Cosbi cynghorydd Gwynedd am ateb llythyr Cymraeg yn Almaeneg

  • Cyhoeddwyd
Louise Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Louise Hughes wedi ymddiheuro am ateb yr e-byst mewn Almaeneg

Mae cynghorydd o Wynedd wedi cael ei gwahardd o'i dyletswyddau am fis am dorri cod ymddygiad y cyngor sir, ar ôl iddi ateb e-byst Cymraeg gan aelod o'r cyhoedd yn Almaeneg.

Roedd y cynghorydd Louise Hughes, sy'n cynrychioli ward Arthog a Llangelynnin, yn ateb e-byst gan Mr Howard Huws sy'n aelod o fudiad Cylch yr Iaith.

Disgrifiodd Mr Huws y weithred fel un "sarhaus".

Ond roedd Ms Hughes wedi ymddiheuro am wneud, gan fynnu nad oedd "dim byd sinistr" am ei phenderfyniad i ymateb yn Almaeneg.

'Ymddygiad sarcastig'

Roedd y gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Hughes yn deillio o ddau e-bost a anfonwyd yn ôl ym mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022.

Yn y ddau achos, anfonodd Mr Huws e-bost yn Gymraeg at holl aelodau Cyngor Gwynedd, gan dderbyn ateb yn Almaeneg gan y cynghorydd Hughes.

Disgrifiodd Mr Huws yr ymateb fel "ymddygiad sarcastig a sarhaus, nid yn unig tuag ataf i, ond tuag at Gyngor Gwynedd a'r Gymraeg hefyd".

Gwnaeth Mr Huws gŵyn swyddogol.

"Mater busnes swyddogol oedd hwn, ac roeddwn yn disgwyl i'r person ymateb ac ymddwyn fel sy'n briodol i rywun sy'n aelod o gorff cyhoeddus," meddai.

"Ac wrth gwrs, mae ei hymddygiad felly yn siom fawr i mi, yn enwedig yn yr oes hon."

Disgrifiodd Katrin Shaw, ar ran yr Ombwdsmon, ymddygiad y cynghorydd Hughes fel un oedd yn "amharchus tuag at Mr Huws, ei hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig a hefyd yr iaith Gymraeg ei hun".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Howard Huws roedd ymddygiad y cynghorydd yn 'siom fawr i mi, yn enwedig yn yr oes hon'.

Yn ei hymateb cychwynnol i gwestiynu gan yr Ombwdsmon, disgrifiodd y cynghorydd Hughes ei gweithredoedd fel "ymgais i ddangos yr anhawster a achoswyd pan dwi'n derbyn e-bost nad ydw i'n gallu ei ddeall yn llawn".

"Doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn sarhaus mewn unrhyw ffordd. Rwy'n aml yn defnyddio hiwmor mewn sefyllfaoedd a allai fod yn lletchwith," meddai.

'Ymddiheuraf yn llwyr'

Ychwanegodd nad oedd "dim byd sinistr" am ei phenderfyniad i ymateb yn Almaeneg.

"Roedd yn gamgymeriad a dwi'n difaru gwneud, ac yn edifar am unrhyw dramgwydd a achoswyd," meddai.

"Rwy'n difaru'n fawr anfon yr hyn oedd yn ymateb plentynnaidd a diangen at Mr Huws.

"Ymddiheuraf yn llwyr, dydw i ddim yn gynhennus o'r Gymraeg o gwbl, dwi'n siarad Cymraeg ac yn deall yr iaith i raddau.

"O waelod fy nghalon mae'n ddrwg gennyf, Mr Huws, ac nid fy mwriad oedd eich tramgwyddo."

Ychwanegodd: "Mae'r broses hon wedi bod yn un anodd gan roi llawer iawn o straen arna i. Ond, ysgrifennais yr e-byst ac rwy'n barod iawn i gymryd pa bynnag gosb sy'n addas yn eich barn chi."

Penderfynodd pwyllgor safonau y sir fod y cynghorydd Hughes wedi torri tair adran o'r cod ymddygiad.

Dywed y cod ymddygiad fod angen i gynghorwyr:

  • gyflawni eu dyletswyddau a chyfrifoldebau gan roi sylw dyladwy i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo'u rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd;

  • dangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt;

  • peidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried yn un sy'n dwyn anfri ar eich swydd neu ar yr awdurdod.

Yn dilyn y dyfarniad, pan ofynnwyd a oedd yn deall dywedodd y cynghorydd Hughes: "Ydw, dwi'n deall.

"Nid wyf yn hapus yn ei gylch, hoffwn ddweud bod yr holl broses hon wedi bod yn ddirdynnol.

"Nid wyf wedi cael unrhyw gefnogaeth gan y cyngor o gwbl."

Pynciau cysylltiedig