Galw am 'fesurau radical' i ddiogelu'r Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ardaloedd yng Nghaerdydd wedi gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg

Mae angen cyfres o "fesurau radical" i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg mewn cymunedau sy'n draddodiadol yn gadarnleoedd yr iaith, yn ôl un grŵp ymgyrchu.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd mudiad Dyfodol i'r Iaith eu bod wedi cyflwyno nifer o argymhellion i gomisiwn arbennig gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru a hynny'n dilyn canlyniadau'r cyfrifiad diweddar.

O ran ffigyrau'r cyfrifiad, Sir Gâr welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr ond yng Nghaerdydd roedd cynnydd sylweddol mewn rhai ardaloedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Doedd penawdau'r cyfrifiad ddim beth roedden ni'n gobeithio ei weld. Ond mae'n bwysig nodi bod mwy i'r stori na dim ond y pennawd, ac mae mwy i bolisi iaith na dim ond y cyfrifiad.

"Ciplun o'r degawd diwethaf sydd yn nata'r cyfrifiad - degawd lle y gwnaethon ni gyhoeddi Cymraeg 2050 yn 2017 a gosod sylfeini cadarn i'r Gymraeg dyfu a chreu Cymru wirioneddol ddwyieithog."

Fe welodd Gymru gwymp o 1.2% yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y ddegawd ddiwethaf ac felly rhyw 538,000 sy'n medru'r iaith erbyn hyn.

Allan o'r 10 cymuned yng Nghymru welodd gynnydd yn nifer y siaradwyr, roedd saith yng Nghaerdydd.

Fe welodd Caerdydd gynnydd o 11.1% i 12.2% gydag ardal Parc Fictoria yn gweld y cynnydd mwyaf o 6.8% a Threganna yn ail gyda chynnydd o 4% ers 2011.

Yn Sir Gâr yn y gorllewin roedd yna gwymp o ryw 43.9% i 39.9%.

Roedd 6 allan o'r 10 cymuned, a welodd y cwymp mwyaf yng Nghymru, yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r cymunedau hynny yn cynnwys Brynaman, Y Garnant a Glanaman - a welodd ostyngiad o 9.7%.

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Jones: 'Angen rhywbeth i ddenu ac yna cadw pobl yn Sir Gâr"

I Hanna Medi Merrigan a Lowri Jones - ffrindiau sy'n byw yng Nghaerdydd - roedd symud i'r brifddinas o'r gorllewin yn ddewis amlwg.

"O'dd y ddwy ohonom ni ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'r ddwy ohonom ni wedi bennu lan yng Nghaerdydd," meddai Lowri Jones, yn wreiddiol o Borth Tywyn.

"A fi'n credu ma' hwnna'n apelio i bobl oedran gweithio fel ni, i symud i Gaerdydd ac mae'r [Gymraeg] yn ein cadw ni yma

"Fi yn teimlo bach yn euog fod niferoedd yn Sir Gâr yn lleihau, ond mae angen rhywbeth i ddenu ac yna cadw pobl yn Sir Gâr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hanna Medi Merrigan fod Caerdydd yn cynnig magwraeth Gymraeg ac amrywiaeth

I Hanna Medi Merrigan mae magwraeth Gymraeg mewn dinas sy'n cynnig amrywiaeth i'w merch Marged yn un rheswm dros symud o bentref Pontyberem i Gaerdydd.

"Dwi'n gwybod bod fy merch i'n mynd i gael ei magu mewn ardal ble mae'n mynd i ddod i gyswllt gyda diwylliannau, o bosib bydde hi ddim yn cael yr un cyfleoedd yn y gorllewin," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Roberts: 'Peidio colli ffocws'

Mae Dyfodol i'r Iaith wedi ymateb i Gomisiwn Cymunedau Cymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru gan ddweud fod angen cyfres o "fesurau radical" i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith.

"Rhydd i bobl fyw ble bynnag y mynnon nhw, mae yn bwysig bod pobl yn cael cyfle i fyw mewn llefydd, cymunedau newydd i ymestyn eu profiad bywyd," meddai Dylan Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith.

"Ond cyn bwysiced ag yw hi i bobl ifanc Cymraeg fynd i Gaerdydd i weithio a chael addysg mae'n rhaid i ni hefyd beidio â cholli ffocws ar bobl ifanc sy' 'di mynd i addysg bellach sy'n llawer mwy tebygol o fyw yn eu cymunedau.

"Mae nifer fawr o ffactorau angen eu hystyried i geisio mynd i'r afael â hyn - mae'n ymwneud â thai, gwaith a dylanwad ymhlith rhieni ifanc newydd."

'Rhan o batrwm'

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dylan Foster Evans fod byw bywyd Cymraeg yng Nghaerdydd yn hawdd iawn

"Yr hyn ni am weld yw cynnydd ymhob man nid bod un ardal yn cynyddu ar draul ardal arall," medd Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

"Ers degawdau mewn gwirionedd ni'n gallu gweld y patrwm yma yn dechrau - nôl yn y 50au a'r 60au.

"Bryd hynny, cyflogwyr megis y BBC, ITV ym Mhontcanna a'r amgueddfa werin, y math yna o gyflogwyr [oedd yn denu].

"Be' sy' 'di newid, yw bod 'na strwythurau yma rwan sy'n gwneud byw bywyd Cymraeg yn hawdd iawn.

"Mae yna ysgolion cynradd yma gyda thros fil o blant mewn addysg Gynradd Gymraeg yn y ward yma [Treganna] yn unig."

Pynciau cysylltiedig