Rowen: Dynes ar goll ar ôl mynd â'i chi am dro yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
Ausra PlungieneFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Ausra Plungiene i gerdded yn y mynyddoedd yn ardal Dyffryn Conwy ddydd Mawrth

Mae heddlu a thimau achub yn chwilio am ddynes sydd ar goll ar ôl mynd â'i chi am dro yn Eryri ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod Ausra Plungiene, 56, wedi mynd i gerdded y mynyddoedd ger Rowen yn Nyffryn Conwy tua 10:30 ar 11 Ebrill.

Ond fe ddywedodd y llu na wnaeth Ms Plungiene, sydd o ardal Prestatyn yn Sir Ddinbych, ddychwelyd adref.

Daeth swyddogion o hyd i'w char mewn maes parcio yn ardal Rowen yn oriau mân fore Mercher wrth iddyn nhw chwilio "ardal eang" yn Eryri.

Erbyn hyn, mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Thîm Chwilio ac Achub RAF yn rhan o'r ymdrechion i ddod o hyd iddi.

Nos Fercher cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd fod dros 60 o wirfoddolwyr o holl dimau chwilio ac achub y gogledd bellach yn rhan o'r gwaith.

Rhoddwyd y gorau i'r ymgyrch chwilio wrth iddi nosi am 20:00, ond mae disgwyl i'r gwaith ail ddechrau fore Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Car heddlu yn y maes parcio ble daeth swyddogion o hyd i'w char

Fe ddywedodd yr heddlu y gallai Ms Plungiene - sy'n gerddwr profiadol - fod yn gwisgo cot binc neu borffor tywyll, leggings du ac esgidiau glas.

Fe rannon nhw lun un o'i chi hefyd - Swedish lapphund du.

'Hynod bryderus'

Mae'r heddlu wedi apelio am unrhyw wybodaeth gan bobl allai fod wedi gweld Ms Plungiene.

"Ry'n ni'n hynod bryderus am ddiogelwch Ausra," dywedodd yr uwch-arolygydd Owain Llewellyn.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth â'i chi am dro fore Mawrth

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ms Plungiene wedi mynd i gerdded y mynyddoedd ger Rowen yn Nyffryn Conwy

"Fe gafodd sawl adnodd eu dosbarthu dros nos i geisio dod o hyd iddi.

"Fe gafodd ei char ei leoli mewn maes parcio gwledig yn Rowen yn fuan wedi hanner nos felly rydyn ni'n gweithio i sefydlu pa lwybr y gallai fod wedi ei gymryd."

Dywedodd fod y chwilio'n parhau ar y tir ac yn yr awyr.

Ychwanegodd: "Mae 65 aelod o'r timau achub mynydd amrywiol sy'n gwasanaethu gogledd Cymru - gan gynnwys Gwasanaeth Achub Mynydd yr Awyrlu - wedi bod allan ar y bryniau mewn amodau hynod heriol - gwyntoedd 60mya a thymheredd eithriadol o isel.

"Mae cynlluniau ar y gweill i ail-ddechrau gyda'r golau cyntaf bore fory.

"Mae'n sefyllfa gwbl erchyll i'r teulu. Mae gennym ni swyddogion sydd wedi'u hyfforddi gyda nhw, a bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn eu cefnogi ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt."

Oherwydd y tywydd garw ddydd Mercher, fe rybuddiodd na ddylai aelodau o'r cyhoedd fynd i chwilio am Ms Plungiene eu hunain.