Bwrsari i geisio denu mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd bwrsari a grant newydd yn cael ei gynnig i athrawon yn y gobaith o gynyddu nifer y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg.

Dywed Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, y bydd y bwrsari gwerth £5,000 yn cael ei gynnig i athrawon sydd wedi ennill Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen.

Fe fydd athrawon yn gymwys ar ôl cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal, mae ail rownd y grant i ysgolion ar gyfer adeiladu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg wedi agor, gyda chyfanswm o £800,000 ar gael.

Mae undeb athrawon UCAC wedi croesawu'r cyhoeddiad am y bwrsari a'r grant, gan ddweud ei bod hi'n "gynyddol anodd i recriwtio a chadw aelodau newydd yn y proffesiwn".

'Cryfhau'r gweithlu addysg Gymraeg'

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu'r weledigaeth ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i gyflawni uchelgais y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg.

Bydd y bwrsari newydd ar gael i ddechrau tan Hydref 2028, er mwyn asesu a yw'n llwyddo i annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros ynddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bwrsari yn cael ei gynnig i athrawon sydd wedi cymhwyso ers Awst 2020

Yn ôl y llywodraeth, bwriad y cynllun grant ydy rhoi grantiau bach i ysgolion fel y gallan nhw "ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys yr heriau recriwtio sy'n eu hwynebu".

Dyma'r ail flwyddyn i'r cynllun grant gael ei redeg, gyda'r llywodraeth yn dweud bod y prosiectau yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys:

  • Penodi prentisiaid tuag at fod yn gynorthwywyr dysgu;

  • 12 o ysgolion uwchradd yn gweithio gyda'i gilydd ar ddarpariaeth ar y cyd ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 a oedd yn ail-sefyll arholiadau TGAU;

  • Dysgu proffesiynol i roi rhagor o sgiliau i staff ddysgu pynciau ychwanegol fel y gwyddorau;

  • Ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn gweithio gyda'i gilydd i recriwtio is-raddedigion mewn pynciau lle mae prinder i weithio'n rhan amser er mwyn rhannu eu harbenigedd mewn pwnc a magu profiad addysgu.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jeremy Miles, y gobaith yw "sicrhau bod mwy o bobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ar gyfer gyrfa"

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles: "Un o'n blaenoriaethau mwyaf ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yw sicrhau bod gennym ddigon o athrawon i ateb y galw am ddysgu yn y Gymraeg.

"Bydd y pecyn hwn o gefnogaeth yn cryfhau ein gweithlu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ar gyfer gyrfa."

'Anodd cadw athrawon'

Dywedodd undeb athrawon UCAC eu bod yn edrych ymlaen at glywed manylion pellach ynglŷn â'r bwrsari a pha amodau fydd ynghlwm wrtho.

"Mae hi'n dod yn gynyddol anodd i recriwtio a chadw aelodau newydd yn y proffesiwn; yn wir mae'n argyfwng mewn rhai ardaloedd ac mewn rhai pynciau, felly mae unrhyw ymdrech i liniaru'r broblem i'w chanmol," meddai'r undeb mewn datganiad.

"Mae gan fyd addysg ac athrawon yn benodol rôl allweddol i'w chwarae er mwyn gwireddu'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050."

Mae UCAC hefyd wedi croesawu'r ffaith y bydd y grant ar gael am flwyddyn arall i fynd i'r afael â heriau recriwtio, gan ddweud eu bod "yn hyderus y bydd y grant hwn yn esgor ar brosiectau diddorol".