Cyngor Wrecsam yn cefnogi cynllun cyllid i ailddatblygu'r Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Y Cae Ras
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 'Kop' bellach wedi ei ddymchwel gan adael y Cae Ras yn stadiwm tair ochr yn unig

Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi dangos cefnogaeth unfrydol i gynllun ariannu ail-ddatblygu eisteddle'r 'Kop' ar y Cae Ras.

Mewn cyfarfod brynhawn Mawrth fe gytunodd Bwrdd Gweithredol y cyngor i neilltuo grant o £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru at fudd y stadiwm.

Y gobaith yw gall eisteddle newydd ddenu gemau rhyngwladol yn ôl i'r gogledd ac ateb gofynion UEFA, gyda bwriad o adeiladu eisteddle newydd ar gyfer 5,000 o gefnogwyr.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, y byddai gweddill yr arian ar gyfer y cynllun yn deillio o bartneriaeth rhwng y clwb pêl-droed, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae cynlluniau i wella'r orsaf reilffordd gyffredinol a seilwaith trafnidiaeth ger y stadiwm hefyd yn rhan o brosiect Porth Wrecsam, a ddechreuodd ar ôl i'r cyngor fethu â sicrhau cyllid Cronfa Ffyniant Bro (Levelling Up Fund) gan Lywodraeth y DU.

'Er budd Wrecsam a gogledd Cymru'

Bwriad Porth Wrecsam yw adfywio safleoedd allweddol ac isadeiledd trafnidiaeth o gwmpas Ffordd Yr Wyddgrug, sef coridor allweddol i mewn i'r ddinas.

Mae'n cynnwys gwelliannau i gysylltedd teithio rheilffordd, bws a cheir, gwesty a chyfleusterau cynhadledd newydd, gofod swyddfa a gwelliannau i stadiwm y Cae Ras.

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Mark Pritchard: "Mae popeth yn syrthio i'w le"

Bydd penderfyniad y cyngor yn golygu fod y grant o £25m gan Lywodraeth Cymru yn cael ei arallgyfeirio tuag at elfen Cae Ras y cynllun.

Bydd y Cyngor nawr yn ymgeisio am arian allanol ac yn gwarantu isafswm o £8m ar gyfer gweddill y cynllun.

"Mae hon yn wir bartneriaeth, yn cydweithio er budd Wrecsam a gogledd Cymru," meddai'r cynghorydd Pritchard yn dilyn y cyfarfod.

"Dwi wrth fy modd, mae wedi bod yn siwrne faith ac mae perchnogion y clwb pêl-droed wedi bod yn wych.

"Mae popeth yn syrthio i'w le.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gaeodd y 'Kop' yn 2008 cyn cael ei ddymchwel ddechrau'r flwyddyn hon

"Mae wedi bod yn drist gweld y Kop yn wag... ond nawr mae'r clwb ar i fyny."

Doedd teras y Kop ar y Cae Ras ddim wedi bod yn cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd, a bellach mae wedi cael ei ddymchwel i wneud lle i'r datblygiad newydd.

Daw hynny wrth i'r clwb frwydro am ddyrchafiad ar y cae yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed, 15 mlynedd wedi iddyn nhw ddisgyn allan ohoni.

Mae'r tîm angen ennill dwy o'u tair gêm olaf i sicrhau eu bod nhw'n gorffen ar frig y Gynghrair Genedlaethol - pumed haen pyramid pêl-droed Lloegr.

Gyda'r ddwy nesaf gartref yn erbyn Yeovil nos Fawrth, a Boreham Wood ddydd Sadwrn, fe allai'r dyrchafiad gael ei sicrhau ar y Cae Ras cyn iddyn nhw ymweld â Torquay ar ddiwrnod olaf y tymor.