'Prinder enfawr' o gymorth personol, medd Anabledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ag anableddau yn cael eu hynysu o gymdeithas oherwydd diffyg cynorthwywyr personol, meddai elusen.
Yn ôl Anabledd Cymru, nid oes gan lawer y cymorth sydd ei angen er mwyn byw mor annibynnol â phosib.
Mae pryder hefyd bod "prinder enfawr" o gynorthwywyr yng nghefn gwlad a hefyd diffyg siaradwyr Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn buddsoddi £70m i sicrhau bod gweithwyr o fewn y sector gofal cymdeithasol yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol o leiaf.
Mae modd cyflogi cynorthwywyr yn breifat gyda chymorth ariannol gan y cyngor.
Maen nhw'n gallu ymwneud â llawer o agweddau o fywyd gan gynnwys gofal personol, hebrwng pobl ar deithiau i siopa, mynd i achlysuron cymdeithasol a gwyliau.
'Gwybod bod Angharad mewn dwylo saff'
Un sydd wedi cyflogi cynorthwy-ydd personol am dros dair blynedd yw Sian Rees-Evans o ardal Bronant ger Tregaron.
Mae gan ei merch Angharad, 14, awtistiaeth ac anawsterau dysgu.
Mae'r cynorthwy-ydd yn treulio 10 awr yr wythnos gyda nhw yn ystod wythnos ysgol a 15 awr yr wythnos adeg gwyliau.
Yn ôl Sian mae cael y cymorth yma'n werthfawr iawn ac yn rhoi'r cyfle iddyn nhw fwrw ymlaen gyda phethau a rhoi profiadau gwahanol i Angharad.
"Mae hi'n cynorthwyo'n y tŷ ac yn mynd ag Angharad mas. Mae'n licio mynd am sbin yn y car, mae'n joio siopa a mynd i gaffis," meddai.
"Ma'n rhoi cyfle i ni rechargio'r batteries - ac am ryw ddwy awr dyn ni ddim yn gorfod becso, ni'n gwybod bod Angharad mewn dwylo saff ac yn cael modd i fyw."
'Dwi hefo hi drwy'r amser'
Mae Marian Owen, sy'n byw yn ardal Dinbych, wedi hysbysebu am gynorthwyydd personol i gefnogi ei merch Siwan, 22 oed.
Y gobaith yw cyflogi rhywun am ddeuddydd yr wythnos i fynd â Siwan sydd ag epilepsi ac anghenion dysgu i wahanol weithgareddau.
"Dwi hefo hi drwy'r amser, fi sy'n mynd â hi i bob man," meddai Marian. "Byddai'n andros o help i ni a hefyd yn dda i Siwan i gael rhywun i fynd i lefydd hebddo ni," ychwanegodd.
Mae cyflogi cynorthwywyr personol yng nghefn gwlad yn gallu bod yn anoddach, meddai Elin Williams o Anabledd Cymru.
Mae'r elusen yn dweud bod cynorthwywyr yn symud i ffwrdd i gael gwaith sy'n golygu bod "prinder enfawr" mewn ardaloedd gwledig a hefyd prinder o siaradwyr Cymraeg.
"'Da ni'n clywed adroddiadau bo cynorthwywyr yn dweud bo nhw'n symud i ffwrdd o'r maes oherwydd safonau gwaith ac hefyd tal isel.
"Ma' hynna hefyd yn golygu bod 'na drosiant felly dydy pobl anabl ddim yn cael y cyfleoedd yna i adeiladu perthynas hefo'u cynorthwywyr a ma' hynny'n cael effaith mawr ar bobl anabl hefyd," meddai.
Recriwtio yn 'heriol'
Elusen yw Dewis sy'n cefnogi pobl i gyflogi cynorthwywyr personol drwy daliadau uniongyrchol.
Mae'n gweithredu yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg ac yn ôl rheolwyr mae'r gyfradd swyddi gweigion yno yr uchaf ers 15 mlynedd.
Mae Dewis yn cefnogi 1670 o bobl anabl sy'n cyflogi tua 3,200 o gynorthwywyr personol ac mae ganddyn nhw 280 o swyddi gwag o hyd.
Yn ôl Levi Price o elusen Dewis, mae recriwtio a chadw staff yn gallu bod yn heriol.
"Mae'n anodd recriwtio pobl heddiw, mae gyda ni llawer mwy o swyddi nag ymgeiswyr.
"Mae'n gallu bod yn anodd i gael cynorthwyydd personol oherwydd mae pobl yn mynd mewn i waith arall, galle nhw fod yn gweithio mewn siop neu retail," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod y "rôl anhygoel" mae cynorthwywyr personol yn ei chwarae wrth gefnogi pobl i fyw'n annibynnol.
"Rydym yn buddsoddi £70m eleni i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynorthwywyr personol, yn parhau i gael y cyflog byw gwirioneddol o leiaf," meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi ymrwymo i wneud y sector gofal cymdeithasol yn fwy deniadol i weithwyr a gwella statws gofal cymdeithasol fel gyrfa werthfawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023