Cyn-flaenwr Cymru â 'chyflwr meddygol difrifol'
- Cyhoeddwyd
Mae clwb Preston North End wedi cyhoeddi fod cyn-chwaraewr Cymru, Ched Evans, angen llawdriniaeth ar ôl datblygu "cyflwr meddygol difrifol" o ganlyniad i "gyswllt grymus parhaus" yn ystod ei yrfa.
Yn ôl y clwb mae'r blaenwr 34 oed, sydd wedi sgorio naw gwaith y tymor hwn, yn wynebu "canlyniadau all newid ei fywyd", dolen allanol.
Mewn datganiad, dywedodd Preston eu bod wedi ymgynghori gydag arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r wlad dros yr wythnos ddiwethaf.
"Mae pawb yn obeithiol y bydd Ched yn ôl yn chwarae ac yn sgorio mewn crys PNE yn y dyfodol," meddai'r clwb.
"Yn fwy cyffredin ymhlith chwaraewyr rygbi a phêl-droed Americanaidd, mae'r cyflwr angen llawdriniaeth i fynd i'r afael â'i symptomau presennol ac i atal unrhyw ddifrod pellach rhag digwydd yn y dyfodol."
Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru Evans wedi methu'r ddwy gêm ddiwethaf gydag anaf i'w wddf.
"Mae wedi bod i weld yr arbenigwyr gorau a bydd yn cael llawdriniaeth rhyw adeg yn fuan," meddai datganiad y clwb.
Dywedodd y rheolwr, Ryan Lowe, wrth BBC Radio Lancashire: "Rydyn ni'n mynd i aros i weld sut mae'n gwella.
"Fe wnawn ni'r holl bethau iawn i'w gael yn ôl ar y gwair, ond ei iechyd yw'r peth pwysicaf. Mae wedi cael hyn ers cwpl o flynyddoedd lle mae wedi teimlo effeithiau'r bangs.
"Rwy'n cael lwmp yn fy ngwddf pan rwy'n meddwl am y peth. Mae'n siomedig nad yw'n gallu helpu'r hogiau rhwng nawr a diwedd y tymor.
"Mae'n iawn ac mae'r newyddion yn well na'r hyn yr oedden ni'n ei feddwl, oherwydd bydd yn cael llawdriniaeth ac mae siawns dda y bydd yn gwisgo crys Preston North End eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022