Jonny Williams yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Jonny WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jonny Williams ennill 33 o gapiau a sgorio dwy gôl i Gymru

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Jonny Williams, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 29 oed.

Bu'n rhan o garfan Cymru ers 10 mlynedd, gan ennill 33 o gapiau a sgorio dwy gôl.

Roedd yn cael ei adnabod fel Joniesta gan gefnogwyr oherwydd y tebygrwydd rhwng ei gêm yntau a gêm seren Barcelona a Sbaen am flynyddoedd lawer, Andrés Iniesta.

Roedd yn rhan o'r garfan a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016, ac roedd hefyd yno ar gyfer twrnamentau Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonny Williams yn dathlu sgorio ei ail gôl ryngwladol oddi cartref yng Ngwlad Pwyl ym Mehefin 2022

Williams yw'r pedwerydd o hoelion wyth y garfan i ymddeol yn dilyn Cwpan y Byd, wedi i Gareth Bale ymddeol yn llwyr, a Joe Allen a Chris Gunter hefyd ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mae'n chwarae i Swindon yn Adran Dau ar hyn o bryd.

"Ers yn 15 oed mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd gwisgo'r Ddraig Goch ar fy nghrys," meddai.

"Rydw i wedi cael y pleser o chwarae gyda chymaint o chwaraewyr a phobl grêt dros y blynyddoedd.

"Gyda'r awyrgylch rhwng chwaraewyr, staff a chefnogwyr, fe gron ni un teulu mawr a chyflawni llwyddiant anhygoel.

"Roedd mynd i Bencampwriaeth Ewrop ddwywaith a Chwpan y Byd tu hwnt i fy mreuddwydion, ond fe wnaed hynny'n bosib gyda'n gilydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Williams ei fod "wedi cael y pleser o chwarae gyda chymaint o chwaraewyr a phobl grêt dros y blynyddoedd"

Ychwanegodd: "Fe fydda i'n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd a ges i gan Osian Roberts a Brian Flynn yn y timau ieuenctid, ac i Gary Speed, Chris Coleman, Ryan Giggs a Rob Page gyda'r tîm cyntaf.

"Yn olaf, diolch i chi gefnogwyr Cymru am aros gyda mi o'r dechrau.

"Fe wnaethoch chi fy nghroesawu i'r teulu ac ry'n ni wedi rhannu cymaint o atgofion arbennig ers hynny.

"Roedd clywed fy enw yn cael ei ganu gan gymaint o gefnogwyr Cymru yn golygu popeth i mi."