Honiadau fod cwmni cartrefi gofal wedi 'bwlio' staff
- Cyhoeddwyd
Mae honiadau fod cwmni sy'n rhedeg cartrefi gofal ym Mhowys wedi "bwlio" staff, gan eu gorfodi i dderbyn telerau ac amodau newydd neu wynebu colli eu swyddi.
Mae undeb gweithwyr Unsain yn dweud fod y newidiadau sy'n cael gwneud gan Shaw Healthcare yn rhai "Dickensaidd" a'u bod wedi effeithio ar rai o'r gweithwyr gyda'r cyflogau isaf.
Mae'r cwmni'n mynnu bod y mwyafrif o staff wedi derbyn y termau newydd, ac maent yn eu disgrifio fel "gwelliannau" a oedd yn "hanfodol" er mwyn sicrhau bod eu cytundeb gyda Chyngor Powys yn parhau i fod yn "hyfyw".
Ond dywedodd un gweithiwr wrth BBC Cymru bod ganddi "ddim dewis" ond derbyn y newidiadau, neu wynebu colli ei swydd.
Fe wnaeth Shaw Healthcare dderbyn cytundeb i redeg 12 cartref gofal ym Mhowys yn 2019, wedi i'r perchennog blaenorol, Bupa, gael eu bygwth â chamau cyfreithiol ar ôl cyhoeddi eu bwriad i'w gwerthu i gwmni arall.
'Arwyddo neu golli eich swydd'
Mae un aelod o staff wedi siarad gyda BBC Cymru, ond mae hi wedi penderfynu aros yn ddienw.
Dywedodd: "Yr opsiynau oedd arwyddo neu golli eich swydd... Dwi angen fy swydd.
"Mae'n rhaid i mi allu cadw to uwch fy mhen, bwyd ar y bwrdd. Does gen i ddim dewis."
Mae hi wedi derbyn y telerau newydd, ond yn dweud fod y newidiadau yn cael effaith ar ei thâl.
"Ry'n ni'n cael ein talu £10.90 yr awr ar hyn o bryd, sef y cyflog byw cenedlaethol," dywedodd.
"Os ydyn ni'n gweithio shifft saith awr, mae hynny nawr yn shifft saith awr a hanner ac mae'n rhaid cael saib, sy'n ddi-dâl, ac os nad wyt ti'n cael y saib yna rwyt ti mewn effaith yn gweithio am tua £10.70 yr awr, sy'n eich cymryd o dan y cyflog byw cenedlaethol.
"Am £10.90 gallen i fynd ac eistedd ar y til yn Morrisons neu Tesco, heb y cyfrifoldeb am fywydau pobl eraill yn fy nwylo."
Ychwanegodd: "Maen nhw'n rhedeg busnes... Maen nhw hefyd yn edrych ar ôl defnyddwyr eu gwasanaeth, a dylen nhw fod yn edrych ar ôl y staff oherwydd dyw hi ddim yn bosib rhedeg busnes os nad oes gennych chi'r staff i'w rhedeg i chi."
Er iddi dderbyn y telerau newydd, mae hi nawr yn edrych am swydd arall.
"Dwi'n caru fy swydd, dwi'n caru'r preswylwyr, ac mae'r bobl dwi'n gweithio gydag yn hollol ffantastig, ond dyna'r unig bethau sy'n fy nghadw i yna ar hyn o bryd," meddai.
'99% wedi cytuno i'r newidiadau'
Bydd y newidiadau a gyflwynwyd gan Shaw Healthcare yn golygu bod staff nawr yn cael egwyl cinio di-dâl, ac yn gorfod dechrau talu am brydau poeth o'r ffreutur.
Yn lle saib cinio gyda thâl, bydd staff nawr yn derbyn cyflog am ddau gyfnod trosglwyddo ychwanegol o 15 munud yr un ar ddechrau a diwedd bob shifft.
Dywedodd Abigail Katsande, cyfarwyddwr gweithredol rhanbarthol Shaw Healthcare: "Rydym wedi bod yn ymgynghori am y tri mis diwethaf ynghylch newidiadau a fyddai'n gosod lles preswylwyr Powys gyda gweddill preswylwyr Shaw, a'r arfer gofal gorau yn y DU.
"Yn flaenorol, roedd gweithwyr yn cael eu talu am seibiau cinio, ond ddim wrth iddynt drosglwyddo gofal preswylwyr am 15 munud ar bob ochr i'w shifftiau dyddiol.
"Mae ein cynigion - rhai y mae 99% o ofalwyr wedi cytuno iddyn nhw - yn cyflwyno'r arfer yma fel cytundebol yn hytrach nag opsiynol."
O dan y cynllun newydd bydd staff yn dechrau 15 munud yn gynharach er mwyn derbyn diweddariad am ofal y preswylwyr gan dîm y shifft flaenorol, ac mi fyddant nawr yn cael eu talu am y cyfnod yma.
Byddan nhw hefyd yn cael eu talu am 15 munud ychwanegol ar ddiwedd y dydd er mwyn rhannu gwybodaeth gyda'r shifft nesaf.
Dywedodd y cwmni bod hwn yn arfer cyffredin yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a'i fod yn cael ei ystyried fel yr arfer gorau o ran darparu gofal.
Mae'r cwmni hefyd yn dweud bod staff yn cael cymhorthdal i brynu prydau poeth, sy'n golygu eu bod nhw'n talu "swm bach bob pryd", sydd yn rhatach na phrydau mewn ffreutur y GIG.
Mae'r cwmni hefyd dweud eu bod yn talu'r cyflog byw gwirioneddol i staff, sydd 48c yr awr yn fwy na'r cyflog byw cenedlaethol.
Maen nhw'n dweud hefyd eu bod wedi talu £1,250 o fonws di-dreth i bob gweithiwr llawn amser.
Dywedodd y cwmni bod y newidiadau yn sicrhau bod eu contract gyda Chyngor Powys yn parhau yn hyfyw.
'Tactegau bwlio'
Mae Unsain wedi ysgrifennu at Gyngor Powys am yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel "tactegau bwlio", gyda'i haelodau wedi eu gorfodi i dderbyn y newidiadau i'w cytundebau neu wynebu colli eu swyddi.
Mae Cyngor Powys wedi derbyn y llythyr ac wedi dweud y bydd yn ateb maes o law.
Mae'r undeb hefyd wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, gan ddweud fod y broses comisiynu gofal wedi methu a bod yr angen i gynhyrchu elw yn rhwystr i wasanaethau gofal gwell yng Nghymru.
Dywedodd Dominic MacAskill, ysgrifennydd rhanbarthol Unsain Cymru: "Os oedden nhw eisiau gwerthfawrogi'r gweithlu gofal cymdeithasol, sef eu prif adnodd, gallan nhw ychwanegu oriau, oriau wedi'u talu, er mwyn gwneud trosglwyddiadau effeithiol a gwneud eu darpariaeth yn fwy effeithiol.
"Mi allan nhw wneud hynny heb gymryd i ffwrdd y buddion sy'n gwneud gweithio i'r cwmni yna ychydig yn fwy deniadol.
"Mae'r rhain yn weithwyr ar gyflog isel sydd â thelerau ac amodau gwael, ac nid eu lleihau yw'r ffordd ymlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022