Llandudno: Cynllun i symud geifr enwog y Gogarth

  • Cyhoeddwyd
Geifr ar y strydFfynhonnell y llun, George Good
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y geifr wedi bod yn mentro'n bellach yn ystod y pandemig

Bydd cynllun rheoli newydd yn ceisio cyfyngu ar y nifer geifr y gwelir yn Llandudno drwy adleoli'r anifeiliaid.

Mae Cynllun Rheoli Geifr Gwylltion newydd Cyngor Conwy yn dogfennu ffyrdd y gellir rheoli'r geifr Kashmiri ers i lawer fentro i lawr o'r Gogarth yn ystod anterth y pandemig.

Gan weithio gyda'r cyngor tref, Ystadau Mostyn, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r RSPCA, mae'r cynllun yn ystyried ffyrdd newydd o reoli'r anifeiliaid er mwyn lleihau'r adegau lle maent yn gwrthdaro â thrigolion y dref

Mae'r dulliau presennol o reoli'r boblogaeth geifr a'u symudiadau yn cynnwys bugeilio'r anifeiliaid, atal cenhedlu, ac adleoli.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gafr ar Ben y Gogarth

Yn ôl swyddog strategaeth amgylcheddol arweiniol Conwy, Sophie Birchall, mae 153 o eifr ar y Gogarth ar hyn o bryd, gan gynnwys grŵp llai yn pori o amgylch Ffordd Nant y Gamar yng Nghraig y Don.

"Rydym wrthi'n edrych ar strategaethau adleoli ac yn estyn allan at wahanol sefydliadau i weld a allwn gael rhywfaint o adleoli ar sail cadwraeth oherwydd mae'n rhaid iddo fod yn iawn i'r geifr," meddai.

"Ni allwn eu hanfon i jyst unrhyw le."

Ond er i'r geifr ddenu sylw yn y newyddion rhyngwladol yn ystod anterth Covid, gan roi Llandudno ar y map, fe achosodd yr anifeiliaid ddifrod eang i eiddo a gerddi preswylwyr - ac maent wedi parhau i wneud hynny.

Dywedodd yr adroddiad mai'r perchnogion sy'n gyfrifol am warchod eu tir, nid y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y geifr wedi bwyta coed a phlanhigion Ysgol San Siôr yn Llandudno

Dywedodd y Cynghorydd Paul Luckock ei fod yn bryderus am drigolion nad oedd yn gallu sicrhau eu heiddo.

"Er fy mod yn derbyn yn llwyr mai mater i'r tirfeddianwyr preifat yw amddiffyn eu heiddo, mae yna dirfeddianwyr sy'n agored i niwed," meddai.

Ychwanegodd fod cadwraeth, treftadaeth, a rheoliadau cynllunio hefyd yn atal rhai trigolion rhag addasu eu heiddo i'w amddiffyn yn ddigonol.

Dywedodd y Cynghorydd Louise Emery fod yna "nifer o drigolion sydd wir yn ei chael hi'n drallodus pan fydd eu gardd fach yn cael ei fwyta, ac mewn gwirionedd nid oes llawer y gallant ei wneud am y peth".

"Dydw i ddim yn siŵr beth mae'r trigolion ei eisiau oherwydd maen nhw'n caru'r geifr ac ar yr un pryd yn eu casáu pan maen nhw yn eu gardd, a phe baen ni byth yn awgrymu difa, bydden ni i gyd yn cael ein taflu allan o Bodlondeb [bencadlys y cyngor] yn syth."

Fe gefnogwyd yr adroddiad yn unfrydol ac bydd nawr yn cael ei ystyried gan y cabinet.

Pynciau cysylltiedig