Torri record hanner marathon i fenywod dros 65 yn 'anfwriadol'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n defnyddio rhedeg ar gyfer iechyd meddyliol ac iechyd corfforol, a dwi'n licio'r teimlad o fod mas - dwi'n hapus iawn os dwi mas, a dwi'n symud."
Mae Ann Evans o Ferthyr Tudful wedi dysgu cenedlaethau o blant yr ardal fel athrawes yn Ysgol Santes Tudful, ond mae hi wedi ymddeol bellach ac yn llwyddo mewn maes gwahanol.
Mae hi'n rhedwraig o fri, ac yn ddiweddar wedi llwyddo i dorri record Cymru i fenywod dros 65 oed yn hanner marathon Casnewydd.
Mae'n disgwyl i Athletau Cymru gadarnhau hynny yn swyddogol, ond mae pethau yn argoeli'n dda.
'Galle fe wedi bod yn gyflymach!'
"O'dd y record ar y pryd wedi cael ei osod tua 10 mlynedd yn ôl yn ystod hanner marathon Llyn Efyrnwy - o'dd e'n un awr 46 munud, so o'dd rhaid i fi guro 'na," meddai.
"Rhedes i un awr 43 munud, so nes i dorri'r record o dair munud.
"Ac es i i'r tŷ bach ddwywaith - galle fe wedi bod yn gyflymach!"
Roedd Ann yn defnyddio hanner marathon Casnewydd i ymarfer ar gyfer ras arall - marathon Brighton, ble mae hi'n bwriadu'i redeg ymhen ychydig wythnosau - ac mae'n mynnu nad oedd hi wedi bwriadu torri'r record.
"Time trial oedd dydd Sul diwetha' ar gyfer y marathon," meddai.
"Ond beth ddigwyddodd oedd, o'n i'n rhuthro yn y bore ac anghofies i'n oriawr, a dwi'n credu bod hwnna'n wers newydd i fi.
"Nes i ddim edrych ar fy oriawr yn ystod y ras - rhedes i trwy wrando ar fy nghorff, gwrando ar fy nghalon - a dyna be' ddigwyddodd."
Talent yn amlwg o'r dechrau
Fe ddechreuodd Ann redeg flynyddoedd yn ôl, ac wedi ailddechrau yn ddiweddar ar ôl cyfnod o seibiant.
"Dechreues i redeg yn yr 80au, wedi cael fy mhlentyn cynta' pan o'n i gartre' ar famolaeth," meddai.
"Bydde fy ngŵr yn dod gartre amser cinio a bydden i'n mynd mas am wâc, wedyn sylweddoles i 'wel os fydden i'n loncian, galla i fynd yn bellach yn yr un amser'."
O fewn ychydig wythnosau daeth llwyddiant wrth redeg ras gyda rhai o'i chydweithwyr.
"Rhedon ni 10km yn Y Fenni ac enillais i," meddai.
"Ces i lythyr wedyn gan ddyn o'r enw Colin Daly yn gofyn a alle fe fod yn coach i fi, ac o'n i'n meddwl 'pam bod y dyn 'ma moyn coachio fi?'
"Ond welodd e rywbeth. 'I think you've got talent', medde fe.
"So redes i dipyn yn yr 80au ac wedyn nes i adael e pan oedd y plant yn hŷn, ond wedi dechre 'to nawr yn y cwpl o flynyddoedd diwetha'."
Erbyn hyn mae Ann yn hyfforddi pobl mewn campfa ym Merthyr, gan gynnwys rhai o'i chyn-ddisgyblion.
"Mae llawer o ferched a bechgyn sy'n dod i'r gym, dwi wedi dysgu, ac maen nhw dal yn galw fi'n Mrs Evans!" meddai.
"Mae grŵp rhedeg bach gyda ni, ac maen nhw'n dod i'r grŵp ac maen nhw'n dweud 'o'n i'n arfer 'neud cross country gyda ti pan o'n i'n fach, pan o'n i yn Santes Tudful!'
"Dwi'n credu, fel maen nhw'n dweud - unwaith yn athro, athro o hyd!
"Dwi'n dwlu gweld y bobl hyn yn dod 'mlaen, dwi'n dwlu gweld nhw'n gwella - gwella'u ffordd o fyw, gwella'u ffitrwydd, gwella iechyd - ac maen nhw jyst yn hapusach pan maen nhw'n 'neud rhywbeth corfforol.
"Maen nhw'n halen y ddaear ym Merthyr. Maen nhw jyst yn grŵp o bobl hyfryd."
'Popeth yn well' ar ôl rhedeg
I Ann, mae rhedeg yn gwneud lles i'r corff a'r meddwl.
"Ni wedi cael dwy flynedd reit heriol. Mae fy ngŵr wedi bod yn sâl, a sylweddolais i, dwi'n defnyddio rhedeg ar gyfer fy iechyd meddwl.
"Pan odd pethe'n ddu iawn, bydde 'ngŵr yn dweud 'rho dy drainers mlaen a cer mas am run', ac wedyn mae popeth yn well."
Yn y dyfodol, yn ogystal â marathon Brighton ar 2 Ebrill, mae Ann hefyd yn bwriadu cymryd rhan mewn marathon ultra dros bum diwrnod yn Kenya ym mis Medi.
"Dwi'n cadw fynd cyn hired a galla i!" meddai.
"Ond yn bendant y gyfrinach dwi'n meddwl yw gwneud gwaith cryfder yn y gampfa.
"Mae'r corff yn 65 mlwydd oed, ac mae'n rhaid helpu'r corff i gadw'n gryf.
"Dwi'n meddwl bo' fi'n gryfach rhedwraig nawr nag o'n i yn yr 80au,
"Ddim cweit mor gyflym, ond mae'n rhaid i fi gofio mod i'n mynd yn hŷn!"
Mwy o recordiau i ddod?
A phwy a ŵyr na ddaw cyfle i dorri mwy o recordiau - gan gynnwys ei record ei hun.
"Stopies i ddwywaith [yng Nghasnewydd] i fynd i'r tŷ bach, so mae 'na o leia' dwy neu dair munud i ffwrdd yn does?
"Ac yn Brighton bydd rhaid i fi edrych ar beth yw record marathon fy oedran i, i weld a allen i ddod yn agos at hwnna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022