Canfod gwartheg gafodd eu dwyn o Fôn ar fferm yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
gwartheg du o Ynys MonFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladrata, ar ôl i 14 o wartheg gafodd eu dwyn o fferm yng Nghymru gael eu canfod yng nghanolbarth Lloegr.

Cafwyd adroddiad ym mis Rhagfyr y llynedd bod y gwartheg wedi cael eu dwyn o fferm ger Llannerch-y-medd ar Ynys Môn.

Fe gafon nhw eu darganfod ddydd Mercher, dros bedwar mis yn ddiweddarach, yn Stoke-on-Trent wedi i dîm troseddau gwledig Heddlu'r Gogledd archwilio dwy fferm.

Roedd gwerth y gyr o wartheg tua £20,000, meddai'r heddlu.

"Mae swyddogion nawr wedi dod o hyd a chymryd yr holl wartheg sy'n cael eu hamau o gael eu dwyn," meddai'r llu mewn fideo ar Twitter.

Ychwanegodd swyddogion eu bod hefyd wedi dod o hyd i dractor John Deere gafodd ei ddwyn o fferm yn Sir Stafford y llynedd.