Cadw yn prynu safle un o hen lysoedd tywysogion Gwynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Llys Rhosyr, un o lysoedd brenhinol tywysogion Gwynedd, wedi'i brynu gan Cadw.
Roedd y safle ger Niwbwrch, Ynys Môn, yn llys pwysig yn yr oesoedd canol.
Daeth sylfeini Llys Rhosyr i'r amlwg drwy gloddio archeolegol yn yr 1990au.
Y gred ydy bod yr adeilad wedi'i ddefnyddio er mwyn rheoli'r diriogaeth drwy weinyddu cyfiawnder a chasglu rhenti.
'Safle arwyddocaol'
"Rwy'n hynod o falch ein bod wedi gallu prynu'r safle arwyddocaol hwn yn hanes Cymru," meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon.
Fe gafodd y cyhoeddiad ei wneud yn Llys Llywelyn, yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Mae dau o adeiladau safle Llys Rhosyr wedi eu hail-greu yno, i gynrychioli un o lysoedd Llywelyn ap Iorwerth - Llywelyn Fawr (1173-1240).
Yn ôl yr amgueddfa mae'r rhain yn enghreifftiau diddorol o archaeoleg arbrofol ar waith ac maen nhw o gymorth i gyflwyno pobl i fyd Cymru yn yr oesoedd canol.
"Bydd Cadw nawr yn bwrw ati â'r gwaith er mwyn sicrhau bod y safle yn cael ei warchod yn iawn a bod modd i bawb ymweld ag ef a'i werthfawrogi," medd Ms Bowden.
"Mae ymweld â Llys Llywelyn yn Sain Ffagan wedi rhoi cipolwg hynod o ddiddorol o ran naws a golwg y safle gwreiddiol ym Mׅôn - a pha mor bwysig oedd y safle i hanes Cymru."
Mae Cadw bellach yn gyfrifol am warchod 131 o henebion ond mae pennaeth y corff yn dweud mai dim ond rhan o'r gwaith cadwraeth ydi gofalu am gestyll Edward I.
"Mae Llys Rhosyr yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Cadw i ofalu am y safleoedd arwyddocaol hynny sy'n adrodd hanes pob rhan o hanes Cymru," meddai Gwilym Hughes, pennaeth Cadw.
"Mae eisoes cestyll arwyddocaol yn ein casgliad o henebion a adeiladwyd gan y tywysogion Cymreig annibynnol: Dolbadarn, Dolwyddelan, Cricieth a Chastell y Bere, ond dyma'r safle cyntaf yng ngofal Cadw sydd ddim un ai'n filwrol neu'n grefyddol.
"Mae Llys Rhosyr yn adrodd rhan bwysig iawn o'n hanes ni o ryw wyth neu naw can mlynedd yn ôl," meddai.
Bydd Cadw yn sicrhau bod safle Llys Rhosyr ar agor i'r cyhoedd.
Mae'r corff yn trafod sut i gydweithio gyda Sain Ffagan a Llys Llywelyn a defnyddio technoleg rithwir a realiti estynedig i gyflwyno gwybodaeth ynglŷn â'r safle yn y blynyddoedd i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2014
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018