Ausra Plungiene: Y chwilio am ddynes goll yn Eryri yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Ausra PlungieneFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Ausra Plungiene i gerdded yn y mynyddoedd yn ardal Dyffryn Conwy ddydd Mawrth

Mae'r chwilio yn parhau am ddynes sydd wedi bod ar goll yn Eryri ers dydd Mawrth.

Fe ddiflannodd Ausra Plungiene, sy'n 56 oed, ar ôl mynd â'i chi am dro ger Rowen yn Nyffryn Conwy tua 10:30 ar 11 Ebrill.

Mae dros 60 o wirfoddolwyr o holl dimoedd chwilio ac achub gogledd Cymru bellach yn helpu i chwilio.

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i ddau adroddiad fod Ms Plungiene o bosib wedi cael ei gweld.

Roedd yr adroddiadau yn cyfeirio at ardal i'r de o Rowen, y cyntaf am tua 11:30 a'r ail am tua 16:30 ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu hefyd wedi llwyddo i gael mynediad i ap cerdded fu Ms Plungiene yn ei ddefnyddio ac maen nhw'n dweud fod hynny yn "amhrisiadwy".

Daeth y chwilio i ben dros dro am 20:00 nos Fercher, ond mae'r gwaith wedi ailddechrau yn gynnar fore Iau.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru, sy'n cydlynu'r chwilio, fod Ms Plungiene yn gerddwr mynydd profiadol a bod ganddi'r offer cywir ar gyfer yr amodau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd car y credir ei fod yn eiddo i Ausra Plungiene ei ganfod gan yr heddlu ger Rowen ddydd Mercher

Mae'r ardal sy'n cael ei chwilio tua 36km sgwâr, meddai'r heddlu, yn seiliedig ar sawl llwybr posib y gallai Ms Plungiene fod wedi'u cymryd.

Dywed y llu bod llawer o bobl, cŵn chwilio a hofrennydd yn rhan o'r ymdrech ddydd Iau.

Cafodd y tywydd yn yr ardal ei ddisgrifio fel yn "sylweddol well na ddoe", ond rhybuddiodd yr heddlu bod "pethau'n newid yn gyflym yn y mynyddoedd".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Gareth Wyn Jones

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Gareth Wyn Jones

Dywedodd yr uwch-arolygydd Owain Llewellyn o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn bryderus iawn am les Ausra, fel mae ei theulu.

"Mae ymgyrch chwilio mawr yn cynnwys sawl sefydliad wedi bod trwy'r dydd yn y mynyddoedd uwchben Rowen tan wnaethon ni golli'r golau yn y nos.

"Mae 65 aelod o dimoedd achub mynydd amrywiol ar draws gogledd Cymru - gan gynnwys Tîm Achub Mynydd RAF - wedi bod allan ar y bryniau mewn amodau hynod o heriol - gwyntoedd 60mya a thymheredd hynod o isel.

"Mae cynlluniau mewn lle i ailddechrau gyda'r golau cyntaf bore fory.

"Mae'n sefyllfa hollol erchyll i'r teulu. Mae gennym swyddogion arbenigol gyda nhw, yn gwneud yn siŵr ein bod yn eu cefnogi ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt."

Ap cerdded yn 'amhrisiadwy'

Cafodd car Ms Plungiene ei ganfod mewn maes parcio anghysbell ym Mwlch-y-Ddeufaen yn fuan wedi hanner nos ddydd Mercher.

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i ddau adroddiad posib bod rhywun wedi ei gweld hi a'i chi, sy'n Swedish lapphunddu o'r enw Eyora, ym mynyddoedd y Carneddau dydd Mawrth.

Maen nhw'n apelio ar unrhyw un a oedd yn cerdded yn yr ardal gyda chi ddydd Mawrth i gysylltu â nhw, er mwyn gweithio allan ai'r person a welwyd oedd Ms Plungiene, neu rywun arall.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae ci Ms Plungiene yn Swedish lapphund du

Yn ôl yr heddlu mae Ms Plungiene yn aml yn defnyddio ap er mwyn cofnodi ei cherdded, ac maen nhw'n ymchwilio i rai pethau oherwydd hynny.

Ychwanegodd Owain Llewellyn, yr uwch-arolygydd heddlu: "Mae sawl person wedi cysylltu i gynnig gwybodaeth yn ymwneud â defnydd Ausra o'r ap AllTrails.

"Rydym wedi llwyddo i gael mynediad i hwnna a defnyddio'r wybodaeth rydym i gefnogi'r ymgyrch chwilio, ac mae wedi profi'n amhrisiadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd car Ms Plungiene ei ganfod mewn maes parcio anghysbell ym Mwlch-y-Ddeufaen

Roedd Mr Llewellyn hefyd yn awyddus i rybuddio eraill am yr amodau presennol ar y mynydd.

"Mae yna lawer o bryder wedi bod, ac efallai bod pobl wedi ceisio mynd i edrych amdani eu hunain," dywedodd.

"Ond mae'r tywydd yn y mynyddoedd yn ofnadwy, felly fydden i hefyd yn apelio i bobl ein helpu drwy roi unrhyw wybodaeth os ydynt efallai wedi ei gweld a ddim i fynd i'r mynyddoedd i chwilio amdani ei hunain."

Mae swyddogion arbennig yn parhau i gefnogi teulu Ms Plungiene.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gareth Wyn Jones bod y tywydd dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn ofnadwy

Mae teulu Gareth Wyn Jones wedi ffermio rhan o'r Carneddau ger Llanfairfechan ers canrifoedd, ac mae wedi hen arfer ag amodau heriol yr ardal ar adegau.

Dywedodd fod y tywydd dros y dyddiau diwethaf wedi bod yn "ofnadwy".

"Bora ddoe [Mercher] mi es i fyny, a hanner ffordd fyny dyma 'na eira mwya ofnadwy - chwarter awr 20 munud o gawod.

"Roedd yr eira wedi rhewi ar fy nghôt, roedd hi mor oer. Dwi wedi hen arfer ar y mynyddoedd ond roedd rhaid i mi fynd i chwilio am gysgod.

"Mae hi'n oerach wedyn yn uwch i fyny ac mae'n anodd iawn cadw'n gynnes."