'Gweithio, rhedeg, cysgu - dyna fy mywyd i'
- Cyhoeddwyd
![Y rhedwr eithafol Simon Roberts yn rhedeg y Montane Spine Challenger North](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11BD7/production/_123036627_montanecheviotscopyrightsteveashworth-218.jpg)
Y rhedwr eithafol Simon Roberts yn rhedeg y Montane Spine Challenger North
"Wnaeth 'na lot o bobl gamu yn ôl oherwydd y tywydd. Roedd y dechrau yn afiach - eira a rhew ym mhob man a digon o wynt i wneud pobl ddisgyn drosodd."
Dyna eiriau'r rhedwr Simon Roberts o Bontypridd, y Cymro cyntaf i ennill ras eithafol Cefn y Ddraig yng Nghymru, wrth iddo geisio cofio lle'r oedd o ddeuddydd ynghynt mewn ras ar hyd mynyddoedd Lloegr.
Ar ôl torri cefn Cymru ac ennill "ras mynydd anoddaf y byd" yn 2021, sydd â phellter o 380km a 17,400m o ddringo gan dywys rhedwyr ar hyd copaon mynyddoedd y wlad, mae Simon wedi cychwyn blwyddyn newydd o redeg drwy 'dorri cefn Lloegr'.
Fe chwalodd y ras honno hefyd, sef ras gyntaf erioed y Montane Spine Race Challenger North, ym mis Ionawr 2022. Mae'n ras 257Km sydd yn mynd ar hyd un o lwybrau mwyaf heriol a garw Prydain ac mae'n rhaid ei orffen o dan 108 awr.
Gorffennodd y Cymro 4.5 awr o flaen y rhedwr ddaeth yn ail, sy'n dweud y cyfan. Ond be' ydy apêl rhoi eich enaid drwy her meddyliol a chorfforol mor ddifrifol? A be' sydd gan un o redwyr disgleiriaf Cymru o'i flaen?
'Gweithio, rhedeg, cysgu'
I'r rhai ohonoch sy'n yn byw yn ochrau Pontypridd, y Cymoedd a chyffiniau Caerdydd efallai eich bod wedi gweld y rhedwr tal barfog yn bownsio yn hamddenol ar hyd llwybrau a lonydd cyfagos, gan amlaf ar allt serth.
Ers iddo ddechrau rhedeg saith mlynedd yn ôl mae Simon, sy'n gweithio fel dylunydd adeiladu ac yn codi warysau Amazon o ddydd i ddydd, wedi gwneud enw iddo'i hun fel un o redwyr mwyaf talentog, a gwallgof efallai, Prydain.
![Simon Roberts yn gorffen y Montane Spine Challenger North am 4.08yb](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E314/production/_123023185_271720317_4989962214424767_4716639775818188912_n.jpg)
Simon Roberts yn gorffen y Montane Spine Challenger North toc cyn 4yb ym mis Ionawr 2022
"Mae ganddon ni elltydd neis o amgylch fan hyn... Mynydd y Garth, Eglwysilian ac mae'r Bannau Brycheiniog yn agos," meddai Simon, sydd wedi cynrychioli Cymru.
"Ges i mewn i redeg yn hwyrach. Dyddiau yma, unwaith dwi'n gorffen gwaith dwi'n mynd i redeg. Gweithio, rhedeg, cysgu, dyna yw fy mywyd i."
Amodau cythreulig
Mae ras y Montane Spine Challenger wedi ei greu gyda'r union fwriad o fynd a rhedwyr ar lwybr mwyaf agored a garw Prydain. Mae'n dechrau yn Hawes yn Yorkshire Dales ac yn gorffen yn Kirk Yetholm, jest dros y ffin yn Kelso yn Yr Alban, ac mae disgwyl i redwyr redeg 257Km yn ddi-dor drwy eira, gwynt a glaw o fewn pedwar diwrnod a hanner.
"Mae'n un anodd iawn, yn enwedig gyda'r tywydd. Mae'n ddioddefaint llwyr..." meddai Simon, sy'n cael ei noddi gan Montane.
"Mae 'na ddarn o'r ras sydd yn mynd trwy'r Pennine Way - sef un o'r rhannau mwyaf agored ym Mhrydain. Gallai'r gwynt chwythu drosodd person 15 stôn yn rhwydd.
![Y rhedwr eithafol Simon Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/73C0/production/_123023692_cheviot-goat-kit-builder.jpg)
Amodau garw y Montane Spine Challenger North
"Fi'n meddwl bod lot o bobl yn underestimatio'r math yma o ras. Ti wastad yn cael llawer iawn o bobl sydd methu gorffen."
Ond mi orffennodd y Cymro mewn 43 awr, 48 munud a 17 eiliad gan chwalu'r cystadleuwyr eraill yn llwyr.
![Y Cymro, rhif 703, y gwibio o flaen y rhedwyr eraill trwy'r Pennine Way](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E1A3/production/_123036775_fisocpxwqak2pan.png)
Y Cymro, rhif 703, yn ei gwibio hi o flaen ei gystadleuwyr trwy'r Pennine Way
'Bron iawn i mi dynnu mas'
"Roeddwn yn gryf iawn o'r dechrau... ond roedd 'na un pwynt lle nes i ddod i stop, roeddwn yn sâl ac wedi rhedeg alla o egni, a doeddwn i heb weld neb am dros awr. Bron iawn i mi dynnu mas ar y pwynt yna," meddai.
"Gyda'r rasys diddiwedd 'ma, ti sydd yn penderfynu pethau fel pryd ti'n cysgu. Gallet gysgu ar y llwybr neu ar un o'r checkpoints pan ti'n cyrraedd.
"Ges i 'bach o gwsg ar Hadrian's Wall (ar ffin Lloegr a'r Alban), roedd hwnna yn reit neis... wnaeth e gael fi nol mewn i gear chydig bach."
![Simon Roberts](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/355F/production/_123036631_montanecheviotscopyrightsteveashworth-243.jpg)
Mae Simon Roberts wedi ennill llu o rasys mawr yn ddiweddar sy'n cynnwys y Spine Challenger North yn 2022 a Cefn y Ddraig, Y Ras ar Draws Eryri a'r Lakes Sky Ultra yn 2021
'Yr her, dyna yw'r apêl'
Byddai llawer yn gofyn pam ar wyneb y ddaear mae pobl eisiau cymryd rhan mewn rasys o'r fath? Ond mae'n ymddangos bod y byd rhedeg eithafol wedi ffrwydro yn ddiweddar.
Dros y ddeng mlynedd diwethaf mae cynnydd aruthrol o 345% wedi bod mewn rhedwyr eithafol yn fyd-eang tra mae'r nifer o redwyr rasys byr fel 5k wedi gostwng.
Pan mae'n dod i'r rasys, mae'n rhaid iddynt fod yn hirach na marathon ac mae'n gallu newid mewn siâp a'i hyd - o ras chwe diwrnod 251km yn y Sahara, ras 692km yng Nghanada, neu ras 380km Cefn y Ddraig yma yng Nghymru.
"Yr her, dyna ydy'r apêl," yn ôl Simon. "Fi wastad wedi hoffi her. Ti byth yn gwybod be' sydd yn mynd i dy daro di. Dwi'n hoffi herio fy hun a gweld be' gallaf wneud."
![Simon Roberts wedi gorffen yn Kirk Yetholm](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/96E8/production/_123023683_271716420_4989962231091432_2264407462833964950_n.jpg)
Wedi gorffen yn Kirk Yetholm
'Cadw'r tlws yng Nghymru'
Roedd 2021 yn flwyddyn lwyddiannus iawn i'r rhedwr, a gyda dechrau gwych yn barod i 2022 mae'n argoeli'n flwyddyn dda arall.
"Mae ennill wedi rhoi mwy o hyder i mi ar gyfer y flwyddyn i ddod," meddai Simon.
"Mae gen i ras y Montane Cheviot Goat ym mis Mawrth, wedyn dwi'n cymryd rhan mewn ras wyth diwrnod y Cape Wrath, yn yr Alban.
"Ar ôl hynny... Cefn y Ddraig eto, er mwyn amddiffyn a chadw'r tlws yng Nghymru!"
![Enillodd Simon Roberts y ras gydag amser o 45 awr, 42 munud ac 11 eiliad](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1674D/production/_120518919_simonrobertsfirstwelshwinnerofthemontanedragon'sbackrace-copyrightnolimitsphotography.jpg)
Simon Roberts yn ennill ras Cefn y Ddraig yn 2021. Gorffennodd y ras gydag amser o 45 awr, 42 munud ac 11 eiliad gan ddod y Cymro cyntaf i gipio'r dlws