Achos llofruddiaeth: Diffynnydd yn gwadu cicio dynes 71 oed

  • Cyhoeddwyd
Margaret BarnesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Margaret Barnes yn yr oriau mân ddydd Llun, 11 Gorffennaf 2022

Mae dyn o'r Bermo wedi gwadu cicio neu sathru ar fenyw oedrannus oedd wedi camgymryd ei dŷ am westy ar ôl yfed gormod o alcohol.

Mae David Redfern, 46 oed, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth a dynladdiad.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth yn Llys y Goron Caernarfon dywedodd Mr Redfern fod ef a'i bartner wedi canfod Margaret Barnes, 71, yn eu hystafell wely yn eistedd yn eu gwely yn yfed gin a thonic fis Gorffennaf y llynedd.

Wrth gael ei gwestiynu gan yr amddiffynnydd Mark Cotter KC, dywedodd Mr Redfern bod e a'i bartner Nikki Learoyd-Lewis wedi bod allan yn yfed ar 10 Gorffennaf.

Dywedodd ei fod wedi cael chwech neu saith peint a gin a thonic a gwydryn o scotch, cyn i'r ddau ohonynt gwympo i gysgu yn gwylio'r rhaglen yr Antiques Roadshow.

'Dillad wedi gwasgaru'

Wrth fynd i'r gwely, daethant o hyd i ddrws eu hystafell wely wedi'i gloi a bu'n rhaid nôl allwedd sbâr.

Dywedodd iddynt weld Mrs Barnes yn eu gwely, ei dillad "wedi eu gwasgaru o amgylch yr ystafell" a'i dannedd gosod ar y bwrdd drws nesaf i'r gwely.

"Roedd yna ddynes yn gorwedd yn ein gwely, yn yfed ac yn ysmygu.

"Roedd ei châs du ar agor ar y llawr, ei dillad wedi eu gwasgaru o amgylch yr ystafell.

"Rwy'n meddwl mai fy mhartner Nikki siaradodd gyntaf, gan ofyn iddi 'pwy'r uffern ydych chi? A pam wyt ti yn ein hystafell wely ni?'"

Dywedodd fod Mrs Barnes wedi drysu ac iddi fwmian rhywbeth fel "dyma fy ystafell i ac rydw i i fod yma."

"Roedd hi'n ymddangos yn feddw ac ychydig yn ddryslyd."

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mrs Barnes wedi mynd i'r tŷ anghywir ar Rodfa'r Môr, Y Bermo

Clywodd y llys fod yr awyrgylch wedi newid pan ffoniodd David Redfern yr heddlu, ac i'w bartner sylwi fod Margaret Barnes i bob golwg wedi rhoi lludw eu ci marw, Jake, yn ei bag.

"Symudodd Margaret Barnes mewn ffordd ymosodol gan ymestyn ei breichiau tuag at Nikki, felly camais i mewn rhyngddynt, cydio yn ysgwyddau Margaret Barnes a dweud 'iawn, dyna ddigon, mae'n amser i chi gadael ein tŷ ni'".

Dywedodd Mr Redfern iddo ef a Mrs Barnes syrthio i'r llawr ar dop y grisiau, cyn iddo ei llusgo i lawr wrth ei thraed.

"Digwyddodd y cyfan yn gyflym iawn," meddai.

"Roedd hi'n ceisio cicio'r holl amser wrth i mi geisio a'i thynnu lawr, gan ddal gafael ar ganllaw'r grisiau."

'Geiriau cryf'

Yn ôl Mr Redfern ar ôl gadael y tŷ, fe arhosodd Margaret Barnes ar y stryd y tu allan am beth amser,

Yna dywedodd fod ''geiriau cryf wedi cael eu cyfnewid" rhwng y ddau ohonynt.

Honnodd ar ôl methu darganfod ei bag, fod Mrs Barnes wedi symud tuag at Ms Learoyd-Lewis unwaith eto.

"Es i draw i roi fy hun rhyngddynt, ond baglais i ar y ffordd a tharo Mrs Barnes.

"Dwi methu cofio'r gwrthdrawiad yn iawn, ond fe wnes i gysylltu mewn ffordd debyg i dacl pêl-droed gwael."

Mae'r erlyniad yn honni bod David Redfern wedi cicio neu stampio ar Margaret Barnes yn ystod y noson.

Fe wadodd Mr Redfern hynny.

"Fy atgof gorau yw fy mod i wedi taro Mrs Barnes wrth faglu a bod rhan o fy nghoes neu fy mhen-glin wedi dod i gysylltiad â hi."

Dywedodd wrth y rheithgor i Mrs Barnes, symud tuag at Nikki mewn ffordd fygythiol tu mewn, a thu allan i'r tŷ.

'Anafiadau difrifol'

"Fe barhaodd Mrs Barnes i'n cyhuddo ni o ddwyn ei bag, pan oedd hi mewn gwirionedd yn rhoi ein heiddo ni yn ei bag."

Wrth gael ei gwestiynu am gyflwr y bensiynwraig ar y noson, dywedodd Mr Redfern nad oedd wedi sylwi fod gan Mrs Barnes unrhyw anafiadau difrifol.

"Doeddwn i ddim yn ymwybodol ei bod wedi cael unrhyw anafiadau difrifol ar ôl iddi ddisgyn i lawr y grisiau.

"Dwi'n ymddiheuro'n llawn am wawdio Mrs Barnes y noson hynny - am fy sylwadau gwael.

"Os oeddwn i'n gwybod ei bod hi'n ddifrifol wael yn amlwg byddwn wedi ymateb yn wahanol."

Torrodd Margaret Barnes sawl un o'i hasennau a dioddefodd anafiadau difrifol i'w hiau.

Bu farw ar y stryd y tu allan i dŷ David Redfern yn ystod oriau mân 11 Gorffennaf.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig