'Methu cario 'mlaen' gyda chyflwr cronig a chostau byw
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau sy'n cefnogi pobl ag afiechydon cronig neu anableddau yn dweud bod mwy a mwy yn dod atyn nhw yn ystyried dod â'u bywydau i ben am fod "bob dim mor ofnadwy o anodd".
Mae 'na alw hefyd am "system budd-daliadau gwell" i ddelio gyda "chostau cudd" cyflyrau.
Mae afiechyd cronig yn gyflwr iechyd hirdymor sy'n aml heb wellhad, fel sglerosis ymledol (MS), arthritis neu ddiabetes.
Fel gydag anableddau, mae yna'n aml gostau ychwanegol yn cynnwys meddyginiaeth, offer neu driniaethau iechyd eraill.
Ond gyda'r argyfwng costau byw, mae nifer yn gorfod dewis rhwng y costau hynny a gwresogi eu cartrefi neu brynu bwyd.
Yn ôl Llywodraeth y DU maen nhw wedi "ymrwymo i warchod y mwyaf bregus" ac yn cynyddu budd-dal yn unol â chwyddiant.
Ond yn ôl Catrin Shorney-Jones o Gymdeithas MS Cymru, mae'n "dorcalonnus" clywed faint o bobl sy'n methu ymdopi.
"Da ni'n clywed 'o bob diwrnod rŵan, ma' pobl yn crio ar y ffôn, dy'n nhw'n methu fforddio bwyd, dy'n nhw'n methu fforddio cynhesu tai," meddai.
"Lot o bobl yn methu fforddio rhoi petrol yn y car i fynd i apwyntiad sy'n bwysig i drio rheoli'r MS.
"'Da ni'n cael lot o bobl yn anffodus, yn enwedig yn y ddwy flynedd ddiwetha', yn dod aton ni'n methu cario 'mlaen, yn methu cario 'mlaen efo'u bywydau nhw achos bod bob dim mor ofnadwy o anodd iddyn nhw."
'Costau cudd'
Mae Ms Shorney-Jones yn pwysleisio bod pobl sy'n byw gydag afiechydon fel MS ddim o reidrwydd yn gallu gweithio ac yn dibynnu ar fudd-daliadau, yn aml yn wynebu costau "cudd" oherwydd eu symptomau, sy'n gallu gwaethygu mewn tywydd oer.
Ychwanegodd: "Dio'm jyst yn ddewis rhwng bwyd a chynhesu tŷ.
"Ma' rhaid i chi gofio efo cyflyrau fel 'ma, ma' pobl ella efo problema' efo'r bledren a'r bowel a ma' nhw'n gorfod wedyn defnyddio'r peiriant golchi yn fwy - s'gynnon nhw ddim dewis."
Mae Anabledd Cymru hefyd wedi gweld cynnydd mewn problemau iechyd meddwl yn deillio o'r argyfwng costau byw.
Dywedodd llefarydd: "Mae'r cynnydd ym mhris tanwydd a thrafnidiaeth yn gadael pobl anabl yn unig ac ynysig am nad ydyn nhw'n gallu mynd at deulu a ffrindiau.
"Mae nifer o bobl anabl wedi dweud wrthon ni eu bod wedi ystyried lladd eu hunain."
Mae Sioned Williams, mam sengl o Ynys Môn sydd ag MS, yn dweud ei bod yn cael trafferth talu biliau ac yn methu gwneud dim yn yr oerni oherwydd ei symptomau.
Mae ganddi hefyd fab 15 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ac yn dweud ei bod yn aberthu ei hiechyd ei hun trwy beidio rhoi'r gwres ymlaen er mwyn talu am betrol i fynd â'i mab i weithgareddau ac apwyntiadau.
Mae'n dweud bod ei chostau byw "bron iawn 'di treblu hefo jest pris gas a lectric".
"Dwi'n trio peidio rhoi'r gas ymlaen, oherwydd bod o'n costio cymaint i fi," meddai.
Ychwanegodd: "Ma' costau byw efo anableddau, i gael fatha sgwter… aids gwahanol 'da ni angen i gerdded - ma' gyd o'r rheina'n costio lot o bres."
'Dim syniad sut 'da ni'n mynd i ymdopi'
Fel cymaint o rai eraill, mae hi wedi gorfod newid ei harferion "dros nos" ac yn methu mynd allan mor aml, sy'n effeithio ar ei hiechyd meddwl.
"Ma' stress efo MS yn un o'r petha' gwaetha' fedri di gael, a ma' cael stress i 'neud efo'r costau byw sy' gynno fi yn gwaethygu fo hefyd.
