Ysgolion o Gymru yn parhau i gael trafferthion yn Dover

  • Cyhoeddwyd
Mae nifer o dripiau o Gymru wedi wynebu oedi gan gynnwys staff a disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o dripiau o Gymru wedi wynebu oedi gan gynnwys staff a disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun

Wedi trafferthion yn Dover ddydd Sadwrn mae Ysgol Gyfun Rhydywaun, yn Hirwaun eto i gyrraedd pen eu taith yn Awstria.

Fore Sul dywedodd un o'r athrawon Bethan Cambourne: "Roedd y gyrwyr wedi rhedeg mas o oriau gyrru felly roedd y cwmni sgïo, wedi trefnu i ni aros mewn gwesty yn Aachen, yr Almaen.

"Felly roedden ni nôl ar yr hewl am 7.30 y bore 'ma. Rydyn tua tair awr a hanner i ffwrdd. Ry'n ni wedi colli diwrnod sgïo heddi.

"Rydyn ni'n gobeithio bwcio diwrnod ychwanegol yn y gwesty a dod nôl ddydd Sadwrn yn hytrach na ddydd Gwener.

"Erbyn i ni gyrraedd byddwn di bod ar yr hewl am 48 awr.

"Ni'n trio meddwl am yr holl bositifs! A mae pawb yn iawn ac yn edrych mlaen."

Yma drwy'r nos?

Mae Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl hefyd yn parhau i gael trafferthion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion a staff Ysgol Gyfun Gwynllyw yn poeni y bydd rhaid iddyn nhw dreulio noson arall yn Dover

Yn gynharach fe gadarnhaodd un o'r athrawon bod y rhai sydd ar y trip wedi bod yn Dover ers 04:00 fore Sul a bod y bwyd yn brin yno - ac mae'n debyg nad oes toes ar ôl yn y siop pizza leol.

"S'dim awgrym o bryd gawn ni fynd drwyddo i brosesu ein pasborts, ac ar ôl hynny, ni angen wedyn mynd ar y bad," medd Gwyn Rosser, un o'r athrawon ar y daith.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gwyn Rosser, un o athrawon Ysgol Gyfun Gwynllyw, ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir

"Mae'n sefyllfa bryderus, ac mae pawb yn poeni nawr y byddwn ni yma drwy'r nos. Does dim llawer o wybodaeth gan yr awdurdodau.

"Mae cannoedd o fysys yn disgwyl i fynd ymlaen a dim ond un neu ddau sy'n gwirio pasborts - mae'n rhaid i basport pawb gael ei stampio.

"Roedd rhaid i ni fod y tu allan i'r services yn Dover am 02:00 ac aros pedair awr cyn dod fan hyn. Ry'n ni wedi bod fan hyn ers 07:00.

"Mae wedi bod yn ddiwrnod hir iawn. Ma'r sefyllfa o ran bwyd, diod a thoiledau ychydig yn bryderus. Mae pawb wedi danto braidd.

"Ro'n i wedi disgwyl bod yn Awstria heno ond ni dal yn y wlad."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Addysg Gorfforol Gwynllyw 🏅

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Addysg Gorfforol Gwynllyw 🏅

'Dim bwyd ers neithiwr'

Ysgol arall sydd wedi wynebu cyfnod o oedi yw Ysgol Glan Clwyd - mae nhw bellach ar y cwch ond roedden nhw wedi bod yn aros ers 20:30 nos Sadwrn.

Dywedodd Mared Vaughan athrawes yn yr ysgol: "Dan ni wedi bod yma ers 20:30 neithiwr ac roedd rhaid i ni aros yn y 'Cruise Terminal' tan tua 2 o'r gloch bore, wedyn oedden nhw'n dweud ar gyfri trydar P&O bod 5 i 6 awr o giwio i fynd i'r port.

"Dan ni wedi bod yno am 13 awr a hanner heb fwyd. Cwbwl gawson ni oedd poteli dŵr. Dydy'r plant ddim wedi bwyta ers neithiwr ac mae hi rŵan yn 15:30.

"Dan ni'n gobeithio cyrraedd y gwesty erbyn bore fory ond mae taith hir o'n blaen i gyrraedd de Ffrainc."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna oedi hir i daith Ysgol Glan Clwyd hefyd ond maen nhw bellach ar y cwch

Yn ôl llefarydd ar ran Porthladd Dover, maen nhw wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau fferi ac asiantaethau ffiniau'r Deyrnas Unedig er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r oedi difrifol wrth i bobl geisio groesi'r sianel.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y sefyllfa nos Wener ym Mhorthladd Dover

Ddydd Sadwrn dywedodd Owen, un o ddisgyblion Ysgol Rhydywaun, wrth Newyddion S4C: "Ry'n ni wedi bod ar y bws 'ma am 24 awr yn barod ond nawr ni wedi cyrraedd Calais a mae dal 14 awr i fynd.

