Prawf gwaed newydd i 'gyflymu diagnosis canser'

  • Cyhoeddwyd
Sian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Morgan bod datblygiadau yn y saith mlynedd ddiwethaf wedi bod yn drawsnewidiol

Canser yr ysgyfaint yw'r math o ganser sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau yng Nghymru, yn rhannol oherwydd bod cymaint o gleifion yn cael diagnosis hwyr.

Ond mae yna obaith y gallai bywydau gael eu hachub gan mai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru fydd y cyntaf yn y DU i gynnig a dadansoddi canlyniadau prawf gwaed arloesol newydd.

Yn ôl arbenigwyr fe fydd y prawf yn caniatáu diagnosis cyflymach.

Mae'r prawf biopsi hylifol newydd yn edrych am olion o gôd genetig (DNA) canser mewn samplau gwaed yn hytrach na dadansoddi samplau o feinwe fel sy'n digwydd mewn profion biopsi traddodiadol.

Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd â strategaeth ddiagnosteg newydd Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at gynyddu capasiti gwasanaethau "yn gyflym".

Y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau amseroedd aros am nifer o driniaethau sydd wedi ymestyn yn sylweddol yn ystod cyfnod y pandemig.

'Cyflymder yn hollbwysig'

Canser yr ysgyfaint yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith menywod, a'r pedwerydd mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru.

Mae'r mwyafrif o unigolion yn cael diagnosis yn gymharol hwyr, pan fod y canser wedi cyrraedd cam 3 neu 4, sef y camau mwyaf datblygedig.

Dim ond 16% sy'n goroesi am flwyddyn wedi cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint cam 4.

Yn ôl arbenigwyr fe allai'r profion biopsi hylifol arwain at chwyldro yn yr ymdrech i ddod o hyd i ganser yn gynharach.

Wrth edrych am olion DNA canser mewn samplau gwaed mae'r profion yn gyflymach ac yn llai ymosodol ar gleifion o gymharu â chymryd samplau o feinwe fel sy'n digwydd mewn profion biopsi traddodiadol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan y bydd y strategaeth newydd yn sicrhau bod digon o adnoddau ar gael ar gyfer ymchwil pellach

"Ry'n ni mor falch o allu dod â'r dechnoleg yma i Gymru. Ni yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig a'r cyntaf yn Ewrop i wneud hynny," dywedodd Sian Morgan, pennaeth Labordy Genomeg Cymru.

"Mae Cymru ar flaen y gad yn y byd genomeg oherwydd y buddsoddiad yr ydyn ni wedi'i gael wrth Lywodraeth Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf.

"Beth sy'n digwydd ar hyn o bryd yw fod claf yn mynd at y meddyg teulu â symptomau efallai o ganser. Wedyn ma'n rhaid iddyn nhw fynd i weld arbenigwr sy'n cymryd biopsi.

"A dyw cymryd biopsi ddim yn broses neis iawn ac ambell waith mae'r claf yn rhy sâl i gael un.

"Ma' ganddon ni'r dechnoleg nawr sy'n gallu pigo lan y markers yn y gwaed sy'n ein galluogi ni i adnabod canser a dechrau triniaethau yn fwy cynnar, ac mae'n bwysig iawn cael y triniaethau yma i'r cleifion cyn gynted â phosib.

"Mae cyflymder yn hollbwysig, yn enwedig gyda chanser yr ysgyfaint."

Ychwanegodd: "Dwi 'di bod yn gweithio yn y labordy genomeg ers 30 mlynedd ac mae'r datblygiadau sydd wedi digwydd yn y saith mlynedd ddiwethaf wedi bod yn drawsnewidiol."

Disgrifiad o’r llun,

Mae amseroedd aros am brofion diagnostig wedi cwympo ychydig ers Gorffennaf 2020

Y cam nesaf yn y broses o gyflwyno'r prawf yn ehangach fydd cynnal treial clinigol gyda 1,260 o gleifion sy'n cael eu hamau o gael canser yr ysgyfaint cam 3 neu 4.

Fe fyddan nhw'n cael prawf biopsi hylifol yn ogystal â'r profion arferol, sef biopsi meinwe ac asesiad genomeg o feinwe, er mwyn asesu pa mor effeithiol yw'r prawf newydd a sut orau i'w ddefnyddio.

Fe allai'r treial hefyd gynnig cipolwg ar sut gellid defnyddio'r math yma o brawf a thechnoleg ar gyfer mathau eraill o ganser yn y dyfodol.

Targedau gwasanaethau diagnosteg

Mae'r cyhoeddiad am y prawf yn cyd-fynd â lansio strategaeth newydd Llywodraeth Cymru i adfer a thrawsnewid gwasanaethau diagnosteg.

Y nod yw cynyddu capasiti gwasanaethau yn gyflym.

Bydd y gwasanaeth iechyd yn sefydlu Bwrdd Diagnosteg newydd a bydd cyfarwyddwr clinigol newydd yn cael ei benodi i arwain y gwaith.

Mae'r strategaeth yn cynnwys sawl ymrwymiad gan gynnwys:

  • Cynyddu'n sylweddol yr hyfforddiant ar gyfer arbenigwyr diagnosteg yn cynnwys gwyddonwyr, radiograffwyr ac arbenigwr sy'n gweithio mewn gofal sylfaenol;

  • Datblygu canolfannau diagnosteg cymunedol a rhanbarthol;

  • Gwneud mwy o ddefnydd o labordai y tu hwnt i ysbytai yn cynnwys mewn prifysgolion a diwydiant;

  • Gwneud mwy o ddefnydd o gynllunio cenedlaethol ar gyfer sganiau cymhleth fel PET-CT.

Yn ôl y strategaeth y nod yw "adfer gwasanaethau diagnosteg erbyn 2025 a gosod y sylfaeni ar gyfer cynaladwyedd mwy hir dymor".

'Gwneud y mwyaf o'r dechnoleg'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Ry'n ni'n ymwybodol fod lot o bobl sy'n aros am driniaeth ar y gwasanaeth iechyd - 80% ohonyn nhw yn aros am ryw fath o brawf diagnosteg, felly ry'n ni angen cyflymu'r broses.

"Fe fyddwn ni'n sicrhau yn y strategaeth bod digon o hyfforddiant ar gael, digon o arian cyfalaf ar gyfer cyfarpar a digon o adnoddau ar gyfer ymchwil.

"Fyddwn ni hefyd yn ceisio gwneud y mwyaf o'r dechnoleg ddiweddar sy'n mynd i'n helpu ni yn y maes yma."

Mae'r strategaeth hefyd yn ailadrodd targed perfformiad newydd ar gyfer gwasanaethau diagnosteg gafodd ei gyflwyno llynedd sef "i sicrhau bod amseroedd rhwng atgyfeirio ac adrodd y canlyniadau... yn gostwng i wyth wythnos erbyn gwanwyn 2024".

Pynciau cysylltiedig