Blwyddyn lawn drama i Wrecsam - ar ac oddi ar y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds, Charles III, Y Frenhines Gydweddog Camilla a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y Brenin a'r Frenhines Gydweddog gyda pherchnogion enwog CPD Wrecsam ar y Cae Ras ar ymweliad i nodi rhoi statws dinas i gyn dref fwya'r gogledd

Doedd dim diweddglo taclus a pherffaith i flwyddyn Wrecsam - efallai mai nid fel 'na mae pethau'n gweithio yma.

Tudalen o nofel gyffrous, llawn troeon trwstan oedd 2022, efo digon o ddrama i wneud i'ch galon guro'n gyflym dros ben.

Ar y cae, fe fethodd y clwb pêl-droed - o drwch blewyn - â sicrhau dyrchafiad.

Ac er i Sir Wrecsam gyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU 2025, i Bradford aeth y fuddugoliaeth honno.

Ond i nifer, dyma'r flwyddyn pan wnaeth y dref hon - sydd bellach yn ddinas - ddechrau "deffro".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin yn sgorio yn erbyn Grimsby ym mis Mai - ond y gwrthwynebwyr wnaeth sicrhau dyrchafiad i Adran Dau

Dechreuwn efo'r pêl-droed, achos mae bron popeth yn Wrecsam yn dechrau efo'r pêl-droed.

Tymor 2021-22 oedd ymgyrch lawn gyntaf y clwb ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney gymryd yr awenau, ac yn yr hydref roedd llygaid y byd at y tîm, wedi llwyddiant y gyfres ddogfen 'Welcome to Wrexham'.

I nifer, presenoldeb yr actorion o Hollywood sydd wedi sbarduno'r holl welliannau eraill yn yr ardal.

Dim ots os ydy'n gwbl wir - teimlad ydy o, sydd i'w weld yn gyffredin yn yr hen dref farchnad hon.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan a Poppy'n falch o'r holl sylw i Wrecsam wedi i'r actorion Hollywood brynu'r clwb pêl-droed

"Yn fy marn i, mae o i gyd wedi dod o'r sylw i'r clwb pêl-droed," meddai Iwan, myfyriwr yn chweched dosbarth Ysgol Morgan Llwyd.

Newydd ddod adref o wylio Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar oedd Iwan, ac yn y Dwyrain Canol fe ddaeth ar draws pobl o bob cwr oedd yn 'nabod enw Wrecsam.

"Yr unig beth oedd pobl eisiau gwybod am oedd Ryan Reynolds a Rob McElhenney, mwy na'r pêl-droed," meddai dan chwerthin.

Dywedodd ei gyd-fyfyriwr, Poppy, bod hon wedi bod yn flwyddyn "od iawn" oherwydd yr holl sylw gafodd yr ardal.

"Mae o dros y newyddion, dros y byd," meddai. "Dwi'n meddwl bod Rob a Ryan wedi gwneud lot o waith i hybu'r Gymraeg, sy'n beth da."

Disgrifiad o’r llun,

Adam Phillips (sy'n cyffwrdd yn y drwm) gyda rhai o aelodau eraill Band Cambria

Twrw cyfarwydd ar achlysuron mawr yn y Cae Ras ydy drymiau a ffliwtiau Band Cambria, sy'n gorymdeithio i gyfeiliant caneuon gwladgarol.

Mae eu harweinydd, Adam Phillips, yn cefnogi'r clwb a rhai blynyddoedd yn ôl, aeth â'i ferch newydd-anedig i eistedd ar derasau'r stadiwm hanesyddol. Chwe awr oed oedd y fechan.

"Dwi'n falch bod y dref yn cael sylw, a'r clwb hefyd," meddai Adam.

Mae ei fab 14 oed, Sam, hefyd yn cefnogi'r cochion ac wedi bod yn dysgu sut mae sylwebu ym mocs y wasg yn y stadiwm.

"Mae'r hogiau i gyd yn siarad am Wrecsam rŵan, a fase hynna fyth wedi digwydd o'r blaen," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Adam Phillips a Sam

Ym marn Lindsey Garner - mam Sam a phartner Adam - mae pobl "wastad wedi bod yn falch o Wrecsam" ond maen nhw'n mynegi hynny mewn ffordd wahanol y dyddiau yma.

"Mae 'na deimlad fod pawb yn gwybod rŵan pa mor dda ydyn ni - dyna'r teimlad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wrecsam wedi cael tymor addawol hyd yn hyn ac yn agos at frig y Gynghrair Genedlaethol

Colled i Grimsby yn rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar 28 Mai - mewn gornest anhygoel â sgôr terfynol o 4-5 - ddaeth â thymor clwb Wrecsam i ben.

