Agor cwest i farwolaeth Emma Morris ar ffordd osgoi'r Felinheli

  • Cyhoeddwyd
Emma Louise MorrisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emma Morris ei disgrifio gan ei theulu fel "merch brydferth"

Mae angen ymchwiliadau pellach i farwolaeth dynes 28 oed fu farw ar ffordd osgoi'r Felinheli ddechrau'r mis.

Bu farw Emma Louise Morris o Bwllheli mewn gwrthdrawiad car tra'n teithio ar ffordd yr A487 toc wedi 19:00 ar 3 Ebrill.

Cafodd y cwest i'w marwolaeth ei agor a'i ohirio fore Gwener.

Fe gafodd plentyn pedair oed ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau allai beryglu ei fywyd, ble mae'n parhau.

Cafodd dynes arall ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol, ac mae hi'n parhau yn yr ysbyty hefyd.

Wedi'r digwyddiad cafodd dau berson arall hefyd eu cludo i Ysbyty Gwynedd, ond maen nhw bellach wedi'u rhyddhau.

Fe gafodd Emma Morris ei disgrifio gan ei theulu fel "merch brydferth" gafodd ei chymryd oddi wrthyn "yn greulon".

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn cynnal ymchwiliad, ond nad oes unrhyw un wedi'i arestio hyd yma.

Pynciau cysylltiedig