'Talu £100 yr wythnos am therapi ond ddim yn gwresogi'r tŷ'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Geredigion sy'n gwario hyd at £100 yr wythnos ar therapi iechyd meddwl yn ystod argyfwng costau byw yn dweud nad yw hi'n defnyddio'i gwres canolog.
Mae Hedydd Elias yn dweud iddi gael gwybod yn 2019 y byddai'n rhaid iddi aros dwy flynedd a hanner am therapi gyda'r gwasanaeth iechyd.
Yn ôl elusen Mind Cymru, ni ddylai unrhyw un orfod talu am gymorth sydd ei angen arnyn nhw, heb sôn am orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref a thalu am driniaeth.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod wedi sefydlu llinell gymorth iechyd meddwl 24/7 yn ddiweddar a bod help ar gael yn syth i unrhyw un sydd mewn argyfwng.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi cyllid ychwanegol i bob bwrdd iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros.
Mae Hedydd Elias, 28, sy'n byw yn Aberaeron wedi "dibynnu" ar gymorth iechyd meddwl ers mwy na 15 mlynedd wrth fyw gyda gorbryder ac iselder.
Mae wedi cyrraedd pwynt o "argyfwng" sawl gwaith, a phan ddigwyddodd hynny eto dair blynedd yn ôl, mae'n dweud y cafodd wybod y byddai'r rhestr aros am therapi gyda'r gwasanaeth iechyd yn ddwy flynedd a hanner.
"Mae e'n codi ofn, na'r unig beth sy' angen arno ti yn y cyfnod 'na yw help, yw cymorth, just rhywun i fod 'na os ti'n teimlo bo' ti ffaelu cadw dy hunan yn saff.
"Ambell waith yr achos yw ti'n cerdded mewn i A and E a ti'n gorfod aros naw neu ddeg awr i weld rhywun a'r peth ola' ti mo'yn 'neud yw aros. Mae e'n arswydus."
'Heb droi'r gwres 'mlaen eto'
Fe ddewisodd hi beidio cael help gan y tîm argyfwng dair blynedd yn ôl gan ei bod yn "mynd rownd mewn cylchoedd" wrth weld gwahanol feddygon ar hyd y blynyddoedd. Roedd hi'n teimlo mai talu'n breifat am therapi oedd yr unig opsiwn iddi yn hytrach nag aros.
Mae un sesiwn gyda therapydd yn costio £50 iddi, ac yn aml mae angen dwy sesiwn yr wythnos arni.
"Ar hyn o bryd, fi'n byw ar ben fy hunan... sa i 'di troi'r gwres mlaen 'to," dywedodd.
"Ma' hwn [therapi] yn rhywbeth fi'n gw'bod fi ddim yn gallu byw hebddo. Ma' rhaid i fi gal hwn," ychwanegodd.
Ond mae'n dechrau poeni am y "pot arian" ar gyfer therapi sydd ganddi o'i chyflog yn y fferyllfa leol.
"'Ma beth yw'r sefyllfa nawr, beth mae e'n mynd i fod fel mewn chwech mis i flwyddyn? Fi'n dechre paratoi am 'na yn barod."
Fe rannodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu ffigurau diweddaraf ar restrau aros therapi iechyd meddwl gyda BBC Cymru Fyw.
Ym mis Medi eleni, roedd 390 (44.2%) o gleifion yn aros llai na 26 wythnos - tua chwe mis - i ddechrau triniaeth therapi seicolegol gyda'r bwrdd iechyd.
Roedd 493 (55.8%) o gleifion, felly, yn aros mwy na chwe mis.
Wrth i gannoedd o bobl aros am gymorth am ddim, mae'r galw'n cynyddu i elusennau llai, sydd hefyd yn teimlo straen yr argyfwng costau byw.
Yng Nghastellnewydd Emlyn, mae elusen a gweithdy HUTS wedi bod yn cynnig cefnogaeth i bobl leol, fel Hedydd, ers mwy na 20 mlynedd, ond maen nhw wedi gorfod torri'n ôl ar wasanaethau yn ddiweddar.
Mae'r bwrdd iechyd yn darparu dros £12,000 i'r elusen bob blwyddyn, sy'n eu galluogi i gynnal gwasanaeth cyfyngedig.
"Wel y'n ni ffili agor am y pump diwrnod... felly mae'n effeithio ar faint o bobl sy'n gallu dod mewn i gael y profiad 'na," dywedodd Pam Cartwright, sy'n gweithio gyda HUTS.
"Mae'r rheiny sy'n byw yn bellach yn gorfod meddwl ddwywaith a ni'n gweld bo' nhw ddim yn gallu dod mewn shwd gymaint achos costau."
Dewis rhwng therapi a gwres yn 'argyfwng'
Mae elusen Mind Cymru yn rhybuddio na ddylai unrhyw un orfod dewis rhwng talu am driniaeth iechyd meddwl a hanfodion fel gwres a bwyd oherwydd rhestrau aros hir.
Dywedodd Bethan Jones-Arthur, sy'n swyddog cyfathrebu, bod gorfod gwneud y dewis hynny yn "argyfwng".
"Y peth pwysica' yma yw ry'n ni'n credu na ddylai unrhyw un orfod talu am y cymorth ma' nhw ei angen.
"Mae'n fater iechyd felly fe ddylen nhw gael y triniaeth a'r cymorth hanfodol yna am ddim."
Ond, maen nhw'n cydnabod nad oes ffordd hawdd a chyflym o leihau amseroedd aros.
Cyllid ychwanegol i bob bwrdd iechyd
Dywedodd Liz Caroll, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anghenion Dysgu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ei bod "am sicrhau'r cyhoedd bod y rheiny sydd mewn argyfwng yn gallu cael mynediad at gefnogaeth yn syth".
Dywedodd hefyd eu bod wedi sefydlu llinell gymorth iechyd meddwl 24 awr y dydd ar gyfer bob oed yn ddiweddar, ac mai nhw oedd y bwrdd iechyd cyntaf i wneud hynny.
"Mae'r gwasanaeth yn peilota ac yn datblygu nifer o grwpiau therapi ar sail tystiolaeth i geisio cynnig rhain i gleifion sy'n aros am therapi.
"Tra nad ydyn ni'n gallu gwneud sylw ar ofal claf, ry'n ni'n annog yr unigolyn i ffonio 111, opsiwn dau, os hoffai siarad ag ymarferydd lles neu gallwn drefnu i rywun gysylltu â hi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu cyllid ychwanegol i bob bwrdd iechyd er mwyn lleihau amseroedd aros iechyd meddwl a gwella mynediad at wasanaethau.
"Rydyn ni hefyd yn darparu mynediad am ddim i therapi ar-lein, heb angen atgyfeiriad gan weithiwr iechyd proffesiynol, ar gyfer pobl sy'n profi gorbryder, iselder neu straen, a helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl a'u lles."
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022