Amhariad i deithwyr Trafnidiaeth Cymru i barhau ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd
Trenau
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i wasanaethau ddechrau'n ôl yn raddol dros yr wythnosau nesaf

Bydd trafferthion yn parhau i deithwyr ar draws Cymru ym mis Ebrill ar ôl i gwmni Trafnidiaeth Cymru ganslo trenau yn dilyn sawl tân.

Cafodd mwy na 100 o wasanaethau eu canslo'n rhannol neu'n llawn ar ddechrau mis Mawrth wedi tri o "fethiannau mecanyddol".

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru eu bod yn cael problemau dod o hyd i'r darnau sydd eu hangen er mwyn cael y trenau'n weithredol eto.

"Mae angen gwneud pob atgyweiriad a gwiriad angenrheidiol ar ein trenau Class 175 cyn bod hawl ganddynt ddechrau gwasanaethu eto," dywedodd llefarydd ar ran TC.

"Ar gyfer rhai o'r trenau, rydym wedi darganfod bod angen gwaith atgyweirio injan ychwanegol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cytundeb Avanti West Coast wedi cael ei ymestyn yn dilyn gwelliannau i'r gwasanaeth

Dywedodd y cwmni eu bod yn ceisio dod o hyd i'r darnau angenrheidiol ac y bydd gwasanaethau yn dechrau eto'n raddol dros yr wythnosau nesaf.

"Rydym yn disgwyl i drafferthion barhau mewn i fis Ebrill," ychwanegodd llefarydd TC.

"Mae'n ddrwg iawn gennym am y trafferthion sydd wedi'u hachosi i siwrnai teithwyr tra ein bod yn cyflawni'r gwaith angenrheidiol yma."

Yn ôl gwefan TC ddydd Llun, bydd gwasanaethau bysiau yn rhedeg yn lle trenau rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, Abertawe a'r Amwythig, Wrecsam a Bidston, a Phontypridd a Threherbert.

Mae TC hefyd yn dweud bod trên sydd wedi torri i lawr yn achosi oedi rhwng Cryw a'r Amwythig fore Llun.

Datrysiad 'erbyn canol Ebrill'

Dywedodd Jan Chaudhry van der Velde, prif swyddog gweithrediadau TC, fod disgwyl i'r sefyllfa "wella yn raddol" ond bod hynny'n ddibynnol ar rannau mecanyddol yn cyrraedd i drwsio'r trenau.

"Bydd angen addasu'r injan ar gyfran fawr o'r trenau... mae'r broses honno bellach wedi dechrau yn nepo Caer.

"Mae'r cyfan yn dibynnu ar lif rheolaidd o'r darnau sbâr sydd eu hangen i ni wneud y gwaith atgyweirio.

"Rydym wedi gorfod edrych yn eang i wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o'r darnau sbâr sydd angen arnom ni, gan gynnwys mewnforio rhai rhannau o dramor."

Dywedodd y dylai'r holl drenau gael eu trwsio erbyn canol mis Ebrill, cyn belled ag y bydd y darnau'n cyrraedd mewn pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Avanti West Coast wedi cael eu rhybuddio y gallent golli'r cytundeb heb welliannau

Yn y cyfamser mae cytundeb Avanti West Coast wedi cael ei ymestyn am gyfnod o chwe mis ar ôl i welliannau gael eu gwneud, medd Llywodraeth y DU.

Mae'r cwmni wedi cael ei feirniadu am ddiffyg dibynadwyedd a phrydlondeb gyda rhai yn galw am iddynt golli'r cytundeb.

Dros yr haf fe wnaeth y cwmni dorri gwasanaethau oherwydd diffyg staff.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth y bydd y cytundeb nawr yn rhedeg tan 15 Hydref.

Roedd y cwmni - sy'n rhedeg trenau o ogledd Cymru, Llundain, Manceinion, Birmingham, Glasgow a Chaeredin - wedi cwtogi eu hamserlen haf diwethaf.

Roedd y cytundeb presennol fod i ddod i ben ar ddiwedd y mis yn dilyn ymestyniad dros dro ers mis Hydref.

Roedd y llywodraeth wedi rhybuddio bod angen gwneud gwelliannau ar frys neu gallai'r cwmni golli'r cytundeb.

Ond cyhoeddodd y llywodraeth bod y cytundeb wedi cael ei ymestyn am gyfnod pellach gan fod gwelliannau wedi cael eu gweld.

Pynciau cysylltiedig