Paris, Vienna a Segovia: Gwreiddiau Celtaidd enwau lleoedd y cyfandir
- Cyhoeddwyd
"Ydi Paris, Lyons, Vienna a Segovia yn enwau Cymraeg? Wel ddim yn hollol, ond gadewch imi egluro..."
Dr Guto Rhys, awdur ag arbenigedd mewn ieithyddiaeth Geltaidd a gweinydd grŵp Iaith ar gyfryngau cymdeithasol, sy'n trafod cysylltiad y Gymraeg gydag enwau rhai o ddinasoedd adnabyddus Ewrop.
Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl roedd ieithoedd a thafodieithoedd Celteg yn cael eu siarad o Ankara yn Nhwrci i Lisbon ym Mhortiwgal, ac o Milan yn yr Eidal i'r Alban. Ac mae cannoedd os nad miloedd o enwau lleoedd o'r cyfnod hwnnw wedi parhau hyd heddiw.
Ac rydych chi'n gyfarwydd â llawer iawn ohonynt; mae modd o hyd i weld y tebygrwydd â geiriau Cymraeg cyffredin.
Mae pob iaith yn newid dros amser, ac felly roedd yr iaith hen Gelteg a gâi ei siarad yn wahanol iawn i'n hiaith ni heddiw. Rydyn ni'n gwybod am filoedd o enwau Celtaidd yn yr ardal fawr hon ond cafodd llawer eu disodli gan enwau eraill dros y canrifoedd. Dyma gip ar rai sydd wedi para hyd heddiw.
Paris
Cychwynnwn â phrifddinas Ffrainc. Mae awduron clasurol fel Iŵl Cesar yn nodi enw'r llwyth lleol fel Parisi. Mae tri chynnig am y tarddiad:
Un yw ei fod yn perthyn i'n gair 'pair' ni. Hynny yw 'pobl y pair' oedd yma, ond nid yw'n hollol sicr pam y byddai llwyth yn dwyn y fath enw.
Cynnig arall yw ei fod yn perthyn i'r hen air Cymraeg pâr sy'n golygu 'gwaywffon'.
Y cynnig olaf yw perthynas â'r gair 'peri' sef 'gwneud, achosi'. Cofiwch mai'r bôn yw par-. Efallai mai'r ystyr yma fyddai y bobl rymus sy'n peri pethau, neu yn llai dramatig 'rheolwyr'. Rhydd i bawb ei farn.
Bregenz a Brianccon
Ydych chi'n gyfarwydd ag Afon Braint ym Môn? Y gair 'braint' ei hun sydd yma a'i ystyr yw rhywbeth fel 'dyrchafedig, breintiedig'. Daw braint o'r ffurf Geltaidd Brigantia.
Os meddyliwch am dreigladau'r Gymraeg (a'r sain 'g' yn diflannu) mae'n haws deall llawer o'r enwau hyn. Roedd duwies o'r enw Brigantia, a hefyd llwyth neu deyrnas fawr yng ngogledd Lloegr. Ar y cyfandir cawn Bregenz yn y Swisdir a Brianccon yn Ffrainc, ill dau yn perthyn i'n 'braint' ni. Wyddon ni ddim ai cyfeirio at le uchel y maen nhw neu ydyn nhw'n coffáu duwies.
Segovia
Glywsoch chi rieni yn y gogledd yn dweud wrth eu plant am beidio bod yn 'hy'? Nid 'powld, digywilydd' oedd ystyr wreiddiol y gair hwn ond 'cryf, cadarn'.
Efallai eich bod eisoes wedi sylwi bod Hafren yn cyfateb i Severn yn y Saesneg, ac un o'r rhesymau hyn oedd i 's' droi'n 'h' fel arfer yn y Frythoneg. Fe wnaethom ni weld bod y sain 'g' yn treiglo'n ddim [y 'g' yn diflannu] wrth i'r Celtaidd Brigantia droi'n 'braint', ac felly nid anodd yw gweld mai hen ffurf Gelteg 'hy' oedd *sego- ac mae hwn i'w weld yn Segovia yn Sbaen. Y gair o'r un tarddiad yn yr Almaeneg yw - zieg, 'buddugoliaeth'.
