AS: 'Anniddigrwydd cyhoeddus' dros ddigwyddiad Llaneirwg

  • Cyhoeddwyd
Darcy Ross, Rafel Jeanne, Eve SmithFfynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad ar gyrion Caerdydd

Mae ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd wedi talu teyrnged i gyn-ddisgybl gafodd ei ganfod yn farw mewn car ddeuddydd ar ôl mynd ar goll.

Daw hynny wrth i Aelod o'r Senedd ddweud bod "anniddigrwydd cyhoeddus" yn parhau i fod tuag at ymateb yr heddlu i'r digwyddiad.

Roedd Rafel Jeanne, 24, yn un o dri a fu farw ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i gar yn ardal Llaneirwg y ddinas yn gynnar fore Llun.

Bu farw Eve Smith a Darcy Ross - y ddwy yn 21 oed - yn y digwyddiad hefyd.

Mae dau berson arall, Sophie Russon, 20, a Shane Loughlin, 32, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, meddai'r heddlu ddydd Mercher.

Bydd ymchwiliad nawr yn cael ei gynnal i'r ffordd y gwnaeth heddluoedd Gwent a De Cymru ymateb i adroddiadau fod y pump ar goll, cyn iddyn nhw gael eu canfod mewn car ar gyrion Caerdydd.

Cafodd y pump ohonynt eu gweld ddiwethaf yng Nghaerdydd am tua 02:00 ddydd Sadwrn.

Roedden nhw'n teithio mewn car Volkswagen Tiguan, a gafodd ei ganfod am 00:15 ddydd Llun.

'Bachgen llawn egni'

Daeth cannoedd ynghyd mewn gwylnos nos Fawrth ger safle'r digwyddiad.

Wrth dalu teyrnged i Mr Jeanne, dywedodd Ysgol Glantaf mewn datganiad eu bod yn cofio am ddisgybl "annwyl, uchel ei barch".

"Gyda thristwch mawr y clywson am golli un o'n cyn-ddisgyblion annwyl, Rafel Jeanne, a hynny yn greulon o sydyn ac annisgwyl yr wythnos hon," meddai'r datganiad.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna dân gwyllt a munud o dawelwch yn ystod gwylnos a drefnwyd i'r tri fu farw nos Fawrth

"Roedd Rafel yn ddisgybl llawen, llawn bywyd ac egni yn yr ysgol, yn boblogaidd ymysg ei flwyddyn ac yn gyfaill cywir iawn oedd yn uchel ei barch ymysg ei gyd-ddisgyblion.

"Cyfranodd yn gyson i weithgareddau yr ysgol, gan serenu fel aelod o dimau rygbi yn y Stadiwm Genedlaethol yn ennill Cwpan Cymru yn 2013 a theithio gyda carfan 7 bob ochr yr ysgol i gystadlu yn rowndiau terfynol Parc Rosslyn yn 2012.

"Roedd ei gymeriad egniol, brwdfrydig a'i wên yn denu pobl ato ac yn nodweddu ei bersonoliaeth.

"Roedd Rafel yn ddisgybl poblogaidd a llawen, yn falch o gefnogi eraill, yn wir roedd gweld ei ddatblygiad yn ystod ei amser yn yr ysgol yn brawf o'i aeddfedrwydd a'i ymdrech cyson o fewn cymuned yr ysgol.

"Anfonwn ein cydymdeimlad didwyll at ei deulu a'i ffrindiau ar hyd y ddinas a thu hwnt, gan gofio yn annwyl a chywir iawn am ddisgybl annwyl yr ydym yn falch iawn o'i adnabod a'i gofio fel aelod o deulu Glantaf."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan CRICC

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan CRICC

Wrth i'r digwyddiad gael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd y Llywydd Elin Jones fod "ein meddyliau gyda theuluoedd y tri pherson ifanc a laddwyd".

"Dwi'n cofio gwylio un ohonyn nhw, Rafel, yn chwarae rygbi yn yr un tîm â fy nai yn yr ysgol gynradd, yn chwarae i CRCC, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd; dawn ifanc mor gyflym ar y cae rygbi," meddai.

"Ar ran pob un ohonom yn y Senedd, rydym yn cydymdeimlo â ffrindiau a theuluoedd Eve, Darcy a Rafel, ac mae ein gobeithion gyda Sophie a Shane am wellhad llwyr."

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt ei bod hi'n "drasiedi ddinistriol".

"Bydd hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bawb sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad ofnadwy hwn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r De a Heddlu Gwent bellach wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu dros yr achos

Bellach mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi penderfynu y byddan nhw'n ymchwilio i'r ffordd y deliodd yr heddluoedd gydag adroddiadau fod y pump ar goll.

Mae teulu a ffrindiau rhai o'r rheiny fu farw wedi beirniadu'r ffordd y gwnaeth yr heddlu ymateb i'r achos.

Wrth gyfrannu at y drafodaeth, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS nad oedd modd "anwybyddu'r anniddigrwydd cyhoeddus gan deuluoedd a ffrindiau dioddefwyr y ddamwain" ynglŷn ag ymateb yr heddlu i'r digwyddiad.

Cyfeiriodd at sylwadau gan Winston Roddick, cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, ar ymateb yr heddlu, a ddywedodd ei fod wedi synnu gyda diffyg gweithredu'r heddlu, o ystyried nad oedd y bobl ifanc wedi bod ar eu ffonau symudol ers oriau man fore Sadwrn.

Awgrymodd AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru bod angen i'r heddlu wella eu prosesau wrth ddelio gydag adroddiadau o bobl sydd ar goll, er mwyn "sicrhau bod modd osgoi digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol".

Mae lluoedd heddlu De Cymru a Gwent wedi dweud na allan nhw wneud sylw tra bod ymchwiliad yr IOPC ar y gweill.

Ond dywedodd Ms Hutt y byddai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn "edrych ar beth yn union ddigwyddodd".

"Ac mae'n rhaid i ni gydnabod y galar cyhoeddus rhyfeddol hwnnw a fynegwyd yn yr wylnos ar safle'r ddamwain neithiwr," meddai.

Pynciau cysylltiedig