell o flaen ei hamser ond yn llawer o hwyl i fod yn ei chwmni gyda pheth wmbreth o straeon.

"Cyn tatŵio roedd hi'n styntwraig ar ben ceffyl ac yn sharpshooter.

"Roedd hi'n berson lliwgar iawn ac yn byw bywyd gwirioneddol gyffrous."

Ffynhonnell y llun, Neil Hopkin-Thomas / Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddyluniadau Jessie Knight

Roedd yna barch at ei gwaith ledled y byd. Yn 1955 daeth yn ail yn y gystadleuaeth Champion Tattoo Artist of All England. Serch ei llwyddiant, roedd yna ambell her.

"Sawl tro fe dorrwyd i mewn i'r siop a chafodd dyluniadau eu dwyn," meddai Mr Hopkin-Thomas.

"Roedd ganddi gist fawr lle roedd hi'n cadw'i holl ddyluniadau a byddai'n eistedd arni i datŵio fel bod neb yn gallu cael atyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Neil Hopkin-Thomas wnaeth roi casgliad ei hen fodryb i Amgueddfa Cymru

Roedd hi'n benderfynol, meddai, bod dim rheswm iddi beidio gwneud "y job roedd hi'n ei garu" dim ond am ei bod yn fenyw a'r diwydiant yn un llawn dynion.

"Ar ei dwylo roedd yna smotiau bach o liw ble roedd hi'n gwirio'r inc cyn tatŵio rhywun," meddai Mr Hopkin-Thomas.

"Roedd yr arfbais deuluol ar ei chefn, fel ar gefn ei thad, ynghyd â gwe pry cop a chroes."

Ffynhonnell y llun, Neil Hopkin-Thomas / Amgueddfa Cymru

Roedd Jessie Knight yn "ffigwr hanesyddol" a lwyddodd i wneud enw i'w hun trwy greu "math arbennig o fenyweidd-dra gwydn mewn diwydiant dan ddylanwad dynion" yn ôl yr hanesydd tatŵio Dr Matt Lodder.

Roedd yn gweithio mewn trefi porthladd ar draws y DU fel Chatham yng Nghaint, Aldershot yn Hampshire a Portsmouth gan "roi tatŵs yn bennaf i forwyr" oedd yn teithio trwyddyn nhw.

"Fe fyddai yna gryn feddwdod a chamymddygiad wedi bod," dywedodd.

"Roedd hi'n gweithio mewn byd ble roedd yn rhaid iddi fod yn ofalus ond ar yr un pryd fe wnaeth hi fe gyda 'chydig o panache."

Ffynhonnell y llun, Neil Hopkin-Thomas / Amgueddfa Cymru

Fe fyddai arwyddion yn ei siopau yn rhybuddio rhag ymddwyn yn afreolus neu'n feddw, gan gynnwys un yn datgan: 'If you've had one over the eight… you are too late.'

"O'r deunydd sydd gyda ni o'i bywyd, gallwn weld ei bod yn fenyw wydn, gyda synnwyr digrifwch go iawn a'i llygad yn pefrio," ychwanegodd Dr Lodder.

Am flynyddoedd roedd Mr Hopkin-Thomas wedi cadw dros 1,000 o wrthrychau gan gynnwys ei dyluniadau, lluniau teuluol a'r peiriannau a ddefnyddiodd.

''Mae bron fel ei bod wedi darfod tatŵio un diwrnod, rhoi popeth mewn bag a dyna ni," medd Dr Lodder. "Mae'r cyfan yna ac mae'n adrodd ei stori."

Ffynhonnell y llun, Neil Hopkin-Thomas / Amgueddfa Cymru

Mae'r casgliad, meddai, yn taflu goleuni ar fywydau pobl tu hwnt i Jessie Knight ei hun.

"Mae tatŵio yn ffordd o ddysgu am bobl nad ydy amgueddfeydd fel arfer yn adlewyrchu eu bywydau.

"Trwy'r fenyw ryfeddol yma a'i gwaith, fe welwn ni'r cyfnod newidiol yma. Gwlad sy'n mynd trwy gwymp ymerodraeth, newid statws menywod, dau ryfel byd a chryn newid cymdeithasol.

"Yr holl bethau sy'n cyffroi pobl ddigon i'w cofnodi ar eu cyrff - mae'r cyfan yna yn y dyluniadau yma."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Matt Lodder a Fflur Morse yn yr arddangosfa

"Mae'n wirioneddol bwysig i gadw straeon menywod fel Jessie Knight a adawodd eu marc ar Gymru a chael effaith fawr yn ei maes mewn byd lle roedd dynion yn tra-arglwyddiaethu," meddai'r uwch guradur Fflur Morse, sy'n goruchwylio'r casgliad ar ran Amgueddfa Cymru.

Mae'r sefyllfa'n dra gwahanol i artistiaid tatŵ benywaidd heddiw, fel Lisa Turner - perchennog stiwdio Inkabella yn Y Barri ble mae'r holl artistiaid yn fenywod.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jessie Knight baratoi'r ffordd ar gyfer artistiaid tatŵ y dyfodol, medd Lisa Turner

"Yn ddi-os, fe wnaeth gwaith Jessie Knight arwain y ffordd fel bod artistiaid tatŵ benywaidd yn cael eu derbyn fwy yn y dyfodol," dywedodd.

"Rwy'n meddwl bod yna fwy o artistiaid tatŵ benywaidd yn Y Barri nawr na rhai gwrywaidd.

"Mae hynny'n beth mawr o'i gymharu â sut fuodd hi, hyd yn oed pan wnes i ddechrau.

"Oni bai am bobl fel Jessie Knight, wyddwn i ddim ble fydden ni."

Gallwch weld mwy am y stori yma trwy wylioWales Live ar iPlayer.

Pynciau cysylltiedig