Eryri: Adolygiad i anhrefn parcio penwythnos y Pasg

  • Cyhoeddwyd
Ceir yn cael eu symud ar yr A5
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bron i 40 o gerbydau eu symud dros benwythnos y Pasg

Mae galwadau i greu gwell profiad ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi trafferthion parcio dros benwythnos y Pasg.

Roedd yna amseroedd aros hir ar gyfer bysiau ac fe achosodd ceir a oedd wedi'u parcio'n anghyfreithlon oedi mawr.

Cafodd bron i 40 cerbyd eu towio gan yr awdurdodau ar Ddydd Gwener y Groglith am iddynt barcio ar linellau melyn dwbl neu greu rhwystr.

Mae cwynion hefyd wedi bod oherwydd ciwiau hir am fysiau sydd fod i redeg bob hanner awr.

Dywedodd swyddog o'r parc cenedlaethol y bydd adolygiad yn cael ei gynnal yn dilyn y digwyddiadau dros y penwythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd criwiau yn towio cerbydau oedd wedi parcio'n 'anghyfrifol a pheryglus' ar rannau o'r A5 ddydd Gwener

Ar ddydd Gwener y Groglith cafodd yr A5 ei chau ar ôl i nifer fawr o geir gael eu parcio'n anghyfreithlon ar y ffordd.

Ddydd Sadwrn dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y byddai cerbydau gyrwyr oedd yn torri'r rheolau yn cael eu symud "ar gost i'w hunain".

Galw am fysiau mwy cyson

Bu rhai ymwelwyr yn cwyno ei fod wedi cymryd hyd at 90 munud iddyn nhw ddod o hyd i fan parcio.

Dywedodd Gemma Davies, sy'n arweinydd mynydd, ei bod hi a'i grŵp wedi penderfynu defnyddio gwasanaeth bws parcio a theithio sy'n rhedeg bob hanner awr, ond eu bod wedi wynebu oedi hir mewn ciw o tua 80 person.

Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd: "Oedd y bysus fod bob hanner awr, ond 'di o'm yn ddigon. Ma' isho nhw bob chwarter awr.

"Oedd 'na tua 80 o bobl yna, a phobl yn flin. Oeddan nhw'n flin efo'r dreifars ac oedd o jest ddim yn neis i weld achos ddim bai nhw 'di o. Oedd y bysys yn llawn."

Ychwanegodd: "Pan oeddan ni ar y bys mae fod i gymryd tua 10 munud i fynd i'r top... oedd 'na bobl 'di parcio yn ganol y ffordd, so oedd o'n rili anodd i bobl fynd fyny ac i lawr.

"Dwi'n gwybod bod 'na ddim llawer o barcio... ond oedd 'na barcio yn Llanberis. Dwi'n gwybod ma'r parcio yn brysur ond dyla pobl ddim parcio ar y ffordd.

"'Da chi'n gw'bod bod chi ddim i fod i barcio yna, ma' 'na waliau yn dy ffordd di. Mae o'n ffordd i loris a bysus.

"So rili dylsa pobl ddim parcio yna ond ma' nhw yn achos dy'n nhw ddim ishio dal y bys o Lanberis."

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd June Jones yn teimlo bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf

Mae tua phedair miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bobl blwyddyn gyda'r cyfnod mwyaf prysur rhwng Ebrill a Med

Dywedodd y cynghorydd June Jones, sy'n cynrychioli ward Glaslyn, bod y sefyllfa wedi "mynd lawer yn waeth dros y saith mlynedd ddiwethaf".

Dywedodd Angela Jones, rheolwr partneriaethau'r parc cenedlaethol bod y ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus "y gorau mae wedi bod blwyddyn yma" ond y byddai swyddogion yn "adolygu'r penwythnos yma" ddydd Mawrth.

Ychwanegodd tra bod Llywodraeth Cymru wedi darparu "buddsoddiad anferth i gael bysiau bob hanner awr" mae angen i ymwelwyr gofio bod yna "opsiynau eraill".

"Mae yna feysydd parcio arall yn yr ardal," dywedodd.

"Os fyddai pobl yn cynllunio ymlaen llaw... am ble maen nhw'n mynd i barcio, pa amser mae'r bysiau'n rhedeg, wedyn rydym yn gobeithio i osgoi'r sefyllfa yn y dyfodol."i.