Dynes, 71, wedi 'camgymryd cartref am westy cyn cael ei lladd'
- Cyhoeddwyd
Cafodd dynes 71 oed ei chicio a'i stampio i farwolaeth gan ddyn o Wynedd ar ôl iddi gamgymryd ei gartref am westy, mae llys wedi clywed.
Bu farw Margaret Barnes, o Birmingham, yn ystod oriau mân 11 Gorffennaf y llynedd tra ar ymweliad â'r Bermo.
Clywodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon fod Mrs Barnes wedi ei chanfod yn cysgu yn ystafell wely David Redfern, a'i llusgo i lawr y grisiau wrth ei thraed ac yna ei chicio neu ei stampio arni.
Mae Mr Redfern, 46, yn gwadu llofruddiaeth neu ddynladdiad.
'Camgymeriad a gostiodd ei bywyd'
Wrth agor yr achos dywedodd yr erlynydd, Michael Jones KC fod y diffynnydd yn gyfrifol am ymosodiad "cwbl anghyfiawn" ar Mrs Barnes.
Clywodd y llys fod Mrs Barnes yn aros yn y dref i ymweld â ffrindiau, a'i bod wedi ei gweld yn yfed mewn tafarndai yn y dref cyn iddi farw.
Roedd hi wedi bod yn bwriadu aros mewn gwesty gwely a brecwast ar Marine Parade, lle roedd cartref Mr Redfern hefyd.
Clywodd y rheithgor fod Mrs Barnes wedi mynd i'r tŷ hwnnw ar gam pan yr oedd yn "feddw", ac wedi mynd yn syth i ystafell wely, lle syrthiodd i gysgu.
"[Roedd hynny yn] gamgymeriad a gostiodd ei bywyd yn y pen draw," meddai Mr Jones.
Dywedodd Mr Jones fod y diffynnydd yn ddyn 6'1" o daldra a oedd yn pwyso 21 stôn ar y pryd.
Clywodd y rheithgor fod Mr Redfern yn cyfaddef fod ganddo broblemau gyda'i dymer.
"Byddai wedi bod yn annisgwyl iddo ddarganfod y ddynes oedrannus yn cysgu yn ei wely," meddai Mr Jones.
Fe alwyd yr heddlu i adrodd am bresenoldeb Mrs Barnes, ond dywedodd yr erlyniad fod yr hyn a ddilynodd "allan o bob rheswm".
"Fe dynnodd hi i lawr y grisiau wrth ei ffêr," meddai. "Fe wnaeth o stampio arni'n fwriadol neu ei chicio."
Arweiniodd at anafiadau "trychinebus" i'w iau, ac roedd wedi torri sawl un o'i hasennau.
Llwyddodd i fynd allan, lle'r oedd ei chês wedi'i daflu.
"Gwawdiodd y diffynnydd hi wrth iddi ddechrau cwyno am boenau yn ei brest."
Syrthiodd Mrs Barnes yn anymwybodol, a chafodd ataliad ar y galon wrth i gymdogion geisio ei deffro. Ond bu farw yn y fan a'r lle.
'Bwli blin'
Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad fod ganddi anaf trawmatig i'w iau, a'i bod yn gwaedu'n helaeth yn fewnol.
Yn ôl yr erlyniad roedd ei hanafiadau yn debyg i'r trawma a fyddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn gwrthdrawiad ffordd cyflym.
Dywedodd Mr Redfern wrth yr heddlu mewn cyfweliadau fod Mrs Barnes wedi bod yn ymosodol a'i bod wedi ceisio mynd am ei bartner.
Dywedodd yr erlyniad y byddai Mr Redfern yn honni ei fod wedi baglu neu syrthio ar ben Mrs Barnes, ac nad oedd wedi ei chicio.
Ond ychwanegodd Mr Jones: "Y rheswm y bu Mrs Barnes farw yw iddi gael yr anffawd o ddod ar draws dyn oedd yn fwli blin."
Mae Mr Redfern yn gwadu llofruddiaeth neu ddynladdiad Mrs Barnes.
Mae disgwyl i'r achos bara tua thair wythnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd5 Awst 2022