Eve Smith: Teyrnged tad i ferch a gafodd ei chanfod yn farw

  • Cyhoeddwyd
Everton Smith a'i ferch, EveFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Everton Smith a'i ferch, Eve, a fu farw dros y penwythnos yn 21 oed

Mae tad Eve Smith, a gafodd ei chanfod yn farw mewn car ar gyrion Caerdydd, wedi dweud bod ei fywyd wedi newid am byth.

Cafodd y fenyw 21 oed ei lladd mewn gwrthdrawiad gyda Rafel Jeanne, 24, a Darcy Ross, 21, ar yr A48 yn Llaneirwg.

Mae Sophie Russon, 20 a Shane Loughlin, 32, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i'r ffordd y deliodd yr heddluoedd gydag adroddiadau fod y pump wedi bod ar goll am bron i ddeuddydd cyn cael eu canfod.

Siaradodd Everton Smith y tu allan i'r ysgol mixed martial arts y mae'n ei rhedeg yng Nghasnewydd, lle mae dwsinau o deyrngedau blodau wedi'u gosod.

Yn y ffenestr roedd arddangosfa o luniau o'i ferch yn ogystal â cherdd a ysgrifennwyd gan Mr Smith.

"Mae'n mynd i newid fy mywyd," meddai Mr Smith.

"Fydd dim byd yr un peth. Fi jyst ei angen hi yma i gael fi trwy hyn. Mae hwn yn sefyllfa amhosib."

Disgrifiodd ei ferch fel person prydferth a "mor ddeallus".

Ffynhonnell y llun, Cyfryngau cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy Ross, Rafel Jeanne ac Eve Smith yn dilyn y digwyddiad ar gyrion Caerdydd

Dywed Heddlu'r De fod eu hymholiadau i'r gwrthdrawiad angheuol ar yr A48 yn parhau.

Maen nhw hefyd holi chweched person oedd yn y car, a gafodd ei ollwng yn ardal Pentwyn, Caerdydd cyn y gwrthdrawiad.

Y gred ydy fod y person yn cydweithredu yn llawn gydag ymholiadau'r heddlu.

Dywedodd Andrew Collingbourne, cyfreithiwr ar ran teulu Mr Smith ei fod yn gobeithio cwrdd â'r Swyddog Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ddydd Llun.

"Rwy'n fodlon y bydd yna ymchwiliad teg a gwrthrychol i beth sydd wedi digwydd," meddai Mr Collingbourne.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu'r De a Heddlu Gwent bellach wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu dros yr achos

Cyn y digwyddiad roedd y merched wedi bod i glwb The Muffler yn ardal Maesglas nos Wener.

Yna, fe wnaethant deithio 36 milltir i Barc Gwyliau Trecco ym Mhorthcawl gyda'r ddau ddyn, y ddau o Gaerdydd.

Mae adroddiadau ar wefannau cymdeithasol yn awgrymu fod yna anghydweld wedi bod ar y safle gyda pherson arall.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i gŵyn am sŵn yn y parc.

"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda'r teuluoedd a phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad trasig yma," meddai llefarydd yr heddlu.

"Mae swyddogion arbenigol yn cynnal ymchwiliad manwl i ddarganfod beth ddigwyddodd."

Mae'r heddlu wedi cadarnhau erbyn hyn bod y gwrthdrawiad wedi digwydd am 02:03 fore Sadwrn 4 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Parc Trecco: "Rydym yn cydweithio gyda'r heddlu gyda'u hymholiadau ond ni fyddwn yn gwneud sylw pellach."

Pynciau cysylltiedig