Gair arall sy'n tarddu o hwn yw *segont- 'bod yn gryf', ac mae'n siŵr bod llawer ohonoch eisoes wedi gweld mai hwn sydd yn Segontium, hen enw'r gaer Rufeinig ger Caernarfon. Trodd hwn yn (Afon) Saint. Ond roedd Segontium arall yn Sbaen, a rhoddodd hwn enw'r ddinas Sigüenza sydd yng nghanol y wlad.
Marne
Mae cymeriad chwedlonol yn y Mabinogion o'r enw Mabon fab Modron. Yn y bôn ystyr y ddau enw hyn yw rhywbeth fel 'y mab dwyfol' a'r 'fam ddwyfol'. Y ffurf Geltaidd am yr ail oedd Matrona, a dyma yw gwreiddyn enw'r afon Marne yn Ffrainc - afon wedi ei chysegru i'r dduwies hon. Mae llawer o afonydd a enwyd ar ôl duwiau yn yr hen fyd Celtaidd. Mam-dduwies oedd hon ac mae Matr- yn cyfateb i mother yn Saesneg ac i 'modryb' yn y Gymraeg.
Neumagen a Nijmagen
Hen ffurf 'newyddfa', sef 'maes agored newydd', oedd *Nouio-magos a rhoddodd hwn Neumagen yn yr Almaen a Nijmagen yn yr Iseldiroedd. Ond wyddon ni ddim beth yn union oedd yn newydd yma.
Trier
Beth am Trier yn yr Almaen? Enw llwyth oedd hwn, unwaith eto, sef Treueri. Nid ydym yn hollol sicr am ystyr yr elfen *tre-, ond mae'r ail elfen, *wer, yn golygu 'afon (sy'n llifo'n rymus)' ac mae'n cyfateb i Tryweryn.
Vienna
Prifddinas Awstria yw Vienna, a daw hwn o Uindo-bona, sef 'gwyn' a 'bôn'. Mae'n anodd gwybod sut i'w ddehongli, ond efallai fod yno adeilad neu gaer oedd yn wyn ei bôn, ond dyfalu yn unig yw hynny.
Lyon
Mae'n debyg bod llawer ohonoch yn gwybod am gysylltiadau Dinas Dinlle(u) â Lleu Llaw Gyffes yn y Mabinogi. Ystyr din yw 'caer, amddiffynfa'. O droi'r elfennau o chwith cawn Lleuddin. Hwn sydd wrth wraidd Lothian yn yr Alban. Ei hen ffurf Geltaidd fuasai *Lugu-dunon a rhoddodd hwn Lyons yn Ffrainc.
Geneva
Mae Geneva yn y Swisdir yng ngenau neu geg Llyn Leman, a dyna yw… 'genau'. Mae'n bosibl hefyd mai dyna yw ystyr Genoa yn yr Eidal.
Ardennes
Beth am yr Ardennes yng Ngwlad Belg, y bryniau uchel hynny yn ne'r wlad? Y bôn yw *ardu- 'uchel' ac mae i'w weld yn Harddlech (o arddlech) a'r llu o enwau Gwyddeleg sy'n cynnwys ard 'uchel'. Mae hefyd Aramon yn Ffrainc, sydd o bosib yn deillio o enw afon… sef afon 'araf'.
Bourges
Gorffennwn ag un arall, yr enw Bitu-riges a roddodd Bourges yn Ffrainc. Ystyr enw'r llwyth hwn yw 'brenhinoedd y byd' sef byd+rhi. Hen air am frenin oedd rhi. Mae'n perthyn i rex yn y Lladin ac i'w weld mewn enwau Cymraeg fel Rhodri.
Mae'r cyfandir yn frith o enwau Celteg.
Roedd sgwrs rhwng Dr Guto Rhys a Dewi Llwyd am olion y Gymraeg ar y cyfandir ar Dros Ginio, Radio Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: