Trenau Cymru yn 'llwm ers tro', medd gweinidog trafnidiaeth

  • Cyhoeddwyd
Transport for Wales train
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Waters yn mynnu y bydd pethau'n gwella wrth i Metro De Cymru ddatblygu

Mae rheilffyrdd Cymru wedi bod yn "eitha' llwm ers tro", yn ôl yr aelod o gabinet Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am eu moderneiddio.

Mae Lee Waters yn cyfaddef fod y profiad o ddefnyddio gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn gallu bod yn wael iawn, gyda threnau'n cael eu canslo ac yn orlawn.

Ond mae'n mynnu y bydd pethau'n gwella wrth i Metro De Cymru ddatblygu, ond mae'n cyfaddef fod y neges honno yn un anodd i'w lledaenu.

Mewn araith yng Nghaerdydd fe wnaeth Mr Waters gyhuddo gweinidogion San Steffan o gynllunio "dirywiad wedi'i reoli" yn rheilffyrdd Cymru.

Dywedodd hefyd y bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn achosi cyfyngiadau ar gyflymder trenau a mwy o fethiannau yn y gwasanaeth dros dro.

Dywedodd llefarydd ar ran adran drafnidiaeth Llywodraeth y DU fod sylwadau Mr Waters "ymhell iawn o'r gwir" a'u bod wedi "ymrwymo i wella gwasanaethau trenau i deithwyr yng Nghymru".

'Ddim yn llawer o gysur'

"Rwy'n profi'r rhwystredigaethau mae pob teithiwr arall yn eu profi," meddai Mr Waters wrth gynhadledd Rail Cymru.

Dywedodd fod cyfaddef i'w gyd-deithwyr ei fod yn weinidog trafnidiaeth yn medru bod yn "lletchwith".

"Pan mae'ch trên wedi'i ganslo, neu pan fod rhaid cwblhau taith ar fws, neu pan fo'r trên yn orlawn, dydych chi ddim eisiau clywed am y biliwn o bunnau sy'n cael ei wario ar y Metro, sy'n mynd i drawsnewid gwasanaethau yng Nghaerdydd a'r cymoedd," meddai.

"Na chwaith am y buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon sydd yn rhedeg ar linell Rhymni.

"Dyw hynny ddim yn llawer o gysur pan fo trên dau gerbyd yn llusgo mewn i Lanelli bron yn orlawn."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Lee Waters ei sylwadau mewn cynhadledd Rail Cymru yng Nghaerdydd

Ond mae Mr Waters yn addo y bydd pethau'n gwella.

"Wrth gwrs y bydd pethau'n gwella, ond mae marchnata yn methu'n llwyr yn wyneb ffyrnigrwydd profiadau teithwyr," meddai.

"Allwch chi ddim edrych ar luniau o drenau gorlawn heb gydnabod fod y profiad o ddydd i ddydd mae llawer o deithwyr yn ei brofi wedi bod yn llwm ers tro."

Mae egluro pwy sy'n gyfrifol am reilffyrdd Cymru yn medru bod yn gymhleth - tra bo Trafnidiaeth Cymru yn eiddo i Lywodraeth Cymru, tu hwnt i rwydwaith y cymoedd mae gweddill rhwydwaith Cymru yn dod dan reolaeth gweinidogion yn Llundain drwy'r corff sy'n gyfrifol am isadeiledd y rheilffyrdd, Network Rail.

'Cynllunio i waethygu'r perfformiad'

Yn ôl Mr Waters dyw cynlluniau buddsoddi San Steffan at y dyfodol yn ddim byd ond "dirywiad wedi ei reoli".

"Nid yma i feio Lloegr ydw i," meddai wrth y gynhadledd.

"Ond nid yn unig maen nhw wedi methu â buddsoddi mewn gwella'n rhwydwaith, ond nawr maen nhw'n cynllunio i waethygu'r perfformiad."

Gan sôn am "gyfnod rheoli" Network Rail rhwng 2024 a 2029, dywedodd fod y cyfnod yn mynd i "arwain at fwy o fethiannau yn yr isadeiledd, asedau yn dirywio fydd yn arwain at gyflymder is, gwasanaethau llai dibynadwy, a naill ai perfformiad sydd yn aros yn ei unfan neu'n gwaethygu".

Bydd Network Rail angen rhwng 10 a 15 mlynedd i ymateb i'r cynlluniau, meddai Mr Waters, gan ychwanegu mai "nid beio Network Rail ydw i".

"Maen nhw'n gweithredu gyda'u dwylo wedi clymu, gan weithio yn aml i orchmynion gwahanol iawn i weddill system drafnidiaeth Cymru," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran adran drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Mae'r sylwadau hyn ymhell iawn o'r gwir.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i wella gwasanaethau trenau i deithwyr yng Nghymru, gan fuddsoddi £2bn, swm sy'n fwy nag erioed o'r blaen, o Ebrill 2019 hyd at Fawrth 2024."