Jonny Williams: 'Allai'm credu bo fi fan hyn nawr'
- Cyhoeddwyd
Mae Jonny Williams yn dal i gofio'r diwrnod, yn 15 oed, pan yrrodd ei dad ef yr holl ffordd o Lundain i'r Drenewydd ar ôl ysgol er mwyn ceisio sicrhau y byddai'n chwarae pêl-droed dros Gymru.
Yr achlysur oedd gêm dreial rhwng bechgyn o'r gogledd a'r de - a Williams yn cofio bod yr unig yno oedd wedi ei eni yn Lloegr.
Ond er i'w dad o Ynys Môn fagu'r angerdd ynddo i wisgo'r crys coch, a fyddai'r bachgen ifanc hwnnw erioed wedi dychmygu y byddai'r siwrne hwnnw ryw ddydd yn cyrraedd Qatar, a Chwpan y Byd?
"Dim gobaith, i fod yn onest!" meddai.
Er mai dim ond 29 oed yw Williams, mae bellach yn cael ei ystyried yn un o hen bennau'r garfan ag yntau'n un o wyth chwaraewyr sydd dal ar ôl o garfan Euro 2016.
Fe ddechreuodd y gêm agoriadol yn Bordeaux yn erbyn Slofacia, gan ennill y gic rydd a sgoriodd Gareth Bale i roi Cymru ar ben ffordd yn y gystadleuaeth.
Ar y cae gydag o hefyd y diwrnod hwnnw oedd Danny Ward a Ben Davies - dau arall a wnaeth chwarae gyda Williams ar y noson honno yn Y Drenewydd.
"Roedd hi'n tywallt y glaw, cae mwdlyd, ond dwi'n cofio jyst mynd 'nôl mewn i'r car gyda Dad ar y diwedd a jyst gwenu - o'n i 'di 'neud yn dda," meddai Williams.
"Osian Roberts oedd hyfforddwr y tîm dan-15 ar y pryd, ond doedden i byth yn meddwl fydden i fan hyn nawr, yn mynd i Gwpan y Byd gyda'r tîm cynta', nes i byth feddwl bydden i'n cael un cap hyd yn oed.
"Felly i gyflawni beth dwi wedi cyflawni [mae'n anhygoel] - a 'dyn ni heb orffen eto.
"Dwi'n ddiolchgar iawn i Brian Flynn hefyd.
"Naeth e roi fi syth yn y tîm dan-21 pan o'n i'n 16 a rhoi'r platfform yna i fi gyrraedd y tîm cyntaf.
"Doedd dim ots gyda fe mod i'n fach, roedd e ei hun yn reit fach hefyd, felly roedd e'n credu yn fy ngallu i chwarae yn erbyn y bois mwy."
Mae Jonny Williams yn un o ddau chwaraewr yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd - gyda Chris Gunter - sydd bellach yn chwarae yn Adran Dau, pedwaredd haen cynghreiriau Lloegr.
Ond mae'r ddau yn aelodau poblogaidd a hirhoedlog o'r garfan, a'r rheolwr Rob Page wedi dweud eu bod nhw wedi cynnwys yn rhannol oherwydd y cyfraniad hwnnw at ysbryd y tîm.
Nid bod lle i gwestiynu gallu pêl-droed Williams chwaith - mae wedi sgorio mwy o goliau dros ei glwb Swindon eleni nag unrhyw un arall yn y garfan.
"Fi jyst yn cael mewn yna gynta' a jocian am y peth fy hunan - wnawn nhw jyst ddweud bod e'n Adran Dau!" meddai'r gŵr sydd wedi cael y llysenw 'Joniesta' gan y cefnogwyr.
"Ond mae'n grêt i sgorio goliau. Bydd pobl yn dadlau mai dim ond Adran Dau yw e, ond chi ond yn gallu chwarae yn erbyn beth sydd o flaen chi.
"A 'nes i sgorio yn yr haf [i Gymru] yn erbyn Gwlad Pwyl hefyd, felly dwi wedi 'neud e ar y ddau [lefel]."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022