Dridiau yn ddiweddarach, daeth hoelion wyth celfyddydol yr ardal at ei gilydd i wylio cyhoeddiad Dinas Diwylliant y DU 2025.

Unwaith eto, methodd Wrecsam â chipio'r wobr eithaf, a Bradford aeth â hi. Ond roedd cyrraedd y rhestr fer wedi esgor ar lwyth o weithgarwch diwylliannol.

Mae Siôn Edwards yn gweithio yn Y Fenter, canolfan integreiddiedig i blant ym Mharc Caia.

Mae talp o'r faestref yma yn ardal o "amddifadedd hirsefydlog", yn ôl ymchwil Llywodraeth Cymru, dolen allanol.

Disgrifiad o’r llun,

Arwydd cynllun Chwarae Geiriau

Ochr yn ochr ag artistiaid lleol, aeth Y Fenter ati i lwyfannu prosiect o'r enw Chwarae Geiriau, oedd yn cyfuno cyfleon i blant chwarae a gweithgarwch celf - a hynny oll ar ddarn o dir diffaith ar safle hen Theatr yr Hippodrome.

"Dwi ddim yn meddwl y bydden ni wedi ceisio cynnal y fath ddigwyddiad heb gefnogaeth y cyngor, ac mi wnaethon nhw fuddsoddi tipyn yn y Ddinas Diwylliant fel ei bod ni'n gallu talu am staff ychwanegol ac arbenigedd ble roedd angen," meddai Siôn.

'Y lle mor fywiog'

Roedd llawer o'r digwyddiadau oedd rhan o'r cais yn digwydd yn Nhŷ Pawb, y ganolfan celf a marchnadoedd a gafodd ei henwebu ei hun ar gyfer gwobr Amgueddfa'r Flwddyn Art Fund.

"Mae 'di bod yn exciting gweld y lle mor fywiog yn ystod y flwyddyn, mewn ffyrdd gwahanol, really," meddai Siwan Jones, sy'n rhedeg siop Gymraeg yn yr adeilad.

Un uchafbwynt iddi hi oedd croesawu cannoedd o gefnogwyr pêl-droed Dŷ Pawb i wylio Cymru yng Nghwpan y Byd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn llaw cyffro, medd Siwan Jones

Rownd y gornel o Siop Siwan mae stondin fwyd Phil Jones, sydd wrthi'n llenwi pastai yn ofalus â llwy.

"Mae'r galw'n uchel ar gyfer y peis 'ma, yn enwedig y steak and ale - dwi'n gwerthu allan bob dydd," meddai.

Yn ei farn o, daeth digwyddiadau Dinas Diwylliant â Wrecsam at ei gilydd.

"Blynyddoedd maith yn ôl, roedd Wrecsam yn dref farchnad go iawn.

"Tan yn ddiweddar iawn dydy hi ddim wedi dod at ei hun, ond rŵan mae'r dref yn dod yn ôl. Dwi 'di gwirioni."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Wrecsam yn ffeindio'r ffordd unwaith yn rhagor, medd Phil Jones

Mae llawer yn hoff o alw Wrecsam yn dref - ond eleni llwyddodd y cyngor lleol yn eu cais i'w gwneud yn ddinas yn swyddogol.

Fe gafodd y teitl fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, a hynny wedi tri ymgais aflwyddiannus blaenorol.

Roedd gwahaniaeth barn ynghylch y cais, gyda protestwyr yn ymgynnull i wrthwynebu bwriad yr awdurdod lleol.

"Dydy'r statws dinas yn golygu dim byd i fi, tref oedd Wrecsam a thref fydd hi," meddai Adam Phillips yn noson ymarfer Band Cambria.

Mae o'n credu mai datblygwyr eiddo fydd yn elwa o'r dynodiad newydd.

Blwyddyn 'drawsnewidiol'

Ond mae eraill, fel Siôn Edwards yn Y Fenter, yn anghytuno ac yn credu bod dod yn ddinas yn "gadael i bobl Wrecsam fod yn uchelgeisiol".

"Dwi'n meddwl ei fod o'n drawsnewidiol ac y byddwn ni'n edrych ar 2022 fel y flwyddyn pan wnaeth draig y ddinas yma ddechrau deffro," meddai.

Beth am y statws dinas arall - Dinas Diwylliant y DU? Wel, mae Wrecsam yn bwriadu cyflwyno cais arall yn 2029.

Ac ar wellt sanctaidd y Cae Ras, yr un nod ag y llynedd sydd gan y chwaraewyr, sef cael dyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr.

Efallai mai 2023 fydd y flwyddyn, ond byddwch yn barod am 'chydig o ddrama ar y ffordd.

Pynciau cysylltiedig