Undeb prifathrawon yn gwrthod cynnig cyflog newydd

  • Cyhoeddwyd
Menyw'n cerdded i mewn i ystafell ddosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undeb prifathrawon wedi gwrthod cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru yn yr anghydfod dros gyflogau, llwyth gwaith a chyllido, ac fe fydd yn parhau i weithredu'n ddiwydiannol heb fynd ar streic.

Mewn pleidlais ymysg aelodau o'r NAHT, fe wnaeth 54.5% wrthod cynnig o 3% yn ychwanegol eleni a chynnydd o 5% yn y flwyddyn academaidd nesaf, ynghyd â chamau i fynd i'r afael â llwyth gwaith.

Ddydd Iau fe wnaeth aelodau undeb athrawon yr NEU dderbyn y cynnig, gan roi terfyn ar y posibilrwydd o ragor o streiciau ganddyn nhw.

Cafodd pleidlais yr NAHT ei chynnal ar-lein am 10 diwrnod, gan gau am 12:00 ddydd Gwener.

Dywed yr undeb bod trafodaethau helaeth wedi amlygu bod trefniadau cyllido yn dal yn destun pryder mawr i benaethiaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd "trafodaethau gydag undebau ac awdurdodau lleol yn parhau er mwyn cyrraedd datrysiad".

'Diffyg sicrwydd'

Dywed cyfarwyddwr NAHT Cymru, Laura Doel bod diffyg tryloywder yn un o'r ffactorau dros y bleidlais.

"Er gwaethaf sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai cytundebau tâl ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn cael eu hariannu'n llawn, mae'n amlwg nad dyna'r achos yn ôl ein haelodau," meddai.

Yn niffyg tystiolaeth, meddai, bod 22 cyngor sir Cymru'n ariannu'r cytundebau'n llawn, "ni wnaiff ein haelodau eistedd yn ôl a gadael i'w cyllidebau ysgol gael eu chwalu i ariannu'r cynnig yma".

Rhybuddiodd mai'r "unig ffordd y gallai ein haelodau fforddio'r costau heb yr arian sy'n angenrheidiol fyddai diswyddiadau".

Mae'r undeb yn galw am ailddechrau trafodaethau er mwyn datrys yr anghydfod cyn gynted â phosib.

Yn y cyfamser bydd aelodau'n parhau i weithredu'n ddiwydiannol trwy gamau fel delio ag ebyst a galwadau ffôn rhwng 09:00 a 15:00 yn unig, peidio cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar ôl 17:00, ac ymatal rhag cynnal asesiadau perfformiad staff.