Cadeirydd newydd Betsi yn ansicr a oes modd adfer y 'brand'

  • Cyhoeddwyd
Dyfed Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dyfed Edwards - cyn-arweinydd Cyngor Gwynedd - yw cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae cadeirydd newydd bwrdd iechyd mwyaf Cymru wedi cydnabod bod angen newid diwylliant o fewn y sefydliad.

Yn ei gyfweliad cyntaf gyda'r BBC ers cael ei benodi, dywedodd Dyfed Edwards fod yn rhaid i'r bwrdd gyrraedd "lle da" cyn gallu ystyried ad-drefnu neu ail-frandio.

Yn sgil gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig unwaith eto, fe benodwyd Mr Edwards yn gadeirydd newydd y bwrdd fis diwethaf.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod wedi gweithredu yn sgil "pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant" bwrdd iechyd mwyaf Cymru.

Roedd y penderfyniad yn dilyn adroddiad damniol a ddywedodd nad oedd arweinyddiaeth bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn gweithio'n iawn.

Ers hynny, mae gweinidogion wedi bod dan bwysau i ddiswyddo swyddogion gweithredol.

Dywedodd Mr Edwards fod angen i swyddogion gweithredol "gymryd stoc" o'u lle yn y sefydliad a phenderfynu a yw'n well iddyn nhw ystyried "opsiynau eraill".

Pan ofynnwyd iddo a oedd modd adfer "brand" y bwrdd iechyd, dywedodd Mr Edwards fod hwnnw yn "gwestiwn diddorol".

"Weithiau, mae rhywbeth yn glynu wrth frand ac yna does dim ots beth ydych chi'n ei wneud," meddai.

"Mae wedi torri ac mae angen i chi ailosod. Dydw i ddim yn siŵr am yr ateb i hynny ar hyn o bryd."

'Darparu gwasanaethau yn ddiogel'

Roedd cydnabyddiaeth bod yn rhaid i'r bwrdd wella "mewn nifer o feysydd", meddai, ac y dylai diogelwch fod ar frig ei flaenoriaethau "bob amser".

"Mae'r gweinidog wedi bod yn trafod y cynllun sydd gan y llywodraeth yn bennaf ar gyfer y chwe mis cyntaf," meddai. "Dwi'n y swydd am 12 mis wrth gwrs.

"'Da ni wrthi'n cytuno ar raglen waith ar gyfer y chwe mis yna - fydd yn mynd i'r afael â nifer o faterion sydd efo ni yn y bwrdd ar hyn o bryd.

"'Oedd y sgwrs yn adeiladol iawn, mae'r gweinidog wedi bod yn gefnogol iawn ac wrth sgwrs yn awyddus i ni gyflawni beth sydd angen ei gyflawni."

Ychwanegodd: "Diogelwch sy'n dod ar frig y rhestr bob amser ac mae angen i ni sicrhau sut ydan ni'n darparu gwasanaethau yn ddiogel a bod pobl yn teimlo yn hyderus am hynny.

"Ond mae yna welliannau mae angen ei wneud a thasg y bwrdd dros y misoedd nesaf fydd mynd i'r afael â'r achosion yna."

'Pawb yn teimlo'r siom'

Pan ofynnwyd pam y bu iddo dderbyn y swydd, atebodd: "Oeddwn i yn pendroni. Oedd yna ryw gant a mil o resymau i mi beidio gwneud y swydd.

"O'n i'n mwynhau be oeddwn i'n ei wneud mewn rolau eraill ond des i i'r casgliad fod yna gyfnod mewn hanes lle mae rhywun angen camu fyny.

"Ac fel rhywun sy'n teimlo yn angerddol dros y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf o'n i'n teimlo efallai dyma'r amser i fi ddweud dwi'n barod i ymateb i'r her.

"Dwi'n barod i geisio creu y cyd-destun lle allwn ni sicrhau gwasanaethau iechyd ardderchog ar gyfer pobl y gogledd.

"Dwi'n ddefnyddiwr, mae'n nheulu yn ddefnyddwyr. Mae fy nheulu yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd.

"Dwi'n meddwl fod pawb yn teimlo'r siom yna o weld enw'r bwrdd iechyd dan gwmwl nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf.

"Yn y sefyllfa yna mae angen ymateb i hynny ac mae angen ceisio creu llwyddiant a newid diwylliant o deimlo bod ni ar daith ddiddiwedd at ryw bydew neu rywbeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar ddyfodol aelodau presennol y bwrdd, dywedodd Mr Edwards: "Mae genno ni bythefnos i gael cyfarfod o'r bwrdd, cael agenda a gosod allan ein gwaith a dyna yw'r sefyllfa ar hyn o bryd.

"Y cwestiwn mawr yw a oes modd i greu bwrdd sy'n gynaliadwy i'r dyfodol, nid creu newidiadau dros dro.

"Mi fyddwn ni yn sicr yn ymateb i sefyllfa lle mae angen sicrhau fod gennym ni dîm - lle bynnag yn y sefydliad - sy'n mynd i fod yn rhan o'r daith wrth i ni fynd ymlaen i'r dyfodol.

"Ac mae angen i bobl holi eu hunain a ydyn nhw am fod yn rhan o'r daith yna neu a ydyn nhw'n teimlo ei bod yn amser i fod yn chwilio am gyfleoedd eraill."

Yn gyn-gynghorydd sir dros Blaid Cymru, mae ei blaid wedi dweud droeon y dylid ad-drefnu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn rhannol oherwydd ei fod yn "rhy fawr".

Dywedodd Mr Edwards "nad oedd yn gwybod beth ydy'r ateb ar hyn o bryd" ond fod "modd cael y drafodaeth yna dros y misoedd nesaf".

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i gael y drafodaeth ond os oes yna unrhyw aildrefnu i fod gadewch i ni wneud hynny o sefyllfa o gryfder nid o wendid."