"S'gena ni ddim syniad sut 'da ni'n mynd i ymdopi efo hyn os mae o dal yn mynd i fyny mor fast a be' mae o."
Un "uchafbwynt" pob mis ydy cwrdd ag eraill sydd ag MS mewn caffi lleol yng Nghaernarfon, ac mae Ms Williams yn dweud bod hi'n "hynod o bwysig dod efo'n gilydd a siarad".
"Dyma sut 'da ni'n ymdopi efo'r gwahanol betha' sy'n digwydd mewn bywyd," meddai.
'Newid y ffordd dwi'n prynu'
Mae Beryl Jones, 80 oed o Lanfairpwll, hefyd yn edrych ymlaen at y boreau coffi misol ond yn dweud ei bod wedi gorfod "newid y ffordd dwi'n bwyta, newid y ffordd dwi'n prynu".
"Be 'dwi yn 'neud ydy penderfynu peidio rhoi gwres ar yn y 'stafelloedd os 'dwi ddim yn yr ystafell," meddai.
"Dwi'n rhoi mwy o ddillad. Amser rhyfel - dyna be oedan nhw'n 'neud.
"Nes i 'rioed feddwl fasen ni'n mynd drwy hyn eto."
Cafodd un arall o'r grŵp, Shan Morgan o Rostryfan ger Caernarfon, ddiagnosis MS 12 mlynedd yn ôl.
Mae hithau'n ei chael hi'n anodd oherwydd y costau cynyddol.
"Dwi'n coginio llai - achos ma' electric 'di mynd i fyny," meddai.
"Dwi'n iwsho'r slow cooker fwy, a 'dwi'n gwneud dim un pryd ond tri pryd yn hwnnw i dair noson."
'Fedrai'm fforddio hynny'
Ychwanegodd: "Ma gynno fi sgwter, ond mae o'n y garej.
"Dwi'm yn ei ddefnyddio fo - mae'n costio gormod i redeg, ac mae'n rhy oer i redeg o anyway.
"Ond faswn i'n medru mynd i lefydd. Faswn i'n medru mynd at fy chwaer i siopa, ond fedrai'm fforddio hynny."
Mae llawer o bobl gydag afiechydon fel MS neu anabledd yn gallu hawlio Taliad Annibynnol Personol (PIP) i helpu gyda chostau ychwanegol.
Mae tua thair miliwn o bobl yn ei hawlio yn y DU, a gall rhai sy'n cael y taliad hefyd gael Taliad Costau Byw i'r Anabl gwerth £150 eleni.
'System budd-daliadau gwell'
Ond mae Cat Shorney-Jones yn galw am "system budd-daliadau gwell".
"Ma' pobl sydd yn mynd drwy'r broses yn ffeindio hi'n anodd iawn mynd drwyddo fo," meddai.
"Ma' rhaid i chi gofio efo cyflyrau fel 'ma, ma'r stress o fynd drwy'r broses o drio cael budd-daliadau yn cael effaith ar y symptomau ffisiolegol, a ma' hynna'n anodd ofnadwy.
"'Da ni angen bod y llywodraeth yn rhoi ryw fath o package arall i bobl sydd yn byw efo cyflyrau i helpu nhw tuag at y costau byw yma."
Mae Sioned Williams yn cytuno bod angen mwy o gymorth, "er enghraifft i gael sgwter, i gael gyd o'r petha 'da ni angen i gerdded o gwmpas".
"Ella cael heater bach extra yn y tŷ. Fyse cael dipyn bach o bres i 'neud efo PIP yn lot gwell."
'Gwarchod y rhai mwyaf bregus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "gwybod bod rhai gyda chyflyrau iechyd hirdymor yn wynebu costau ychwanegol" a'u bod "wedi ymrwymo i warchod y rhai mwyaf bregus".
"Dyna pam ein bod yn cynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant ar 10.1% o fis Ebrill ac yn darparu £1,350 yn ychwanegol mewn taliadau uniongyrchol i'r cartrefi mwyaf bregus yn 2023-24," meddai.
"Mae hyn yn cynnwys gwerth £900 mewn cefnogaeth costau byw a Thaliad Costau Byw i'r Anabl gwerth £150 yn benodol i bobl ar draws y DU sydd ar fudd-daliadau anabledd, i helpu gyda'r costau ychwanegol maen nhw'n wynebu.
"Mae ein Gwarant Pris Ynni hefyd yn arbed £900 yn fwy i gartref arferol y gaeaf hwn ac rydym yn ehangu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru, i helpu pobl yng Nghymru gyda chostau hanfodol, gyda £50m ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf."
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod wedi'ch effeithio gan y materion a godwyd yn y stori yma, mae cefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022