'Cynnydd sylweddol' mewn prisiau i deithwyr trên Cymru

  • Cyhoeddwyd
Trenau
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r newidiadau i rym ar 5 Mawrth

Mae defnyddwyr trenau Trafnidiaeth Cymru yn wynebu "cynnydd sylweddol" mewn prisiau o 5 Mawrth, yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion yng Nghaerdydd wedi penderfynu y bydd cap ar gynnydd o 5.9%, sef yr un faint â'r cynnydd yn Lloegr.

Dywedodd y dirprwy weinidog trafnidiaeth Lee Waters fod Llywodraeth Cymru "wedi ceisio cadw'r cynnydd i un mor fychan â phosibl".

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y DU bod Llywodraeth Cymru yn cael eu "hariannu'n dda" ganddyn nhw, tra bod Plaid Cymru yn "poeni" am y cynnydd yn ystod "argyfwng costau byw".

'Setliad cyllidebol siomedig'

Daw'r cyhoeddiad am y cynnydd ar ôl i Mr Waters rybuddio'r wythnos ddiwethaf am "wasanaeth sgerbwd" yn y rhwydwaith bysiau oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu parhau â chyllid cyfnod Covid y tu hwnt i'r haf.

Mae'r cyhoeddiad yn effeithio ar 45% o docynnau trên, gan gynnwys tocynnau tymor i deithwyr, rhai tocynnau dwy-ffordd ar adegau tawel, a rhai tocynnau Unrhyw Bryd.

Mae rhai tocynnau sydd ddim yn cael eu rheoleiddio, fel Tocynnau Ymlaen Llaw, felly dyw'r cap ddim yn effeithio ar y rheiny.

Mewn datganiad dywedodd Lee Waters fod prisiau tocynnau wedi cynyddu bob blwyddyn yn unol â chyfradd chwyddiant ers yr haf blaenorol.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru

"Eleni rydym am wneud pethau'n wahanol. Yn hytrach na chodi prisiau tocynnau 12.3% yn 2023, bydd cap ar gynnydd eleni o 5.9%, yr un faint â'r cynnydd yn Lloegr," meddai.

Fe wnaeth Mr Waters feio Llywodraeth y DU - sy'n darparu'r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru - am pam na allai fynd ymhellach.

"Rydyn ni'n deall bod hwn yn gynnydd sylweddol i deithwyr a hithau'n argyfwng costau byw, ond rydym wedi ceisio cadw'r cynnydd mor fach â phosibl," meddai.

"Ond gwaetha'r modd, oherwydd y setliad cyllidebol siomedig gan Lywodraeth y DU, nid ydym yn gallu fforddio cynnig cynnydd is nac yn gallu rhewi prisiau tocynnau trên yng Nghymru."

Ychwanegodd fod setliad y gyllideb gan Lywodraeth y DU, a llai o incwm gan deithwyr ers y pandemig, "yn golygu ein bod yn wynebu dewisiadau anodd os ydym am ddarparu gwasanaethau trên ar eu lefel bresennol yng Nghymru".

'Setliad ariannol uchaf erioed'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ei setliad ariannol uchaf erioed ac wedi'i hariannu'n dda i gyflawni ei chyfrifoldebau datganoledig.

"Mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu £18 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru, sef y swm uchaf erioed, a fydd yn cynyddu mewn termau real hyd at 2024-25."

Ond dywedodd llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell: "Yn ystod cyfnod o argyfwng costau byw, rwy'n poeni y bydd cynnydd o 5.9% mewn prisiau tocynnau (sef un o'r codiadau prisiau trên uchaf erioed) yn rhoi mwy fyth o bwysau ar aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd, a gallai atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Mae sicrhau bod teithiau trên yn parhau i fod yn fforddiadwy nid yn unig yn anghenraid amgylcheddol ond yn rhan allweddol o dwf economaidd.

"Mae Llywodraeth yr Alban yn treialu cynllun chwe mis i atal prisiau brig. Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru roi cynnig ar rywbeth tebyg - yn hytrach na dilyn esiampl Lloegr."