'Rhaid cyflwyno rheolau tatŵ newydd yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Artist tatŵ wrth ei waithFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r rheolau ar fin newid i fusnesau yng Nghymru sy'n cynnig triniaethau arbenigol fel tatŵio a thyllu'r corff.

Fel rhan o gynlluniau newydd Llywodraeth Cymru fe fyddai angen trwyddedau cenedlaethol gorfodol er mwyn gallu cynnig y gwasanaethau.

Nod y cynllun yw gwella safonau a lleihau heintiau.

Ar hyn o bryd, mae unigolion yn gorfod gwneud cais i'w awdurdodau lleol er mwyn cael y drwydded.

Yn ôl Shaun Williams, sy'n rhedeg stiwdio tatŵ yn Llanelli, mae'r system bresennol yn golygu fod safonau'n amrywio ar draws y wlad.

"Mae rhaid cyflwyno rheolau newydd," meddai. "Mae rhaid i'r system newid."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shaun Williams ymhlith y rhai sy'n dweud bod angen newid er mwyn cynnal safonau

Mae Shaun yn croesawu datblygiad Llywodraeth Cymru ond yn dweud bod angen cadw profiadau'r artistiaid wrth galon y cynlluniau.

"Ry'n ni, yr artistiaid tatŵ, yn gweithio gyda chroen yn ddyddiol," meddai Shaun.

Mae arbenigwyr iechyd wedi rhybuddio bod risgiau yn gysylltiedig ag artistiaid sy'n ymarfer heb drwydded neu'n defnyddio nodwydd brwnt, megis HIV a hepatitis.

'Mae e'n rhwydd cael tatŵ gwael'

Mae Shaun wedi bod yn tatŵio ers wyth mlynedd. Cyn hynny, fe wnaeth gwblhau prentisiaeth gydag artist tatŵ ar ôl gorffen cwrs celf yn y brifysgol.

Mae'n dweud bod dysgu'r safonau gorau wrth hyfforddi yn hollbwysig i'r diwydiant yn ehangach.

"Mae e i gyd i wneud gyda'r person sy'n fodlon cymryd ti 'mlaen," meddai Shaun.

"Nhw sy'n dysgu ti sut i wneud popeth, sut i lanhau pethau, sut i drin cwsmeriaid.

"Does dim cwrs. Does dim arholiad."

Yn ystod ei yrfa, mae Shaun wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer sydd â diddordeb yn y grefft.

Ei bryder yw bod pobl yn trio rhoi tatŵs i'w ffrindiau a theulu heb yr hyfforddiant addas.

"Mae lot yn fwy o bobl mo'yn tatŵ nawr," meddai Shaun, "ac mae e'n rhwydd cael tatŵ gwael."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwlch rhwng yr artistiaid tatŵ gorau a'r gwaethaf wedi cynyddu, medd Shaun Williams

Mae Shaun yn rhybuddio fod pobl yn prynu nwyddau yn rhad ar-lein er mwyn gallu mentro creu tatŵs eu hunain.

"Mae pobl yn ffeindio ffyrdd o gael tatŵ yn gyflymach, lot yn rhatach."

Mae e'n dweud bod y bwlch rhwng y gorau a'r gwaethaf yn y diwydiant wedi tyfu.

'Pobl yn dod mewn wedi cael gwaith drwg'

Mae croeso i'r newid gan un arall sy'n gweithio mewn stiwdio tatŵ yng Nghaernarfon, sy'n dweud y dylai leihau'r risg o heintiau.

"Y sôn oedd codi safon mewn clinical practice mewn stiwdios tatŵ, semi permanent make-up a tatŵ meddygol - dyna beth dwi yn ei 'neud," dywedodd Ffion Hughes ar Dros Frecwast.

"Y broblem ydy - mae lot o tattooists yn gallu gwneud tatŵs o adra, does 'na ddim safonau yn cael eu dal, lot o heintiau yn cael eu lledaenu. Mae o'n beth da iawn bod o ar gynllun."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ffion eu bod yn aml yn cael ceisiadau gan gwsmeriaid yn y stiwdio i drwsio pethau sydd wedi mynd o'i le.

"Rydyn ni'n gweld yn aml iawn, yn enwedig efo permanent make-up, lot o bobl yn dod i mewn wedi cael gwaith drwg, gwaith oedd wedi cael ei 'neud o gartref, gwaith sydd ddim yn cael ei reoli.

"Mae'r hyn sydd ar gynllun rŵan yn mynd i fod yn rili da i'r diwydiant."

'Diogelu effeithiol bob tro'

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru, Frank Atherton, fod sicrhau safonau effeithio yn hanfodol.

"Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn sicrhau bod y cleientiaid a'r ymarferwyr yn cael eu diogelu'n effeithiol bob tro," meddai.

"Rydyn ni'n awyddus i gael ymatebion i'r ymgynghoriad gan yr holl randdeiliaid, yn enwedig y rheini sy'n ymarferwyr hunangyflogedig a'r rheini sy'n gweithredu fel busnesau bach."

Dyma gam olaf y newidiadau gafodd eu cyflwyno dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i wella safonau atal a rheoli heintiau yn y diwydiant.

Roedd y gwaith deddfwriaethol i fod wedi ei gwblhau yn 2020 ond cafodd y cynllun ei ohirio oherwydd Brexit a phandemig Covid-19.

Pynciau cysylltiedig