"Dwi byth wedi gweld e fel hyn o'r blaen. Ni'n fed up rili."

Roedd disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw yn poeni y byddent yn colli'r trip yn llwyr yn sgil problem gyda chwmni bysiau.

"Ma'r ysgol wedi trefnu mynd i Awstria ar drip sgïo. Roedden nhw fod i adael am 09:00 bore 'ma, ond o achos y problemau yn Dover, fe wnaeth eu cwmni bysys gwreiddiol ganslo munud olaf," meddai Rhiannon Maguire, pennaeth addysg gorfforol yn Ysgol Gwynllyw ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ofnau y byddai'n rhaid i Ysgol Gyfun Gwynllyw ganslo eu trip sgio eto, medd y pennaeth ymarfer corff Rhiannon Maguire

"Maen nhw wedi llwyddo erbyn hyn i drefnu gyda chwmni arall - ond byddan nhw'n gadael oriau yn hwyrach na'r disgwyl.

"Ry'n ni wedi llwyddo cael bysys i fynd â ni erbyn hyn am 19:00 o'r gloch heno.

"Cawsom ni ddim rheswm gan y cwmni dros pam wnaethon nhw ganslo ond ry'n ni'n tybio mai rhywbeth i wneud â'r problemau yn Dover yw'r rheswm."

'Y trip wedi'i ganslo sawl gwaith'

"Fe gyrhaeddodd pawb am 08:30 fore Sadwrn, ac fe gwympodd wynebau'r plant pan glywson nhw y gallai'r trip gael ei ganslo.

"Ni wedi gorfod canslo'r daith sawl gwaith o achos Covid yn barod felly mae rhai o'r disgyblion wedi bod yn aros tair blynedd i fynd."

Mae 82 o blant rhwng 13 a 15 oed yn mynd ar y daith.

"Ry'n ni'n poeni y byddwn ni'n cael ein dal yn y delays a bod yn styc ar fws ond ni'n obeithiol byddwn ni'n cyrraedd erbyn nos fory (nos Sul).

"Ry'n ni wedi paratoi quizzesar y ddau fws ac mae gennym ni ddigon o DVDs ond gobeithio bydd y plant yn cysgu," ychwanegodd Ms Maguire.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y sefyllfa nos Wener ym Mhorthladd Dover

Fore Sadwrn roedd teithwyr mewn 70 bws yn wynebu oedi o sawl awr ym mhorthladd Dover ac roedd disgwyl i tua 400 yn rhagor o fysiau gyrraedd yn ystod y dydd ar ddechrau gwyliau'r Pasg.

Roedd rhai bysiau wedi methu â chroesi dros nos.

Ymhlith ysgolion eraill o Gymru sydd wedi wynebu oedi mae Ysgol Gyfun Plasmawr, Caerdydd, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn Abertawe, Ysgol Stanwell ym Mhenarth, Ysgol Uwchradd St Joseph yng Nghasnewydd ac Ysgol Uwchradd Radur yng Nghaerdydd.

Mewn neges ar gyfrif trydar Ysgol Plasmawr nodwyd bod y plant wedi cyrraedd Ffrainc am 06:50 fore Sadwrn wedi 12 awr o fod mewn bws.

Roedd yna oedi hefyd i daith Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r oedi wedi creu cryn drafferth i Steve Jones, sy'n berchen ar gwmni bysiau yn Llanrwst

Bu'n rhaid i Steve Jones sy'n berchen ar gwmni bysiau yn Llanrwst anfon rhagor o yrwyr draw i helpu.

"Ro'dd gynnon ni fysiau yn mynd lawr â theithiau sgïo nos Wener ac roedden ni wedi cael ein dal yn ôl am ddeg awr," meddai.

"Mae Dover ar y ffordd allan wedi bod yn broblem i'r gyrwyr ac maen nhw wedi bod yn ciwio drwy'r nos.

"Dan ni wedi gorfod cael rhywun arall i fynd allan atyn nhw i 'neud y darn olaf lawr i'r Eidal.

"Mae hynna wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac yn lot o waith i'r staff sydd gynnon ni yn y swyddfa i ffindio cwmni i fynd allan atyn nhw," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig